Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Medal y Cyfansoddwr 2026
‘Lleisiau Waldo’
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 ddydd Mercher 7 Ionawr
Mae Medal y Cyfansoddwr yn gydweithrediad rhwng Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Gerddoriaeth Cymru. Mae’n lwybr datblygu artist lle bydd tri chyfansoddwr dethol yn creu gwaith newydd i’w berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Penllanw’r daith fydd dyfarnu Medal y Cyfansoddwr i’r cyfansoddwr buddugol yn ystod seremoni arbennig ar lwyfan y pafiliwn yn yr Eisteddfod ym mis Awst.
THEMA
Thema ar gyfer Medal y Cyfansoddwr eleni yw barddoniaeth Waldo Williams, un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20fed ganrif – ac yn un o feibion amlycaf ardal Y Garreg Las, cartref Eisteddfod 2026.
Mae Medal y Cyfansoddwr – Lleisiau Waldo yn lwybr sy’n cynnig cyfle cyflogedig i dri chyfansoddwr gyfansoddi dau gyfansoddiad fer: un ar gyfer côr lleisiau SATB ac un ar gyfer côr plant/ieuenctid (SA) wedi’u gosod ar gerddi Waldo Williams.
Bydd y tri chyfansoddwr dethol yn gweithio gyda Nathan James Dearden, cyfansoddwr a thiwtor; Caleb Mock, cyfarwyddwr corawl, a chôr SATB a fydd yn cael ei ffurfio’n arbennig ar gyfer y prosiect hwn. Croesewir ceisiadau gan bob math o grewyr cerddoriaeth o bob cwr o Gymru ac ar draws pob genre.
Y BROSES
Cynhelir gweithdai a sesiynau mentora gyda’r tri cyfansoddwr dethol gydol y misoedd yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol. Daw penllanw’r cynllun gyda pherfformiadau byw o waith y tri chyfansoddwr ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn 8 Awst 2026. Yna, ar sail y cyfansoddiadau, dyfernir Medal y Cyfansoddwr yn ogystal â gwobr o £750 i’r enillydd (o blith y tri).
Bydd proses wahanol ar gyfer y ddwy gerdd:
-
Ar gyfer y gwaith SATB, bydd y tri chyfansoddwr yn cyfranogi mewn gweithdai gyda’r mentor-gyfansoddwr, Nathan James Dearden, y cyfarwyddwr corawl Caleb Mock, a chôr SATB a ffurfir yn arbennig ar gyfer y llwybr hwn. Y dasg yw gosod cerdd eiconig Waldo Williams, Plentyn y Ddaear i leisiau SATB
-
Ar gyfer y gwaith i gôr plant/ieuenctid (SA), bydd y cyfansoddwyr yn gweithio’n annibynnol, gyda rhywfaint o fentora/amser cyswllt ar-lein gan Nathan James Dearden. Y gerdd osod ar gyfer côr plant fydd Y Ci Coch.
Ar fore’r gystadleuaeth, bydd cyfle i’r tri chyfansoddwr weithio ar y ddau gyfansoddiad gyda’r ddau gôr yn Y Stiwdio, ar Faes yr Eisteddfod ar 8 Awst.
Darperir copi o’r ddwy gerdd (yn ddwyieithog) ar waelod y dudalen.
Bydd pob artist yn derbyn £600 am eu cyfranogiad mewn cyfuniad o weithdai wyneb yn wyneb ac amser cyswllt ar-lein. Bydd costau teithio (o fewn Cymru) yn cael eu talu ar gyfer unrhyw artist sydd angen teithio i’r gweithdai (Caerdydd) a’r perfformiad (Sir Benfro).
Mae'r panel beirniadu ar gyfer Medal y Cyfansoddwr eleni yn cynnwys Tim Rhys-Evans, prif feirniad (arweinydd), Robert Fokkens (cyfansoddwr), a Branwen Haf (artist).
Bwriedir cyhoeddi gwaith y tri chyfansoddwr drwy Tŷ Cerdd yn dilyn yr Eisteddfod.
DYDDIADAU
Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael ar gyfer y gweithdai / perfformiadau canlynol:
-
Dydd Mawrth 10 Chwefror (ar-lein): Sesiwn gyflwyno (2.5 awr, prynhawn)
-
Dydd Llun 30 Mawrth (mewn person): Gweithdy gyda chôr bach, yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
-
Dydd Llun 18 Mai (mewn person): Gweithdy gyda chôr bach, yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd
-
Dydd Sadwrn 8 Awst: Ymarfer / beirniadu yn yr Eisteddfod, Stiwdio’r Eisteddfod, Llantwd, Sir Bendro (yn ystod y dydd)
-
Digwyddiad perfformio cyhoeddus: Dydd Sadwrn 8 Awst (Pafiliwn yr Eisteddfod, gyda’r hwyr, tua 18.00)
CYFRANOGWYR
Genre: Er bod y cyfle hwn ar gyfer y rhai sy'n creu cerddoriaeth gan ddefnyddio hen nodiant, rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw arddull gerddorol.
Cyfansoddwyr Cymraeg: Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth ar draws Cymru. Os ydych yn gerddorol ac yn ateb gofynion y rheolau isod, rydych yn gymwys i gystadlu. Mae cystadlaethau ac ysgoloriaethau’r Eisteddfod yn agored i unrhyw un:
-
a anwyd yng Nghymru, neu
-
y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu
-
sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg,
-
neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst 2025.
Hygyrchedd a chynhwysiant
Telir treuliau teithio artistiaid o fewn Cymru. Sylwer na fydd teithio y tu allan i Gymru yn cael ei gwmpasu.
Rydym yn cydnabod bod llawer o artistiaid yn parhau i wynebu rhwystrau systemig o fewn y diwydiant cerddoriaeth. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn drwy ein gwaith, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi wynebu rhwystrau yn sectorau’r celfyddydau/cerddoriaeth. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, pobl Dduon, Asiaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang, pobl LGBTQIA+, a phobl â chefndiroedd economaidd-gymdeithasol is neu sydd â rhwystrau economaidd-gymdeithasol parhaus i’w gwaith creadigol.
Rydym yn awyddus i wneud y broses ymgeisio mor syml â phosib, felly rydym yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi amdano’r rhaglen neu sut i ymgeisio. Os hoffech chi drefnu sgwrs ynglŷn â’ch cais neu i drefnu cymorth mynediad cysylltwch â freya.dooley@tycerdd.org. ydym hefyd yn gwahodd y crewyr cerddoriaeth rydym yn gweithio gyda i rannu a thrafod anghenion mynediad (‘access riders’) ar unrhyw gam yn y prosiect.
Rydym yn bartneriaid ac yn lofnodwyr balch o Egwyddorion Mynediad Teg. Mwy o wybodaeth am hyn a’n Conglfeini yma.
FFORMAT (DULL) YMGEISIO
Caiff ceisiadau ysgrifenedig eu cyflwyno trwy ein PORTH ar-lein.
Croesawir ceisiadau sain a fideo hefyd. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, cysylltwch â
freya.dooley@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org am gymorth.
-
Iaith Gymraeg: Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, ac mae croeso i gyfranogwyr beth bynnag fo eu lefel ar eu taith gyda’r Gymraeg.
Os oes genych chi ddiddordeb, ond bod gennych chi rai cwestiynau…
… gallwn siarad â chi’n uniongyrchol dros y ffôn neu Zoom.
Anfonwch e-bost at freya.dooley@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org i drefnu galwad. Rydym yma i gynorthwyo – felly os oes unrhyw beth yr hoffech holi, rhowch wybod, a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.
SUT I WNEUD CAIS
Cyflwynwch yr wybodaeth ganlynol i’n PORTH. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18 oed. Cyfeiriwch at eich gwefan a’ch enwau defnyddiwr cyfryngau cymdeithasol hefyd (os yw’n berthnasol).
2. Dywedwch wrthym am eich ‘ymarfer’ yn y maes (Uchafswm 250 o eiriau):
Dywedwch wrthym am eich ‘ymarfer’ fel cyfansoddwr a chrëwr cerddorol, a’r hyn rydych wedi bod fwyaf balch ohono.
Rhowch wybod am unrhyw brofiad blaenorol sydd gennych fel ymarferwr a chrëwr cerddoriaeth a allai fod yn berthnasol.
3. Pam hoffech chi fod yn rhan o’r llwybr hwn? (Uchafswm 250 o eiriau)
Dywedwch wrthym sut y byddai hyn yn adeiladu ar eich profiad blaenorol a’r hyn rydych yn gobeithio a allai newid a datblygu yn eich cerddoriaeth drwy gymryd rhan.
Sut ydych chi’n credu y bydd y cyfle hwn yn fuddiol i’ch gyrfa?
4. Sut fyddech chi’n ymateb i weithio gyda’r ddau gôr, ac i osod testunau Waldo Williams? (Uchafswm 400 o eiriau: nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r terfyn llawn, ond rhowch gymaint o fanylion ag sy’n teimlo’n ddefnyddiol.)
Fel rhan o’ch ateb, rhowch wybod am eich:
dull o weithio gyda’r ddau gôr
diddordeb yng ngwaith a cherddi Waldo Williams
eich perthynas â Chymru a’i hiaith. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddangos ymrwymiad i’r Gymraeg a gwerthfawrogiad o’i phwysigrwydd i’r prosiect hwn.
5. Enghreifftiau o’ch gwaith: darparwch ddwy ddolen neu atodiad i’ch cerddoriaeth a’r ddau sgôr cyfatebol.
Anogwn chi i rannu enghreifftiau sy’n dangos eich gwaith cryfaf ac, os yn bosibl, sy’n cysylltu â’ch dull o fynd at y prosiect hwn.
Ar gyfer sain: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo. Gall y rhain fod ar SoundCloud, Spotify, YouTube ac ati. (Os oes angen help i greu dolenni, cysylltwch â freya.dooley@tycerdd.org).
Ar gyfer sgoriau: anfonwch ffeiliau PDF
CYFLWYNO CEISIADAU SAIN A FIDEO:
-
Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2, 3, 4 a 6. (Hyd mwyaf 10 munud: nid oes angen defnyddio’r deg munud llawn, ond cynnwys cymaint o fanylion ag y credwch sy’n ddefnyddiol).
-
Llwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’ch Manylion Personol (C1) a dolenni at ddau enghraifft o’ch gwaith (C5). Os oes angen help i greu dolen i’ch fideo, anfonwch e-bost at freya.dooley@tycerdd.org
Y BROSES O DDEWIS A’R PANEL DETHOL
Bydd y panel yn cynnwys:
-
Supriya Nagarajan, canwr a chyfansoddwr
-
Iwan Teifion Davies, cyfarwyddwr cerdd [a Chadeirydd Panel Cerdd yr Eisteddfod]
-
Nathan James Dearden, cyfansoddwr a mentor llwybr
-
Deborah Keyser, Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd
gyda Freya Dooley (Rheolwr Datblygu Artistiaid, Tŷ Cerdd) yn gwylio/chadeirio’r panel ac yn cymryd nodiadau.
Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar y meini prawf canlynol:
-
Sut mae’r ceisiwr yn cyfathrebu’n glir eu cefndir / gyrfa a phwysigrwydd eu gwaith/uchelgais i’r cyfle hwn (C2)
-
Yn seiliedig ar eu hatebion i C3
-
Sut y byddai’r cyfle hwn o fudd i’w gyrfa yn y tymor byr a’r tymor hir (C3 a C4)
-
Effaith y cyfle hwn ar ddatblygiad personol, proffesiynol a/neu artistig y ceisiwr (C3 a C4)
-
Ymgysylltu gwirioneddol â’r iaith Gymraeg (C4)
Enghreifftiau o gerddoriaeth:
-
I ba raddau mae’r enghreifftiau a ddarparwyd yn dangos potensial ac ansawdd yr ymgeiswyr
Adborth:
Byddwn yn darparu adborth i’r holl geisiwr sy’n gofyn amdano.
AMSERLEN Y BROSES DDETHOL
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 ar ddydd Mercher 7 Ionawr. Byddwn yn rhoi lwfans o 10 munud ar ôl y dyddiad cau - ond ni allwn dderbyn ceisiadau ar ôl yr amser hwnnw (10:10yb). Os ydych chi'n teimlo bod angen help arnoch i gwrdd â'r dyddiad cau, cysylltwch â ni cyn 7 Ionawr. (freya.dooley@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org)
-
Bydd y banel yn cyfarfod yn fuan ar ôl y dyddiad cau.
-
Byddwn yn rhoi gwybod i’r holl ymgeiswyr erbyn wythnos sy’n dechrau 19 Ionawr.
PARTNERIAID / HWYLUSWYR
Mae Nathan James Dearden yn gyfansoddwr ac addysgwr o Gymru (Darlithydd mewn Cyfansoddi, Royal Holloway) gyda phrofiad sylweddol mewn ysgrifennu ar gyfer corau amrywiol. Fe’i gwobrwywyd â Thlws y Cyfansoddwr (nawr Medal y Cyfansoddwr) yn 2023, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Tŷ Cerdd fel prif artist ar CoDI Côr, cynllun sy’n cefnogi artistiaid i ysgrifennu ar gyfer corau cymunedol.
Mae Caleb Mock yn gerddor a chyfarwyddwr sy’n byw yng Nghaerdydd, ac yn gyfarwyddwr Octave Cymru.
Diben Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru yw hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth cyfansoddwyr o darddiad Cymreig a chyfansoddwyr o unrhyw genedligrwydd sy'n byw yng Nghymru.
TESTUNAU'R CERDDI







