top of page

Mae Stiwdio Cyfansoddwyr yn llwybr ar gyfer chwech o gyfansoddwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa i roi’r cyfle a’r gefnogaeth iddynt ysgrifennu darn 5 munud ar gyfer ensemble o 12 perfformiwr o dan arweinydd.

​

Caiff ei gynnal mewn partneriaeth ag UPROAR – sef ensemble newydd cyfoes Cymru, cyfarwyddwr artistig Michael Rafferty – a’r mentoriaid cyfansoddi Lynne Plowman a Richard Baker. Ac mae wedi’i wneud yn bosibl gan gefnogaeth hynod hael amrywiaeth o gyllidwyr fel y gwelir isod.

​

Bydd y chwe chyfansoddwr isod yn derbyn £1000 yr un i gymryd rhan, a bydd hyn ar ffurf cyfuniad o weithdai mewn person a chyswllt ar-lein drwy gydol y broses. Croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thelir costau unrhyw artistiaid sydd angen teithio. Daw’r llwybr i ben mewn diwrnod recordio – gyda chynulleidfa wedi’i gwahodd.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

​

​

​

​

Bydd artistiaid yn cael cynnig y cyfle i gyhoeddi eu gweithiau gorffenedig, a bydd ceisiadau aflwyddiannus yn cael eu gwahodd i sesiwn gweithdy drwy gynllun bwrsari cysylltiedig.

 

Mae aelodau’r ensemble fel a ganlyn:

Ffliwt, Clarinét, Basŵn, Trwmped, Trombôn, Telyn, Offer Taro, Ffidil 1, Ffidil 2, Fiola, Soddgrwth, Bas dwbl

 

Amserlen

  • Dyddad i'w gadarnhau yn Medi – gweithdy cyntaf yn Stiwdio TÅ· Cerdd, Caerdydd

  • Dydd Mawrth 7 Tachwedd – gweithdy #1 gydag UPROAR yn Theatr Soar (Merthyr Tudful)

  • Dydd Mawrth 23 Ionawr – gweithdy #2 gydag UPROAR yn Theatr Soar

  • Dydd Mawrth 19 Mawrth – sesiynau recordio yn Theatr Soar

  • Dydd Gwener 22 Mawrth – sesiwn cloi a gwerthuso dros Zoom (sesiwn 2 awr)

​

UPROAR yw ensemble siambr cyfoes newydd Cymru sy’n bwrpasol ar gyfer cerddoriaeth newydd. Maent yn datblygu cerddoriaeth newydd yng Nghymru trwy gynnig cyfleoedd a phrofiadau newydd i gyfansoddwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Dan arweiniad y cyfarwyddwr artistig Michael Rafferty, mae’r ensemble yn cynnwys perfformwyr cerddoriaeth newydd arbenigol, sy’n frwd dros gyflwyno cynulleidfaoedd i gerddoriaeth newydd cignoeth ac anturus o Gymru a gweddill y byd.

 

Mae Lynne Plowman yn gyfansoddwraig o Gymru sydd efallai’n fwyaf adnabyddus am ei operâu siambr arobryn ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, sef operâu siambr a grëwyd mewn cydweithrediad â’r awdur Martin Riley. Mae’r byd naturiol yn aml yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ei cherddoriaeth sydd wedi cael sylw ar sawl recordiad gan labeli amrywiol, ac yn cael ei darlledu’n rheolaidd ar Radio 3 y BBC. Yn ogystal â’i gwaith cyfansoddi, mae Lynne yn angerddol dros hyrwyddo addysg cerddoriaeth greadigol mewn ysgolion. Mae’n diwtor cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gyfansoddwraig breswyl ar gyfer cynllun arloesol Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed. Cyhoeddir ei cherddoriaeth gan Wise Music Classical a Composers Edition ac mae’n Gadeirydd Adran ISCM Cymru ac yn seneddwr yn Academi Ivors.

​

Mae Richard Baker yn gyfansoddwr o Geredigion. Mae ei waith yn aml yn ymwneud â thrawsgrifio a thrawsnewid deunydd all-gerddorol, ac mae’n cynnwys The Tyranny of Fun (2013, a gomisiynwyd gan Birmingham Contemporary Music Group, ac wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Cyfansoddi ar Raddfa Siambr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol); The Price of Curiosity (2019, ar gyfer Cerddorfa Symffoni’r BBC/Radio 3); a Motet II (2020, ar gyfer Ensemble Télémaque, Marseille). Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar driawd piano i ATOS Trio, sef comisiwn gan Neuadd Wigmore. Ers 2004 mae wedi addysgu cyfansoddi yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, lle mae ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymchwil.

​

â–¶ BÅ´M!

â–¶ Peblo Pengwyn

â–¶ CoDI 2023/24

â–¶ Galwad Stiwdio Cyfansoddwyr

​

​

Cefnogir y llwybr hwn gan Jerwood Developing Artists Fund

​

​

Eluned Davies, Jake Thorpe, Joseph Graydon, Luciano Williamson, Niamh O'Donnell a Tayla-Leigh Payne

Composers' Studio logo strip complete.png
bottom of page