top of page

Grantiau Loteri TÅ· Cerdd

lottery ball (red).png

CANLLAWIAU CRONFA FRYS

CEISIADAU AR GAU | APPLICATIONS CLOSED

​

DS Yn wahanol i’n helfennau Loteri eraill, mae’r gronfa argyfwng yma yn digwydd unwaith yn unig ac na fydd ailadroddiad ar ôl y dyddiad cau, 29 Ionawr.

 

Pwy all wneud cais?

Targedir y gronfa hon at grwpiau cerdd cymunedol ac amser hamdden, gan gynnwys grwpiau gwirfoddol neu gymunedol ac elusennau. Rhaid i’r canlynol fod gynnoch chi:

  • dogfen lywodraethu ysgrifenedig/cyfansoddiad

  • cyfrif banc

  • o leiaf tri o bobl nad ydynt yn perthyn ar eich corff llywodraethu

 

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan:

unigolion ac unig fasnachwyr

  • sefydliadau sy’n gwneud elw (er enghraifft cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau)

  • sefydliadau a leolir y tu allan i’r DU

  • y naill sefydliad yn gwneud cais am gyllid ar ran un arall

 

Eich cyllideb

Bydd angen i chi gyflwyno cyllideb gan ddefnyddio’r templed sydd i’w lawrlwytho oddi ar ein gwefan. Mae’r gyllideb yn cynnwys gwariant (costau cyflwyno’r prosiect) ac incwm a rhaid iddi fod yn fantoledig.

 

Ar gyfer Adnodd ac Ailddechrau ni allwn ariannu ond hyd at 90% o gostau’r prosiect cyfan, felly bydd angen i chi ddangos y 10% o’r incwm sy’n dod o ffynonellau eraill (e.e. incwm o docynnau, eich arian eich hun, rhoddion). DS: ni chaiff eich 10% o gyllid cyfatebol ddod o ffynonellau’r Loteri.

 

Os oes angen help arnoch chi

Os oes angen cymorth o unrhyw fath wrth wneud eich cais, cysylltwch â lottery@tycerdd.org neu ffonio 029 2063 5640.

 

Sut byddwn ni’n asesu’ch cais?

Cyflwynir eich cais gerbron panel o gynghorwyr; rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod ein paneli’n amrywiol gan gynrychioli ystod o gefndiroedd a dulliau/ genres cerddorol.

 

Wrth asesu’ch cais, bydd aelodau’r panel yn ystyried sut y bydd eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth i’ch grŵp a’ch cymuned. Byddant am weld cais sydd wedi’i feddwl drwodd i’r pen ac a gefnogir gan gyllideb fantoledig (a realistig).

 

Blaenoriaethau ar gyfer cyllid

  • Cefnogi  grwpiau cerdd cymunedol i oroesi.

  • Ariannu adnoddau i ailddechrau cerddora cymunedol.

 

Bydd gan y panel ddiddordeb hefyd mewn ceisiadau sy’n:

  • Gweithio mewn cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli neu sydd wedi’u hesgeuluso a’u heithrio.

  • Cefnogi datblygu’r Gymraeg

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rhown ni wybod i chi beth yw ein penderfyniad o fewn pedair wythnos i ddyddiad cau’r ceisiadau.

 

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, dywedwn ni wrthoch chi pam.

 

Os byddwn yn cynnig cyllid i chi, mi wnawn ni gysylltu â chi drwy e-bost, gan roi manylion unrhyw amodau sydd ynghlwm â’r grant (lle bo’n berthnasol). Rhaid i chi ddychwelyd y cytundeb aton ni o fewn 28 diwrnod i’r e-bost ynghyd â chadarnhad y gallwch gyflawni unrhyw amodau. Ar dderbyn y cytundeb, byddwn yn rhyddhau 75% o’r cyllid i chi, gyda’r 25% olaf yn cael ei ollwng wedi i ni gymeradwyo’ch adroddiad ar ôl cwblhau’r prosiect.

​

Sut i wneud cais

​

Cronfa Frys

​

Achub

​

Adnodd

​

Ailddechrau

​

Cronfa Loteri

WG lottery & ACW logos.png
bottom of page