top of page

Ailddechrau

Restart (red).png

Grantiau Loteri Tŷ Cerdd

Restart

Tŷ Cerdd Lottery Grants

Cronfa Frys

Emergency Funding

CEISIADAU I GYD AR GAU | ALL APPLICATIONS CLOSED

£250 at £2,000

£250 to £2,000

ENGLISH

Drwy Ailddechrau rydyn ni am gefnogi dathliad Cymru gyfan wrth ddychwelyd i gerddora cymunedol – gan edrych ymlaen at yr adeg pryd y daw hynny’n bosibl i’ch grŵp. Gall fod yn gyfle i ddangos eich creadigrwydd a gwneud rhywbeth gwahanol i ddod â’ch cymuned at ei gilydd. Efallai’ch bod am gydweithio â grŵp arall i gydgomisiynu cyfansoddwr neu â chanolfan i gynnal digwyddiad yn y gymuned, neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd gyda’ch grŵp. Neu hwyrach eich bod am greu prosiect digidol cyn i chi allu cwrdd eto yn y cnawd hyd yn oed. Rydyn ni’n methu aros i glywed eich syniadau.

 

Gall Ailddechrau gefnogi’r syniadau hyn gyda chyllid yn amrywio o £250 i £2,000.

 

Pethau i’w hystyried:

 

Er y gall Ailddechrau ddarparu cyllid o hyd at £2,000, y disgwyl yw y bydd y rhan fwyaf o geisiadau am symiau rhwng £250 a £500.

 

  • Gallwch wneud cais i Ailddechrau yn ogystal ag i Achub ac Adnodd, os yw’ch anghenion a’ch gweithgarwch yn gweddu i’r canllawiau a’r blaenoriaethau. Cofiwch y bydd y panel yn awyddus i gyrraedd cymaint o gymunedau ag y bo modd drwy’r cronfeydd hyn.

 

  • Os mai comisiynu cyfansoddwr neu grëwr sain yw’ch prosiect: Rhaid i grewyr cerddoriaeth fod naill ai â’u cartref yng Nghymru (am flwyddyn o leiaf cyn gwneud cais) neu fod wedi’u geni yng Nghymru.

 

  • Blaenoriaeth glir i ni yw bod crewyr cerddoriaeth yn derbyn tâl priodol ac rydyn ni’n barod i roi cyngor os nad ydych yn siŵr faint o ffi i’w gynnig.

 

  • Gallwn helpu os bydd angen cyngor arnoch chi ynglŷn ag adnabod a chysylltu â chyfansoddwyr neu grewyr cerddoriaeth.