Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640


Proffil Cyfansoddwr y Mis gan Geraint Lewis
Dilys Elwyn-Edwards 1918-2012
Ganed Dilys Roberts ar 19 Awst 1918 yn Nolgellau, lle’i magwyd ar aelwyd gerddorol a’i haddysgu yn ysgol enwog Dr Williams i ferched. Dechreuodd gyfansoddi tra’n ifanc iawn ac fe ddyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Turle o Goleg Girton, Caergrawnt ac yn dilyn hynny Ysgoloriaeth Joseph Parry i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd.
Pan ddychwelodd yn fuddugoliaethus o Gaergrawnt fe’i cyfarchwyd yng ngorsaf Dolgellau (ei thad oedd meistr yr orsaf) gan y band pres a chorau cymysg lleol gyda’r baneri yn chwifio i’w llongyfarch ar ei champ. Ond er gwaethaf hyn i gyd dewisodd fynd i Gaerdydd ac fe ymhyfrydai o allu dilyn esiampl Morfydd Owen a Grace Williams gan astudio, fel hwythau, dan yr Athro David Evans yn Adran Gerdd y ddinas. Daeth dau gyfarfyddiad yno i newid cwrs ei bywyd: dod i adnabod ei darpar w^r David Elwyn-Edwards, myfyriwr diwinyddiaeth, a’r cyfle i ganu cerddoriaeth Herbert Howells yng nghôr siambr y Brifysgol.
Wedi graddio ac yn nyddiau duon rhyfel, dychwelodd i ddysgu yn ei hen ysgol yn Nolgellau ond agorodd pennod newydd yn ei hanes yn 1947 pryd enillodd ysgoloriaeth agored arbennig i astudio cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain gyda neb llai na’i heilun Herbert Howells. Ac fe briododd David hefyd, gan gymryd yr enw cofiadwy Dilys Elwyn-Edwards a fu’n sêl ar ei gyrfa broffesiynol.
Profodd Howells yn athro delfrydol i Dilys gan feithrin ei thelynegrwydd cynhenid a’i greddf leisiol. Fe awgrymodd hefyd ei bod yn gosod rhai o’i hoff feirdd yntau, gan gynnwys Walter de la Mare, Fiona Mcleod a William Blake. Yn ystod ei blynyddoedd yn y CCB gyda Howells, pryd astudiodd hi hefyd y piano o dan Kathleen McWhitty, bu Dilys yn byw yn Rhydychen lle’r oedd ei gŵr yn fyfyriwr ymchwil yng Ngholeg Mansfield – ac fe gafodd wersi organ yng Nghadeirlan Christ Church gan Thomas Armstrong a’r cyfle i glywed ei chyfansoddiadau yn Ystafelloedd Cerdd Holywell.
Ymhen amser, dilynodd Dilys Elwyn wrth iddo dderbyn gwahanol alwadau oddi wrth Eglwys Bresbyteraidd Cymru gan setlo yng Nghaernarfon tua diwedd y 50au, ac yno buont yn byw am weddill eu bywyd priodasol gyda’i gilydd. Tra bu Elwyn yn weinidog uchel ei barch yn eglwys enwog Castle Square roedd Dilys yn dysgu mewn ysgolion lleol cyn apwyntiad fel tiwtor piano yng Ngholeg y Normal Bangor ac yna o 1970 ymlaen yn Adran Gerdd y Brifysgol yno pan oedd William Mathias yn Athro. Ymddeolodd Elwyn a Dilys yn 1986 ac yn dilyn hynny bu iddi fwynhau Hâf Indiaidd o gyfansoddi gan dderbyn myrdd o gomisynau am ganeuon a darnau corawl.
GWAITH DETHOLEDIG
Parhaodd Dilys ar dermau cyfeillgar gyda Herbert Howells tan ei farwolaeth yn 1983 ac ef, yn anad neb, oedd ei phrif fentor ac ysbrydoliaeth ar hyd ei gyrfa. Wedi dychwelyd i Ogledd Cymru daeth yn gynyddol i werthfawrogi cefnogaeth a chyngor Grace Williams a William Mathias ac fe gafodd bleser aruthrol o weithio gyda nifer o gantorion, gan gynnwys Patricia Kern, Kenneth Bowen, Helen Field, Bryn Terfel a Rebecca Evans ymhlith eraill. Mwynhad arall oedd beirniadu am ddegawdau lawer yn yr Eisteddfod Genedlaethol lle y tyfodd ei henwogrwydd fel un o brif gyfansoddwyr caneuon Cymru. Pan fu farw Elwyn yn 2003 fe ddaeth diwedd naturiol i gyfansoddi Dilys a bu farw mewn cartref yn Llanberis ar 13 Ionawr 2012, yn 93 mlwydd oed.
Mae’r cyfansoddwr a’r awdur Geraint Lewis yn ysgutor cerddorol i stad Dilys Elwyn-Edwards
▶ Dilys Elwyn-Edwards – Brenhines y Gân
▶ Cyfansoddwr y Mis







.jpg)