Chwe chyfansoddwr wedi cael eu recriwtio i CoDi: Opera – llwybr datblygu ar gyfer cyfansoddwyr.
Yn arwain y artistiaid dethol drwy’r broses bydd y cyfansoddwr Robert Fokkens a’r awdur/dramodydd Sophie Rashbrook, wedi’u cefnogi gan y soprano/cyfansoddwraig Sarah Dacey.
Mae Bethan Morgan-Williams, Eloise Gynn, Ethnie Foulkes, Gareth Olubunmi Hughes, Jasper Dommett a Rebecca Horrox wedi cael eu dewis ar gyfer CoDI Opera. Trwy gyfres o weithdai, rhoddir i gyfansoddwyr yr arfau i weithio’n hyderus gyda thestun a naratif – gan symud o senario, drwy libreto i ysgrifennu i’r llais.
AMLINELLIAD O'R LLWYBR
Sesiwn 1: SENARIO A LIBRETO
Sesiwn ar senarios, gan edrych ar sut maent yn cael eu dyfeisio a’u llunio ac ystyried y berthynas rhwng y senario, y libreto a’r sgôr.
Sesiwn 2: O SENARIO I LIBRETO
Yn edrych ar ddulliau o ysgrifennu libretos a’r defnydd ehangach o destun mewn theatr gerdd.
Sesiwn 3: LIBRETO A CHERDDORIAETH
Sesiwn ymarferol fydd yn edrych yn gyntaf ar y libretos y mae’r cyfranogwyr wedi’u creu ac yna’n gweithio gyda’r soprano Sarah Dacey ar y deunydd cerddorol y maent wedi’i greu hyd yn hyn.
Sesiwn 4: CERDDORIAETH A LLWYFANNU
Yn rhoi’r gerddoriaeth at ei gilydd gan ystyried sut gellid llwyfannu’r darn.
Sesiwn 5: YMARFER A PHERFFORMIO
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music