
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
CYFWELIAD
Claire Victoria Roberts
yn siarad am y gerddoriaeth a luniodd ei gyrfa
Pa ddarn wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn gyfansoddwr?​
Y darn wnaeth f'ysbridoli i gyfansoddi gwaith fy hun oedd Six Marimbas gan Steve Reich. Roeddwn i yn rhan o'r prosiect Cyfansoddwr Ifanc Dyfed, ac yr ensemble oedd O Duo (deuawd offer taro). Wnes i wrando i gerddoriaeth offer taro Steve Reich trosodd a throsodd.
Pa ddarn hoffech chi fod wedi'i ysgrifennu?
Y darn dwi'n meddwl hoffwn i wedi sgwennu fy hun yw Double Fiesta gan Meredith Monk, a dyma fy hoff fersiwn:
Pa recordiad fyddech chi'n ei roi fel anrheg?
Fel anrheg, recordiad gwych ydy Dizzy Gillespie efo Stuff Smith (ffidil) yn chwarae Sunny Side of The Street
Beth yw'ch 'comfort listen'?
I ymlacio yn y fflat dwi hoffi rhoi grwp harmoni Mountain Man arno.
Beth yw'r gerddoriaeth sy'n teyrnasu'ch dychymyg??
Mae cymaint o gerddoriaeth yn agor drws y dychymyg i mi ar hyn o bryd! Pethau rwy'n tueddu troi atynt yw gwaith Messiaen, Debussy, Stravinsky... ond ar hyn o bryd dwi'n teimlio egni i gyfansoddi wrth gwrando i Gabriel Prokofiev, Nico Mhuly, Gwilym Simcock, Tank and the Bangas, Noname, Snarky Puppy, Cecile McLorins Salvant, David Lang, The Gloaming...oes modd dewis cymaint?!