Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Ers blynyddoedd lawer mae Cymru yn gartref i gymunedau lu sy’n amrywiol o ran eu diwylliant a’u hethnigrwydd ac sydd wedi parhau i ddylanwadu ar gelfyddyd a cherddoriaeth Gymreig a’u siapio. Yn hanesyddol, mae artistiaid Cymreig o liw wedi wynebu rhagfarn a chamwahaniaethu sydd wedi eu hatal rhag sicrhau cydnabyddiaeth yn y brif ffrwd. Wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, un o’r ardaloedd cyfoethocaf a mwyaf amrywiol yn ddiwylliannol yng Nghymru, mae Tŷ Cerdd yn ymrwymedig i ddwyn y sbotolau ar artistiaid Cymreig o liw o bob cwr o’r wlad a’u grymuso drwy bob cyfnod o’u gyrfaoedd.
O dan ambarél Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru, mae Tŷ Cerdd yn sbarduno strategaeth i sicrhau bod artistiaid o liw yn cael eu cynrychioli, eu cynnwys a’u cefnogi ar draws ein rhaglen.

Diwydiant Cerdd 101 – cyfres barhaus, dan arweiniad pobl o liw, o ddigwyddiadau hyfforddi / cefnogi / gwybodaeth i greadigwyr cerddoriaeth (mewn partneriaeth â FFOCWS Cymru a Forté a chyda chefnogaeth gan Sefydliad y PRS FOCUS Wales )
CoDi Cân – yn comisiynu pum cerddor ifanc (o dan 26 oed) o liw i gyfansoddi a recordio caneuon Cymraeg gyda fideos cerddoriaeth – mentora gan Tumi Williams a Lily Beau (mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol)
Comisiynau Affricerdd – yn comisiynu 10 artist o liw i ysgrifennu caneuon mewn unrhyw iaith, 5 ohonynt yn cael eu coreograffu (mewn cydweithrediad â Phanel Cynghori’r Is-Sahara a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru)
Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru – y rhaglen hyd yn hyn:
AWST - TACHWEDD 2020
Yn ystod 2020 – gyda chefnogaeth cyllid sefydlogi CCC – cynhaliodd Tŷ Cerdd gyfres o sgyrsiau ar-lein am Gerddoriaeth a Hil yng Nghymru, ar y cyd â Privilege Café (gofod trafod ysbrydoledig a grëwyd yn ystod COVID gan yr ymgyrchydd / gwneuthurydd newid Mymuna Soleman).
Yng ngofal Tumi Williams (cerddor, arweinydd gweithdai, aelod o fwrdd Tŷ Cerdd) a Mymuna Soleman, bu’r digwyddiadau’n creu gofod diogel a gonest i rannu profiadau, dysgu a thrafodaethau am rwystrau a datrysiadau.
RHAGFYR 2020 tan fis MAWRTH 2021
Parhaodd yr ymchwilio a’r trafod, gyda chymorth ariannol gan gynllun Cydrannu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dan arweiniad Dionne Bennett, Tumi Williams a Mymuna Soleman, aeth y prosiect yn ei flaen â’r gwaith a ddechreuwyd mewn cyfres o sgyrsiau ar-lein yng nghwmni artistiaid a chreadigwyr o liw.
Bu Dionne a Tumi yn gweithio gyda ni i ddatblygu sgyrsiau â sefydliadau yn y sector ar draws genres tra buon ni’n cydweithio â Mymuna Soleman ar gyfres o drafodaethau â sefydliadau cymunedol / lawr gwlad gan gynnwys grwpiau ffocws ac ar greu astudiaethau achos. > DIGWYDDIADAU'R GORFFENNOL
EBRILL 2021 ymlaen
Ochr yn ochr â’r ymrwymiad strategol parhaus i alluogi, cefnogi a chydweithio â mwy o artistiaid o liw, mae nifer o feysydd gweithgarwch targededig wedi dod i’r fei:
DIGWYDDIADAU'R GORFFENNOL






Sgwrs #1: What does a creative artist in Wales look like?
Siaradwyr: Yamsin Begym' Oort Kuiper a Ngaio
Sgwrs #2: Is education making Welsh music white?
Siaradwyr: Louis Gray, Dionne Bennett, Paula Gardiner a Rachel Kilby
Sgwrs #3: How is programming impacting on our artists and audiences?
Siaradwyr: Njabulo Madlala, Toks Dada, Cat Roberts a Kaptin Barrett
Sgwrs #4: How can we effect change through talent development? (In partnership with FOCUS Wales / Out of FOCUS)
Siaradwyr: Benji Wild, Laura Lewis-Paul, Cat Roberts a Kaptin Barrett
Sgrws #5: What’s the picture outside the cities? (In collaboration with Aberystwyth Arts Centre)
Siaradwyr: Sizwe Chitiyo, Kirk Holland a Simmy Singh
Sgwrs #6: How can we celebrate and support intersectionality?
Siaradwyr: Baluji Shrivastav OBE, Eadyth, E11ice a Monique Bux