top of page
Mentoring Circle logo.png

Cylch Mentora
CoDI

Galwad i gyfansoddwyr

Mae Cylch Mentora CoDI am ddwyn ynghyd chwe chyfansoddwr o Gymru sydd ar ganol eu gyrfa er mwyn iddynt rannu ymarfer a dysgu dros 3 mis (Gorffennaf i Fedi ’23).

Bydd y cyfranogwyr yn cael £1,000 yr un, sy’n cynrychioli tua 40 awr o amser wedi’i rannu ag eraill/gwaith ysgrifennu ymatebol ac adfyfyrio dros y cyfnod (sesiynau i’w trefnu ar y cyd gan y grŵp). Rhagwelir y bydd cyfranogwyr yn cyfuno sesiynau ar-lein â rhannu trwy e-bost ac (ee) Slack, ynghyd â rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Bydd bwrsariaeth teithio bach ar gael, i gynorthwyo cyfranogwyr i gwrdd yn bersonol.

I ymgeisio, lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n porth

1. Manylion personol

Enw, oedran, manylion cyswllt

2. Manylion gyrfa

Dywedwch wrthym am eich cyfansoddi. Beth tybiwch chi yw eich prif gyflawniadau mewn cerddoriaeth?

3. Sut byddech chi’n gobeithio elwa o’r Cylch Mentora? A oes unrhyw feysydd yn eich ymarfer artistig y byddai gennych ddiddordeb canolbwyntio arnynt? (Hyd at 200 gair)

4. Pa sgiliau / arbenigedd / gwybodaeth y teimlwch y gallech chi eu cynnig i gyfansoddwyr eraill trwy’r Cylch Mentora? (Hyd at 200 gair)

5. A oes unrhyw gyfnodau sylweddol o amser yn ystod y cyfnod hwn o bedwar mis pan nad ydych ar gael?

6. Lanlwythwch 2 ddolen sain at eich cerddoriaeth.

 

Dyddiad cau: 10:00, dydd Mawrth 30 Mai

Cyhoeddir y penderfyniad yn ystod yr wythnos yn dechrau 12 Mehefin

Y panel dewis: Robert Fokkens (cyfansoddwr; Uwch Ddarlithydd mewn Cyfansoddi, Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd), Deborah Keyser, Ethan Davies, Aisha Kigwalilo (aelodau tîm Tŷ Cerdd)

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ethan.davies@tycerdd.org

Rhaglenni'r gorffennol CoDI Mentoriaid:

> CoDI Mentoriaid 2021/22

> CoDI Mentoriaid 2020/21

> CoDI Mentoriaid2019/20

> CoDI Mentoriaid 2018/19

Mentoring Circle logo.png