Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Cyfansoddwr y Mis Brian Hughes yn sôn am y darnau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Fy atgof cerddoriaeth glasurol cynharaf
Y darnau cyntaf un rwyn gofio'n glir oedd astudiaethau Czerny ar gyfer y piano, a hefyd Beethoven's Sonata in G, op49, rhif 2 (ffefryn gennyf mewn cyngherddau).
Y darn wnaeth fy ysbrydoli i fod yn gyfansoddwr
Y darn a'm hysbrydolodd i anelu at fod yn gyfansoddwr oedd y nefolaidd Symffoni rhif 9 Schubert... mae'r motif agoriadol i'r corn yn agor llwybr i fôr o alawon gwyrthiol, yn ogystal â drama sydd rywsut yn adlewyrchu bywyd byr y cyfansoddwr....... a hyn yn fwy dirdynnol gan na chlywodd Schubert nodyn o'r symffoni yn ystod ei fywyd.
Cerddorfa West-Eastern Divan dan Daniel Barenboim yn perfformio 9fed Symffoni Schubert yn Proms y BBC 11 Awst 2024 â–¶ gwybodaeth
Y darn faswn wedi hoffi sgwennu
Llawer o ddarnau yn hawlio lle yn fy meddwl! Concerto i'r gerddorf gan Bartok sy'n llawn direidi, ac yn rhoi golwg prin o'r cyfansoddwr dyfeisgar hwn yn gwenu.
​
Ionisation gan Edgar Varese. Tri ar ddeg o offerynau taro yn cynnwys y piano yn trawsnewid medrusrwydd rhyddm a lliwiau egsotig i fod yn chwe munud o greadigrwydd rhyfeddol.
​
Pedwar darlun o'r môr o opera Peter Grimes gan Benjamin Britten. Darnau sy'n creu awyrgylch y môr ar wahanol adegau, a darnau sy'n hyfrydu mewn lliwiau soniarus cerddorfaol.
Mae cynhyrchiad WNO o Peter Grimes yn rhedeg o 5 Ebrill - 7 Mehefin 2025 â–¶ gwybodaeth
Darnau sy,n rhoi cysur
Nid yw cerddoriaeth yn rhoi cysur i mi; yn hytrach, mae hyd yn oed darn araf, tawel yn creu egni a brwdfydedd ynof, a chwant am fyw yn dragwyddol
Y gerddoriaeth sy'n tanio fy nychymyg
Golygfa'r fynwent allan o The Rake's Progress gan Stravinsky. Drama bywyd a marwolaeth sydd yma, ac yn fy atgoffa o'r gêm gwyddbwyll rhwng Angau a'r Marchog yn ffilm Bergman, "Y Seithfed Sêl".... mae yma feistrolaeth llwyr ar ynganiad yr iaith Saesneg o safbwynt cerddorol, a hefyd , fynegiant dwys o anobaith dynol a phwer Satanaidd.
Grange Festival Opera yn perfformio The Rake's Progress 23 Mehefin - 6 Gorffennaf 2024 â–¶ gwybodaeth
Igor Stravinsky gan Pablo Picasso
Y recordiad faswn yn ei roi fel rhodd
Pedwarawd llinynol Mozart 387. Roeddwn mewn cariad gyda hen recordiad Pedwarawd Amadeus, ond nawr baswn yn cyflwyno recordiad Pedwarawd Ariel, sy'n byrlymu o ysbryd chwareus,ac yn cynnwys finale ffiwg sydd yn llawn deilwng o Bach.
Pedwarawd Amadeus