top of page

Music & Race in Wales Showcase
15 October 2024

There was a rich mix of music and discussion at the Music & Race in Wales Showcase and Symposium day on 15 October – a collaboration between Tŷ Cerdd, Black Lives in Music and TÂN Cerdd, with support from Chapter and Cardiff Music City Festival.

 

12 performances – by solos, duo and bands, cross-genre – were platformed in three showcases across the day, as well as short-films, an outdoor Street-Art-Opera performance, and a DJ set, all centring artists of colour.

 

A discussion event included keynotes, a panel discussion and a call-to-action for the sector. The partners committed to moving forward together – news of which soon – and this feedback from a participating artist highlighted the need to develop this work:

 

"My main takeaway from the day was seeing how music can break down barriers and spark important conversations about race and identity. It was powerful to witness how diverse voices can come together to create a space where people feel heard and understood. The event highlighted the need for more inclusivity in the Welsh music scene and showed how music can be a driving force for social change."

CYM

Arddangosfa Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru 15 Hydref 2024

Cafwyd cymysgedd gyfoethog o gerddoriaeth a thrafodaeth yn y diwrnod ar gyfer symposiwm a Showcase Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru ar 15 Hydref – sef digwyddiad oedd yn gydweithrediad rhwng Tŷ Cerdd, Black Lives in Music a TÂN Cerdd, gyda chefnogaeth Chapter a Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

Roedd 12 perfformiad wedi’u llwyfannu – yn unawdwyr, deuawdau a bandiau traws-genre – a hynny mewn tair sioe arddangos yn ystod y dydd, yn ogystal â ffilmiau byr, perfformiad Opera-Celf-Stryd yn yr awyr agored, a set DJ, oll ag artistiaid lliw yn ganolog iddynt.

Roedd y digwyddiad trafodaeth wedi cynnwys prif siaradwyr, trafodaeth banel a galwad i weithredu ar gyfer y sector. Ymrwymodd y partneriaid i symud ymlaen gyda’i gilydd – daw newyddion am hynny’n fuan – ac mae’r adborth canlynol gan artist a gymerodd ran yn dangos yr angen i ddatblygu’r gwaith hwn:

"Y prif beth ges i o’r diwrnod oedd gweld sut y gall cerddoriaeth chwalu rhwystrau a sbarduno sgyrsiau pwysig am hil a hunaniaeth. Roedd yn bwerus gweld sut y gall lleisiau amrywiol ddod at ei gilydd i greu gofod lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u deall. Dangosodd y digwyddiad yr angen i gael mwy o gynwysoldeb yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru a dangosodd sut y gall cerddoriaeth fod yn rym ar gyfer newid cymdeithasol."

Showcase logo strip revised.png
bottom of page