top of page
CoDI 23 24 logo.png

Mae’n bleser gan Tŷ Cerdd gyhoeddi tymor newydd CoDI, ein rhaglen ddatblygu amlweddog ar gyfer crewyr cerddoriaeth o Gymru a Chymru.

 

Gwnei'r rhaglen 23/24 yn bosib trwy gymorth ariannol hael oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru, PRS Foundation (Rhaglen Datblygu Talent) ac, am y tro cyntaf, Jerwood Arts, trwy’r Cronfa Artistiaid sy’n Datblygu Jerwood.

Dywedwyd Lilli Geissendorfer, Cyfarwyddwr, Jerwood Arts: "Mae’r hyn y mae Tŷ Cerdd wedi bod yn ei wneud drwy CoDI wedi trawsnewid cyfleoedd i grewyr cerddoriaeth ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wrth ein bodd ein bod yn cyfrannu at y tymor nesaf. Mae’r llwybrau yr ydym yn eu cefnogi yn siarad ag uchelgeisiau cyfansoddwyr ar adeg hollbwysig wrth ddatblygu eu gweithgaredd, a rhai o’r materion dybryd sy’n wynebu’r sector, boed hynny’n grymuso crewyr cerddoriaeth ag anabledd dysgu, neu’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Rydym yn gyffrous i weld y llwybrau y mae'r artistiaid dethol yn eu cymryd."

 

Mae CoDI 23/24 yn cynnwys llwybrau cyflogedig, dan arweiniad artistiaid ochr yn ochr ag RHYNGWEITHIO, sef cyfres o weithdai a hyfforddiant. Cyhoeddir manylion llawn y cyfleoedd ym mis Mehefin, ond yn y cyfamser gallwch ddod o hyd i ddolenni i fynegi diddordeb mewn tri o’r llwybrau YMA.

CoDI Stiwdio Cyfansoddwyr logo.png

STIWDIO CYFANSODDWYR mentora a chefnogaeth i gyfansoddi am ensemble o 12 dan arweinydd, mewn cydweithrediad ag UPROAR, a’r cyfansoddwyr arweiniol Lynne Plowman a Richard Baker.

Cefnogwyd gan Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a PRS Foundation.

CoDI Bwm! logo 2.png

BŴM! yn cefnogi pedwar artist/grŵp i ddatblygu sgiliau gwneud cerddoriaeth a sain awyr agored, gyda ffocws ar Gyfiawnder Hinsawdd – mewn partneriaeth â Oxford Contemporary Music ac Articulture.

Cefnogwyd gan Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a PRS Foundation.

CoDI Peblo Pengwin logo REVISED.png

PEBLO PENGWIN llwybr ar gyfer chwe artist niwro-ddargyfeiriol, mewn cydweithrediad ag Aubergine Café a’r ddeuawd Ardal Bicnic.

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a PRS Foundation.

Mynegwch ddiddordeb mewn STIWDIO CYFANSODDWYR, BŴM! a PEBLO PENGWIN YMA

Bwthyn Sonig logo copy 3.png

BWTHYN SONIG galluogi artistiaid ag anableddau dysgu i greu cerddoriaeth wreiddiol; partneriaeth gyda Canolfan Gerdd William Mathias, Touch Trust, Disability Arts Cymru, a Sonic Bothy.

​Cefnogwyd gan Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a PRS Foundation.