Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640

Gwen Siôn yn recordio yn y maes ar gyfer Llwch a Llechi

Cyfansoddwr y Mis
Gwen Siôn
Disgrifiwyd Gwen Siôn gan yr Arts Foundation Futures Awards fel "a truly natural talent…as if nature is singing to you through her". Mae hi'n rym creadigol ac mae ei phortffolio amrywiol fel cyfansoddwr, cynhyrchydd cerddoriaeth ac artist amlddisgyblaethol wedi cael ei gydnabod drwy gomisiynau, gosodweithiau cyhoeddus, arddangosfeydd a lleoliadau preswyl yn y DU a thu hwnt.
Ar hyn o bryd mae galw mawr am brosiectau a pherfformiadau Gwen drwy wledydd Prydain ac mae'r gwaith sydd ganddi ar y gweill yn cynnwys taith gerdded sain drochol gyda Bradford City of Culture ac Opera North, prosiect clyweledol ar erydiad arfordirol a'r cynnydd yn lefelau'r môr a gaiff ei berfformio yn fyw yn CULTVR a pherfformiadau yng ngwyliau yn Machina Bristonica a Lleisiau Eraill.
Magwyd Gwen ym Methesda a bu tirwedd nodedig Dyffryn Ogwen yn ddylanwad enfawr ar ei cherddoriaeth: “Mae gan Fethesda gymysgedd go iawn o’r diwydiannol a’r naturiol” meddai. “Mae wedi’i lleoli yng nghysgod y chwarel sydd yn llythrennol wedi’i cherfio o’r mynydd, gallwch deimlo pwysau hynny a phopeth mae’n ei gynrychioli. Dwi’n meddwl fod tyfu fyny yma yn bendant wedi siapio’r ffordd dwi’n meddwl am sain.”
Er iddi hi gael ei magu mewn cartref cerddorol, ni chafodd Gwen unrhyw addysg gerddorol ffurfiol y tu hwnt i’r ysgol. Yn hytrach, dysgodd am gynhyrchu cerddoriaeth trwy broses o gydweithio ac arbrofi. “Fel merch yn fy arddegau, roeddwn i’n arfer mynd i bartïon awyr agored a rêfs a dechreuais gynhyrchu cerddoriaeth electronig gyda ffrindiau yn fy ugeiniau cynnar ar ôl hynny,” mae hi’n cofio. “Fe wnaethon ni ffurfio grwp cynhyrchu cerddoriaeth a dysgu ein hunain trwy chwarae o gwmpas gyda chaledwedd electronig a sain amgylcheddol. Oedden ni’n mynd allan i gerdded ac yn recordio synnau ar ein ffonau, yn creu llyfrgell o samplau ac yn chwarae o gwmpas efo nhw yn ein stiwdio ‘stafell wely. Trwy’r math yma o arbrofi a chwarae, ddysgon ni amryw o sgiliau technegol.”
Roedd cydweithio a chyfnewid syniadau cerddorol yn ffactorau pwysig yn natblygiad creadigol Gwen. “Roedd cydweithio, rhannu sgiliau a datblygu rhwydwaith i rannu syniadau creadigol yn hanfodol. Dyna sut ddysgais i sut i gael fy syniadau cerddorol allan o fy mhen a'u troi'n rhywbeth pendant ar Ableton.”
PUMP GWAITH ALLWEDDOL
Dyfroedd Pell
Cyfansoddwyd y darn hwn yn benodol ar gyfer gosodwaith sain tanddwr a sesiynau hydrotherapi cerddorol. Cafodd ei gomisiynu gan yr elusen Liquid Listening fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i gefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau trwy sesiynau hydrotherapi cerddorol, ac fe fu ar daith o gwmpas ysgolion ADY ar draws y DU.
Copper Coast
Cyfansoddwyd fel rhan o 'Hearing Landscape', prosiect safle-benodol on trosi 12 tirwedd Wyddelig yn weithiau sain arbrofol, gwaith a gynhyrchwyd pan oedd Gwen ar leoliad breswyl yn Greywood Arts yn Nwyrain Cork, Iwerddon.
Songbird
Mae'r cyfansoddiad hwn yn cyfuno electroneg, llinynnau, piano, llais a recordiadau maes o ganeuon adar.
Llwch a Llechi
Prosiect clyweledol a gefnogwyd gan Sound UK, Cyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Gŵyl Llais 2024 (perfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024 gan 11 o gerddorion Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Côr y Penrhyn a Gwen gan ddefnyddio electroneg fyw, gan gynnwys offerynnau electronig o waith llaw wedi'u creu o lechen, derw ac ywen safle-benodol).
HS2 Ghostlands
Prosiect amlddisgyblaethol a grëwyd mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac HS2, i dynnu sylw at ddatgoedwigo, dinistrio cynefinoedd a cholli bioamrywiaeth. Roedd y prosiect yn ganlyniad i weithio ar leoliad mewn 18 safle penodol dros gyfnod o 5 mis yn 2020/2021 yn casglu recordiadau maes ac yn cynnal ymchwil i HS2 a'i effaith amgylcheddol (dinistrio 108 o goetiroedd hynafol a chynefinoedd bywyd gwyllt). Roedd y prosiect terfynol yn cynnwys archif ddigidol o recordiadau amgylcheddol ar ffurf map sain rhyngweithiol, set o offerynnau cerdd o waith llaw a grëwyd trwy ailgylchu deunyddiau naturiol a ganfuwyd yn y lleoliadau, a darn cerddorol arbrofol o'r enw 'Ghostlands'.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Gwen yn gweithio ym maes gofal lliniarol ac yn aml yn canu'r piano gyda rhai o'r cleifion dementia. “Hefyd, roedd yna ddynes oedd wedi dioddef strôc oedd wedi colli'r rhan fwyaf o'i lleferydd ond oedd yn dal i allu cael geiriau allan pan oedd hi'n canu, ac fe wnaeth hyn sbarduno fy niddordeb mewn celf a therapi cerddoriaeth. Ar ôl hyn, es i ymlaen i weithio fel cydlynydd prosiectau i elusen amgylcheddol yn gweithio ar brosiectau cymunedol celf a cherddoriaeth oedd yn canolbwyntio ar lesiant ar gyfer gwahanol oedrannau a galluoedd.”
Ar ôl ychydig flynyddoedd, dechreuodd Gwen sylweddoli, yn hytrach na gweithio fel hwylusydd yn unig, ei bod hi hefyd eisiau datblygu ei hymarfer artistig ei hun. Aeth ymlaen i astudio Celfyddyd Gain yn Central Saint Martins lle dechreuodd ymwneud â chelfyddyd sain, celf cymunedol ac ymarfer rhyngddisgyblaethol a dechrau canfod ei llais creadigol o ddifri. “Roedd yn ddatgeliad i mi pan sylweddolais nad oedd angen i mi wahaniaethu rhwng gwahanol agweddau ar fy ngwaith,” meddai Gwen. “Gallwn gyfuno fy niddordebau mewn gwyddorau amgylcheddol, recordio sain, cyfansoddi cerddoriaeth, creu cerfluniau, gweithio gyda chymunedau - nid oedd yn rhaid eu rhannu na’u gwahanu.”
Pan darodd Covid, nid oedd gan Gwen fynediad at stiwdios a deunyddiau’r brifysgol, felly fe ddechreuodd wneud offerynnau o beth bynnag y gallai ddod o hyd iddo. “Tua diwedd fy nghwrs gradd roeddwn i’n gwneud gosodweithiau sain, offerynnau o waith llaw a phethau rhyfedd ym maes dylunio sain. Yn sgil hynny dechreuais dderbyn comisiynau a dechrau gweithio’n broffesiynol fel cyfansoddwr ac artist amlddisgyblaethol.” Sylweddolodd Gwen ei bod hi eisiau parhau i weithio fel hyn, felly ar ôl graddio yn 2021 dechreuodd weithio fel artist llawrydd.

Mae Gwen Siôn yn perfformio gyda'i hofferynnau electronig o waith llaw
(llun: Beverley Craddock, Unit Pictures)
Dros y pedair blynedd diwethaf mae Gwen wedi gweithio ar amrediad diddorol o brosiectau, gan dderbyn cefnogaeth gan restr nifer helaeth o sefydliadau nodedig gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Sound and Music, PRS Foundation, Atelier11 Paris, Greywood Arts Ireland, StokkoyArt Norway, Netflix a'r BBC.
Yn nodedig ymhlith y rhain mae ei phrosiect clyweledol ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru Llwch a Llechi gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chôr y Penrhyn, catHead - prosiect cerddoriaeth electronig aml-genre gan ddefnyddio offerynnau Gwen o waith llaw, fu ar daith ledled y DU, a'i phrosiect amlddisgyblaethol celf ac amgylch HS2 Ghostlands a enillodd Wobr Maison/0 This Earth LMVH. Mae Gwen hefyd wedi cael ei henwebu am y MullenLowe NOVA Awards 2021, Sustainability First Art Prize 2021 a'r Electronic Music Award Arts Foundation Futures Awards 2023.

Sgôr Atlantis 2050 gan Gwen Siôn y bydd hi'n ei pherfformio yn CULTVR, Caerdydd ddydd Gwener 29 Awst 2025
Mae gan Gwen ddiddordeb dwfn yn y berthynas rhwng sain a'r amgylchedd, natur a thechnoleg, yn ogystal â chydberthynas synesthetig — yn enwedig y deinameg rhwng lliwiau a nodiant cerddorol.
Fel arfer mae ei phroses greadigol yn dechrau yn yr awyr agored ac, er bod ei gwaith yn bennaf yn electronig, ei bwriad yw cyfleu rhywbeth sy'n teimlo'n gysylltiedig â byd natur. “Rwy'n hoff iawn o dreulio amser yn gweithio ar leoliad,” (mae casglu synau amgylcheddol trwy recordio maes a recordio hydro yn rhan fawr o'i hymarfer) “ac yn aml rwy'n ceisio cyfleu ymdeimlad o le yn fy ngwaith. Pan fyddaf yn cyfansoddi rhywbeth am leoliad penodol, rwy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o ddarllen y siapiau, y gweadau, y lliwiau a'r strwythurau o fewn y dirwedd honno fel sgôr gerddorol. Mae'n ddull chwareus iawn ac mae arbrofi fel hyn yn rhan bwysig o'm proses.”
Yn aml, mae Gwen yn defnyddio dulliau cyfansoddi annhraddodiadol wedi'u hysbrydoli gan ddarllen tirweddau fel sgoriau, ochr yn ochr â thechnegau estynedig, dylunio sain, samplu, triniaeth electronig, recordiadau amgylcheddol, ac mae'n casglu darnau ffisegol o'r dirwedd i greu ei hofferynnau.
Fel cyfansoddwr aml-offerynnol, lleisiol ac electronig, mae hi'n dylunio ac yn adeiladu ei hofferynnau electronig a dyfeisiau sain arbrofol ei hun trwy ailgylchu gwrthrychau mae'n eu canfod a deunyddiau naturiol. “Mae gen i ddull ‘hands on’ iawn o greu cerddoriaeth, mae gwneud offerynnau trwy arbrofi gyda gwrthrychau wedi'u hailgylchu a deunyddiau naturiol yn rhan bwysig iawn o fy ymarfer cyfansoddi a dwi wrth fy modd efo ddefnyddio'r offerynnau fel haen arall o ymgorffori safle neu dirwedd benodol yn y sain.”
Trwy ddulliau o drosi a thrawsnewid, mae hi'n dehongli tirwedd mewn termau cerddorol, gan archwilio sut y gellir defnyddio cyfansoddi fel modd o fapio gofod ac arwyddocâd diwylliannol, ecolegol a chymdeithasol-wleidyddol y gofod hwnnw.
Mae cyfle i gael profiad uniongyrchol o waith Gwen yn Earth & Sky, ei thaith gerdded sain yn Haworth (Opera North X Bradford City of Culture 2025) sy'n cael ei gynnal tan 12 Hydref.
Mae gan Gwen berfformiadau eraill i ddod gan gynnwys yn CULTVR, Caerdydd ar 29 Awst; yng Ngŵyl Machina Bristonica ar 28 Medi; yng Ngŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi 31 Hydref ac 1 Tachwedd.
SIOEAU CYFREDOL A SIOEAU I DDOD
Taith gerdded sain drochol Earth & Sky (Opera North X Bradford City of Culture 2025)
24 Mai - 12 Hydref 2025, Haworth
Yn ddiweddar, cyfansoddodd Gwen gerddoriaeth newydd ar gyfer ‘Earth & Sky’, taith gerdded sain drochol dros rostiroedd y Brontës uwchben Haworth, Gorllewin Swydd Efrog. Mae ‘Earth & Sky’ (a gomisiynwyd gan Opera North a Bradford City of Culture 2025) yn defnyddio technoleg geoleoli sy'n golygu bod y cyfansoddiadau a gwahanol elfennau sonig eraill yn esblygu trwy gael eu sbarduno mewn amser real wrth i'r gynulleidfa gerdded trwy'r dirwedd. Yn ogystal â Gwen, gwahoddodd Opera North hefyd y cyfansoddwr electronig cyfoes a chyfarwyddwr artistig cerddoriaeth Biennale Fenis Caterina Barbieri a'r cyfansoddwr arbrofol o Kenya Nyokabi Kariũki i greu darnau newydd. Mae'r gweithiau newydd gan y tri chyfansoddwr wedi'u plethu ynghyd â recordiadau maes safle benodol a dyluniad sain gan Sarah Keirle-Dos Santos a barddoniaeth newydd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y daith gerdded gan y bardd o Bradford, Nabeelah Hafeez.
Mae darn Gwen, Quiet Earth, wedi'i ysbrydoli gan yr elfennau naturiol a diwydiannol sy'n cydfodoli yn y dirwedd hon, strata'r creigiau a phrosesau chwarelyddol. Mae ei chyfansoddiad yn cyfuno electroneg (gan ddefnyddio cymysgedd o galedwedd, synthesis modiwlaidd ac offerynnau arbrofol o waith llaw wedi'u creu o ddeunyddiau naturiol wedi'u hailgylchu), offeryniaeth acwstig gan gynnwys piano, llinynnau, clarinét a symbal, cymysgedd o recordiadau amgylcheddol glân a rhai eraill wedi'u gwyrdroi, recordiadau o synnau taro cerrig lleol a recordiadau lleisiol gan gynnwys darnau o destunau llenyddol am y rhostiroedd.
Atlantis 2050
Nos Wener 29 Awst yn CULTVR Caerdydd
(drysau’n agor am 7pm, perfformiad yn dechrau am 8pm, 1 awr o hyd)
Mae ‘Atlantis 2050’ yn broject clyweledol newydd sy'n trawsnewid sain a data amgylcheddol yn gerddoriaeth i’w pherfformio yng nghyd â chefndir gweledol trochol. Mae'r project yn amlygu effaith lefelau’r môr yn codi ac erydiad arfordirol trwy waith maes safle-benodol, cerddoriaeth electronig, trosi data i sain, delweddau symudol, offerynnau o waith llaw, gosodwaith a pherfformiad byw.
Yn dilyn cyfnod o ymchwil yn casglu data gan sefydliadau amgylcheddol lleol a chenedlaethol, archwiliodd Gwen 9 ardal arfordirol yng Nghymru a Lloegr a ragwelir i fod ymysg y lleoliadau a gânt eu heffeithio arnynt fwyaf erbyn 2050. Gan weithio ar leoliad mewn 4 safle yng Nghymru a 5 yn Lloegr, casglodd Gwen ddata a seiniau amgylcheddol, gan gynnwys recordiadau maes, recordiadau hydro a recordiadau o signalau trydanol a gynhyrchir gan wymon a phlanhigion arfordirol. Tynnodd luniau a gwneud ffilmiau fideo ym mhob lleoliad, a chasglodd ddeunyddiau naturiol a ganfu ar hyd yr arfordiroedd (e.e. cregyn, broc môr, cerrig) i greu cyfres newydd o offerynnau electronig a dyfeisiau sain wedi'u hysbrydoli gan y môr.
Defnyddiodd y data, y recordiadau a'r ffilm i gyfansoddi darn cerddorol newydd ynghyd â delweddau symudol, a bydd y perfformiad byw yn defnyddio technoleg drochol i greu sain amgylchynol a thafluniadau ar gryndo (dôm) stereosgopig. Mae'r gerddoriaeth yn cyfuno recordiadau sain amgylcheddol a chyfansoddiadau lleisiol, electronig ac aml-offerynnol gwreiddiol gyda chyfansoddiadau a grëwyd gan ddefnyddio patrymau mewn data ar y cynnydd yn lefelau'r môr ac erydu arfordirol (wedi'u trosi i MIDI i bennu elfennau o frawddegu a nodiant melodig) yn ogystal â throsiad seinyddol o signalau trydanol a gynhyrchwyd gan wymon a phlanhigion arfordirol.
Bydd Gwen yn perfformio’r gerddoriaeth gan ddefnyddio cyfuniad o gyfryngau sefydlog, electroneg fyw, llais ac offerynnau arbrofol o waith llaw, ochr yn ochr â’r feiolinydd a cherddor byrfyfyrAngharad Davies a fydd yn ymateb i gyfres o sgoriau graffig Gwen wedi’u hysbrydoli gan yr arfordiroedd.
Cefnogwyd y gwaith ymchwil a datblygu gan Tŷ Cerdd, Oxford Contemporary Music ac Articulture (fel rhan o CoDi BŴM! yn cefnogi cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd). Cefnogir y blaenberfformiad gan CULTVR a Chyngor Celfyddydau Cymru (fel rhan o Breswylfeydd Sioeau Arddangos Realiti Ymestynnol Catalydd / Catalyst 360º).
Lleoliadau gwaith maes: Happisburgh, Withernsea, Morecambe, Marazion, Dungeness, Pensarn, Y Friog, Dinbych-y-pysgod, Caerdydd
















