Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640

WOMEX 2026 – Gran Canaria, 21-25 October
Delegate bursaries for sector professionals and artists developing collaborations
WOMEX – Worldwide Music Expo – is the largest gathering of the global music scene, featuring a trade fair, conference, and a programme of showcase concerts. The event takes place this year in Gran Canaria from 21 to 25 October, and Tŷ Cerdd (with support from Wales Arts International/WAI) is offering bursaries to support delegate participation from Wales.
The priorities for this year’s Cymru bursaries are:
-
creating routes for international Indigenous and other global majority artists into Wales;
-
presenting Wales’s lived experience of transferring language through Cymraeg and through the arts.
For more information / context on WAI’s work in this area, please see this site and this short clip.
Six bursaries will be awarded to venues / festivals / presenters / agents working in these priority areas, and to artists looking to develop collaborations around the bursary themes.
To find out more about WOMEX and this opportunity, join our information Zoom on Thursday 30 July, 10:00am. REGISTER HERE
Application details and deadline
Six bursaries are available (to cover delegate pass, hotel & flight)
To apply please upload the following information to our PORTAL by 10:00am on Wednesday 12 August:
-
Name, address, email address, mobile number, website, social media handles (for you or the organisation you are representing)
-
2 audio/audio-visual links to your music (if you are an artist)
-
Short description of your practice/professional work (up to 100 words)
-
Please explain how you and your work meet one or both of the bursary priorities, including your collaboration ideas (if you are an artist) (up to 350 words)
-
Have you attended WOMEX before? If yes, what were the outcomes? (up to 200 words)
-
What would your aims be in attending the 2026 event? How could WOMEX develop your work around the bursary priorities? (up to 250 words)
NB: Video and audio applications are also welcomed. Record your answers to questions
3, 4, 5 and 6 above (up to 5 minutes’ duration), and upload the information requested in questions 1 and 2 to the upload form. If you need help creating links, email us for help.
Notes to applicants
-
Genre
WOMEX covers a broad artistic range, ranging from the most traditional to the new global local underground, embracing folk, roots, jazz, local and diaspora cultures, and Indigenous Languages as much as urban and electronic sounds from all over the globe -
Availability
Please only apply if you are certain that you are available for the whole of the WOMEX period. -
Equality, diversity & inclusion
We are keen to receive applications from individuals who are under-represented / have faced neglect or exclusion from the arts community; we particularly welcome applications from disabled people, Black, Asian and ethnically diverse people, LGBTQ+ people, and people from lower socio-economic backgrounds. -
Evaluation
Awardees will be required to work with WAI to test their Evaluation Framework and report back on the experience and outcomes. -
Queries
If you have any queries about the bursaries, the event, any access requirements, and want to discuss a potential application please email and we can arrange a conversation. -
Panel
Names to be published soon -
Timeline
All applicants will be informed of the decisions by the end w/b 17 August

WOMEX 2026 – Gran Canaria, 21-25 Hydref
Bwrsariaethau cynrychiolwyr ar gyfer gweithwyr proffesiynol y sector ac artistiaid sy'n datblygu cydweithrediadau
WOMEX – Worldwide Music Expo – yw'r cynulliad mwyaf yn y byd ar gyfer y sector cerddoriaeth ryngwladol, gan gynnwys ffair fasnach, cynhadledd a rhaglen o gyngherddau arddangos. Cynhelir y digwyddiad eleni yn Gran Canaria rhwng 21 a 25 Hydref, ac mae Tŷ Cerdd, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (WAI), yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi cynrychiolwyr o Gymru i fynychu.
Blaenoriaethau bwrsariaethau Cymru eleni yw:
-
creu llwybrau i artistiaid Brodorol rhyngwladol ac artistiaid o gymunedau mwyafrif byd-eang eraill gysylltu â Chymru;
-
cyflwyno profiadau byw Cymreig o drosglwyddo iaith drwy'r Gymraeg a thrwy'r celfyddydau.
Am wybodaeth bellach / cyd-destun gwaith WAI yn y maes yma, gweler y tudalen hwn a'r ffilm fer hon.
Bydd chwe bwrsariaeth ar gael i leoliadau / gwyliau / artistiaid / cyflwynwyr / asiantau sy'n gweithio yn y meysydd blaenoriaeth hyn, ac i artistiad sy’n edrych i ddatblygu cydweithrediadau o gwmpas themâu'r fwrsariaeth
I gael rhagor o wybodaeth am WOMEX a'r cyfle hwn, ymunwch â'n sesiwn wybodaeth ar Zoom ar ddydd Iau 30 Gorffennaf am 10:00yb. COFRESTRWCH YMA
Manylion y cais a'r dyddiad cau
Mae chwe bwrsariaeth ar gael (yn cynnwys pas cynrychiolydd WOMEX, llety a hediadau).
I wneud cais, uwchlwythwch y wybodaeth ganlynol i'n PORTAL erbyn 10:00yb ddydd Mercher 12 Awst:
-
Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan a dolenni i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol (sy’n perthyn i chi neu'r sefydliad rydych yn ei gynrychioli).
-
Dau ddolen sain neu glyweledol i'ch cerddoriaeth (os taw artist ydych chi).
-
Disgrifiad byr o'ch ymarfer artistig neu'ch gwaith proffesiynol (hyd at 100 gair).
-
Esboniwch sut mae eich gwaith yn bodloni un neu'r ddwy o flaenoriaethau'r bwrsariaethau gan gynnwys eich syniadau am gydweithrediad (os ydych yn artist).(hyd at 350 gair)
-
Ydych chi wedi mynychu WOMEX o'r blaen? Os felly, beth oedd y canlyniadau? (hyd at 100 gair).
-
Beth fyddai eich prif amcanion wrth fynychu WOMEX 2026? Sut y gallai WOMEX datblygu’ch gwaith o gwmpas blaenoriaethau’r fwrsariaeth? (hyd at 250 gair)
Noder: Rydym yn croesawu ceisiadau ar ffurf fideo neu sain.
Gallwch recordio eich atebion i gwestiynau 3, 4, 5 a 6 uchod (hyd at 5 munud o hyd), ac uwchlwytho'r wybodaeth y gofynnir amdani yng nghwestiynau 1 a 2 drwy'r ffurflen uwchlwytho. Os oes angen cymorth arnoch i greu dolenni, cysylltwch â ni drwy e-bost a byddwn yn hapus i helpu.
Nodiadau i ymgeiswyr
-
Genre
Mae WOMEX yn cwmpasu ystod eang o gerddoriaeth, o'r traddodiadol i'r arloesol, gan gynnwys cerddoriaeth werin a thraddodiadol, roots, jazz, diwylliannau lleol a diaspora, ac ieithoedd brodorol yn ogystal â sain drefol ac electronig o bob cwr o'r byd.
-
Argaeledd
Gwnewch gais dim ond os ydych yn sicr y gallwch fod yn bresennol drwy gydol cyfnod WOMEX.
-
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd wedi'u tangynrychioli neu sydd wedi profi diffyg cyfleoedd neu allgáu o fewn y celfyddydau. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac o gefndiroedd ethnig amrywiol, pobl LHBTC+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai breintiedig.
-
Gwerthuso
Bydd gofyn i'r rhai sy'n derbyn bwrsariaeth gydweithio â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i dreialu eu Fframwaith Gwerthuso ac adrodd ar eu profiad a'r canlyniadau.
-
Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y bwrsariaethau, y digwyddiad, unrhyw ofynion mynediad, neu os hoffech drafod cais posibl, cysylltwch â ni drwy e-bost a gallwn drefnu sgwrs.
-
Y panel asesu
Cyhoeddir enwau aelodau'r panel yn fuan.
-
Amserlen
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad erbyn diwedd yr wythnos sy'n dechrau 17 Awst.



