top of page

Diwrnod Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru yn Chapter,

Dydd Mawrth 15 Hydref 2024
rhan o Mis Hanes Pobl Dduon 2024 – Adennill Naratifau
10:30-18:30 (ac wedyn noson o berfformiadau cerddoriaeth am ddim)

 

Wedi’i gyflwyno gan Mirain Iwerydd a Roger Wilson

Ymunwch â TÅ· Cerdd, Black Lives in Music a TÂN Cerdd yn Chapter i gael diwrnod yn dathlu cerddorion Du, Asiaidd ac Aml-Ethnig yng Nghymru – a’r ffocws ar gydweithio i ddileu rhwystrau.

 

12 artist – rhai yn perfformio’n unigol, rhai gyda bandiau, o amrywiaeth o genres. Bydd tri pherfformiad arddangos, ac yn ganolog i’r digwyddiad bydd symposiwm sydd â ffocws ar weithredu.

 

Os ydych chi’n rhan o’r byd cerdd yng Nghymru, rydym eich angen chi yno – nid yw newid yn gallu digwydd heb eich llais chi yn yr ystafell!

 

Mae’r tocynnau yn rhad ac am ddim (ac yn cynnwys cinio a lluniaeth ysgafn), ond mae niferoedd yn gyfyngedig – felly os byddwch yn cofrestru, arhoswch drwy’r dydd

 

AMSERLEN
10:30 Coffi a chofrestru (Cyntedd y Sinema)
11:00 Arddangosiad #1: perfformiad byw gan bedwar artist (Stiwdio) wedyn cinio ysgafn
13:15 Arddangosiad #2: perfformiad byw gan bedwar artist, a dwy ffilm fer (Theatr)
14:45 Symposiwm – siaradwyr; trafodaeth banel; cyfarfod llawn a chamau gweithredu (Theatr)
17:00-18:30 Arddangosiad #3: perfformiad byw gan bedwar artis (Stiwdio)
o 18:30 ymlaen set DJ gan DJ Jaffa (Bar y Caffi)

​

ARCHEBWCH EICH LLE YMA

​

​

​ARTISTIAID

Bragod.jpg

Mae Bragod yn perfformio cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg ganoloesol trwy arbrawf a dychymyg, gan ddefnyddio offerynnau a ffynonellau gwreiddiol. A hithau’n dod o Drinidad, mae Mary-Anne Roberts yn defnyddio ei chefndiroedd carnifal, adrodd straeon, dawns a theatr i ganu barddoniaeth yn feiddgar wrth ddawnsio patrymau deuaidd hen gerddoriaeth Gymraeg. Mae Robert Evans yn chwarae’r crwth, sef telyn bwa ganoloesol y mae ef wedi’i hadfywio.

eady.jpg

Deuawd ddwyieithog o Ferthyr Tudful yw EADYTH, ac maen nhw’n gwneud tonnau yn y sîn roc amgen drwy sain sy’n cyfuno isleisiau soul â roc trwm, grunge, nu metal, a rhigolau roc electro blaengar. Eady Crawford yw cynhyrchydd, cyfansoddwr caneuon, prif leisydd, a gitarydd rhythm y band, a Rhodri Foxhall yw’r prif gitarydd a chyd-gyfansoddwr y mae ei waith gitâr deinamig yn ychwanegu dyfnder i’w cerddoriaeth.

Jessica 1_edited.jpg

Artist aml-genre o Gaerdydd yw Jessika Kay. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar R&B a Neo-Soul, ac yn defnyddio geiriau a llais llawn enaid arallfydol i gysylltu â phobl ledled y byd. Ers cychwyn ar ei thaith yn 2023, mae Jessika Kay eisoes wedi profi ei hun i fod yn berfformiwr medrus sydd â phersonoliaeth fawr.

ManLikeVision_edited.jpg

Ers ei fynediad ffrwydrol i’r sîn gyda Best Believe ym mis Ionawr 2021 a’i albwm cyntaf Boy from the South a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, mae ManLikeVision, a aned yng Nghasnewydd, wedi denu sylw ar hyd a lled y wlad ac wedi dod yn adnabyddus am ei allu i neidio ar unrhyw guriad, unrhyw dempo, unrhyw lwyfan fwy neu lai, a chyflwyno perfformiad sy’n cystadlu â rhai o’r emcees enwocaf yn y wlad.

May Swoon Promo 1_edited.jpg

May Swoon yw prosiect synth-pop avant-garde yr act solo seibrpync Neo Ukandu o Nigeria-Cymru. Bathwyd yr enw May Swoon ym mis Tachwedd 2023, lle cafodd Neo eu set fyw gyntaf yn y Moon Club, Caerdydd. Erbyn hyn mae May Swoon yn falch o gael perfformio ei steil nodweddiadol o synth-pop avant-garde wedi’i ysbrydoli gan arddull mwyaf posibl yr 80au, ac arddull ôl-bync dim-tonfedd mewn llefydd fel Bryste, Llundain a’r union le a roddodd gartref iddynt yn y byd cerddorol, Caerdydd.

image00004_edited.jpg

Mae Samantha, yn gantores/cyfansoddwraig ffync, soul, afrobeats sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Caiff ei hysbrydoli gan artistiaid sy’n cynnwys Childish Gambino, Greentea Peng, Erykah Badu, Daft Punk, a llawer mwy, i greu ei sain ei hun.

Simmy Singh_edited.jpg

Mae Simmy Singh yn feiolinydd ac yn gyfansoddwraig o Gymru sydd am weithredu er lles y Ddaear. Ei chenhadaeth yw uno pŵer cerddoriaeth a chysylltiad â natur i ailgysylltu pobl â’u hunain, â’i gilydd ac â’r byd naturiol. Mae ei gyrfa eang wedi cynnwys cyd-sefydlu Manchester Collective, a chwarae gydag ystod eang o artistiaid ac ensembles. Hi yw Cydymaith Creadigol Sinfonia Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi derbyn “Cymrodoriaeth Dyfodol Cymru” Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n rhoi cyfle i wyth artist yng Nghymru archwilio sut mae celf yn helpu cysylltu â byd natur.

Thalia 1.jpg

Mae Thalia Ellice yn gantores-gyfansoddwr ddeinamig sy’n asio Alt-R&B a Pop, ac yn llwyddo i grefftio sain sy’n taro gwrandawyr ar lefel emosiynol ddofn. Mae ei cherddoriaeth wedi’i gwreiddio yn ei phrofiadau o’i bywyd personol, gan archwilio themâu fel cariad, hunaniaeth, a gwytnwch. Gyda llais teimladwy a geiriau twymgalon, mae Thalia yn gwahodd ei chynulleidfa i gysylltu â’i thaith drwy adrodd straeon pwerus ac alawon bythgofiadwy.

The Honest Poet_edited.jpg

Mae Xempa yn brosiect cerdd newydd dan arweiniad yr artist Cymreig The Honest Poet. Gan gymysgu soul, R&B, y gair llafar a hip hop, mae Xempa yn creu sain newydd adfywiol, amrwd a phwerus iawn.

Yingzi.jpg

A hithau wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd Meistr mewn Perfformio Lleisiol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cafodd Yingzi Song ei geni a’i magu yn Tsieina. Mae’n angerddol dros gysylltu ac arddangos diwylliannau Cymreig a Tsieineaidd trwy gerddoriaeth. Yingzi oedd yr enillydd cyntaf o Tsieina i ennill gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â chymryd rhan ar lwyfannau operatig, mae ei phoblogrwydd hefyd yn tyfu ar lwyfannau cyngerdd ledled Cymru a Tsieina.

Amruta-Wales-scaled.jpg

Dechreuodd taith Zero Mile yn India, wrth iddynt ymdrwytho yn ei thraddodiadau cerddorol dwfn. Cantores glasurol Indiaidd amryddawn sy’n fedrus mewn harmoniwm a thanpura yw Amruta ac mae’n dod â genres cerddoriaeth Indiaidd i Zero Mile (sef Amruta, Jo, Richard a Pete). Trwy eu perfformiadau, mae Zero Mile yn asio dylanwadau’r Dwyrain a’r Gorllewin gyda’i gilydd heb fwlch.

Zoila_edited.jpg

Cantores Ladin-Americanaidd yw Zoila Garman sydd ag enaid creadigol. Mae ei rhythmau yn gymysgedd o Reggaeton, Afrobeats, ac R&B sy’n tarddu o wlad ei mam, Gweriniaeth Dominica. Mae ganddi sioe ar Radio Cardiff bob dydd Sadwrn am 1pm, lle mae’n cyflwyno artistiaid newydd a rhythmau Affro-Latino difyr ac ysgogol. Mae ei hangerdd am gerddoriaeth yn heintus ac mae ei llais yn bwerus a melodaidd.

Showcase logo strip revised.png
bottom of page