top of page
Cymru@Classical NEXT 2025

Mae Tŷ Cerdd, ar ran Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, unwaith eto yn falch o gael arwain presenoldeb Cymru yng nghynhadledd Classical:NEXT, sef arddangosfa fyd-eang cerddoriaeth glasurol, i’w chynnal ym Merlin, yr Almaen rhwng 12 a 15 Mai.

Mae cynrychiolwyr Cymru yn cynnwys artistiaid, hyrwyddwyr, a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a’r sector, a phleser o’r mwyaf yw hyrwyddo’r ddeuawd o Gymru ac Iwerddon sy’n perfformio yn rhan o’r digwyddiad, sef Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain.

Ein cynrychiolwyr:

Richard Baker
Rosey Browne
Angaharad Davies
Dilwyn Davies
TamsinDavies copy.jpg
Nathan James Dearden
Catrin Finch_edited.jpg
Robert Fokkens
Deborah Keyser
Gwenno Morgan
Aoife-Ni-Bhriain-3.jpg
Gwen Siôn

Richard Baker

Mae Richard Baker yn gyfansoddwr, yn arweinydd, yn athro ac yn fentor a astudiodd cyfansoddi gyda Louis Andriessen a John Woolrich. Wedi hynny, yn rhinwedd ei swydd yn Gymrawd Cerddoriaeth Newydd yn Kettle’s Yard, Caergrawnt (2001–03) dechreuodd ar linyn gwaith fel curadur cyngherddau a chynghorydd rhaglenni a hyn yn parhau hyd heddiw. Mae wedi bod yn Athro Cyfansoddi yn Ysgol Guildhall ers 2004, ac fe’i hetholwyd yn Gymrodor Anrhydeddus yn 2009. Mae ei allbwn yn cynnwys caneuon a chylchoedd ohonynt, sawl darn corawl byr, unawdau offerynnol a cherddoriaeth siambr yn ogystal â gweithiau ar gyfer ensemble mwy o faint gan gynnwys sawl darn o waith i’r Birmingham Contemporary Music Group, y mae hefyd wedi gweithio’n aml gyda nhw fel arweinydd. Enwebwyd The Tyranny of Fun (2012), sef yr ail o gomisiynau’r BCMG, am Wobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2014.

Rosey Brown

Mae Rosey yn gynhyrchydd creadigol yng Nghaerdydd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn mynediad at gerddoriaeth. Ar hyn o bryd mae hi’n cynhyrchu cynllun Bwthyn Sonig Tŷ Cerdd, gan gyd-greu llwybrau datblygu ar gyfer cerddorion ag anableddau dysgu yng Nghymru, yn ogystal â bod yn rheolwr cysylltiadau cerddoriaeth llawr gwlad yn nhîm De-orllewin Lloegr ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr. Mae gan Rosey ddiddordeb hefyd mewn cerddoriaeth gyfoes ac arbrofol yn enwedig mewn lleoliadau DIY, ac mae’n cyd-redeg PASTA NOW, sef grŵp gwrando arbrofol a hyrwyddwr sy’n canolbwyntio ar fenywod, cerddorion traws a di-ddeuaidd a gwneuthurwyr sain.

Angharad Davies

Mae gwaith Angharad yn bodoli rhwng ffiniau gwaith byrfyfyr, cyfansoddi a cherddoriaeth arbrofol. Mae hi’n mynd ati i drin sain drwy wrando’n astud ac yna archwilio tu hwnt i gyfyngiadau sonig ei hofferyn, ei hyfforddiant clasurol a disgwyliadau perfformiad. A hithau’n ddi-ofn wrth gydweithredu, mae hyn wedi ei galluogi i weithio gyda phobl fel Tony Conrad, Eliane Radigue, Tarek Atoui, Gwenno, Jürg Frey, Lina Lapelyte, Richard Dawson, JG Thirwell ac Annea Lockwood. Fel cyfansoddwraig, mae hi wedi cael ei chomisiynu gan Counterflows, LCMF, Tŷ Cerdd, Nawr, Explore Ensemble, y ddeuawd GBSR + AndPLAY ac mae ganddi dros 100 o recordiau wedi’u rhyddhau gan labeli gwahanol.

Dilwyn Davies

Mae Dilwyn ers 1995 wedi rheoli Theatr Mwldan – sef canolfan ar gyfer ffurfiau celfyddyd o bob math yn Aberteifi. Mae gan y lleoliad arbenigedd penodol mewn cerddoriaeth werin, cerddoriaeth draddodiadol a byd-eang, gan gynhyrchu prosiectau cerdd a mynd â nhw ar daith yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â rheoli artistiaid a rhyddhau recordiadau trwy ei label ei hun. Mae Dilwyn yn rheoli ac yn cynrychioli prosiect y ddeuawd Catrin Finch (Cymru) ac Aoife Ní Bhriain (Iwerddon) sy’n arddangos yn Classical:NEXT 2025 ym Merlin.

Tamsin Davies

Tamsin sy’n gwneud yr holl farchnata, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer Mwldan yn Aberteifi, sef sinema a chanolfan gelfyddydau sy’n cynhyrchu ac yn teithio cerddoriaeth draddodiadol a byd-eang. Mae hi’n gynhyrchydd ac yn arwain marchnata ar gyfer gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi, yn ogystal ag yn arwain yr allbwn creadigol a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y label recordiau Bendigedig.

Nathan James Dearden

Mae Nathan James Dearden yn grëwr cerddoriaeth arobryn, a’i waith wedi’i berfformio gan ensembles sy’n cynnwys Cantorion y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain ac Ensemble Ynysoedd Heledd. Mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ledled y DU a thramor, gan gynnwys yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham a Diwrnodau Cerddoriaeth y Byd ISCM, yn ogystal â chael ei darlledu ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales, RTÉ lyric FM, ac S4C. Mae ei gerddoriaeth hefyd wedi’i rhyddhau ar NMC Recordings a Delphian. Yn ogystal, mae Nathan yn arweinydd poblogaidd, yn ymgynghorydd y celfyddydau, yn guradur digwyddiadau ac addysgwr, ac mewn rolau ymgynghorol ym myd y celfyddydau gyda sawl sefydliad rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’n Ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Frenhinol Holloway Llundain.

Catrin Finch

Catrin Finch yw telynores glasurol fwyaf dawnus ei chenhedlaeth, wedi’i thrwytho mewn hyfforddiant clasurol dwys ac mae wedi cael llwyddiant rhyfeddol yn ifanc; yn ei hugeiniau cynnar hi oedd Telynores Frenhinol ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Mae Catrin wedi perfformio gyda llawer o gerddorfeydd blaenllaw’r byd, gan hyd yn oed gyrraedd y siartiau gyda’i pherfformiad rhif 1 o Amrywiadau Goldberg gan Bach ac wedi recordio ar gyfer labeli clasurol mawr y byd. Mae chwilfrydedd diderfyn ac ysbryd anturus Catrin wedi ei harwain i fyd cyfochrog cael llwyddiant mawr yn y byd cerddorol, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediad â’r kora virtuoso Seckou Keita a’r ddau wedi ennill y Grŵp Gorau yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 y BBC yn 2019.

Robert Fokkens

Caiff cerddoriaeth Robert Fokkens ei pherfformio a’i darlledu’n rhyngwladol, ei chyhoeddi gan Composers Edition a Tetractys Publishing, a’i recordio ar Nimbus, Métier, Herald, Naxos a labeli eraill. Mae cerddoriaeth Robert yn defnyddio technegau a deunyddiau wedi’u dysgu o sawl byd cerddorol, gan greu cerddoriaeth o gylchoedd troellog a throadau microtonal a ddisgrifiwyd yn ‘hilarious’, ‘sad [and] strange…express[ing] more than anything else’ (The Times). Yn ddiweddar, cafwyd perfformiad cyntaf ei opera Bhekizizwe yng Nghymru (2022), perfformiwyd ei ddeuawd ffidil/soddgrwth Pier Music am y tro cyntaf gan deithio yn y DU gyda David Adams ac Alice Neary, a pherfformiwyd a darlledwyd premiere Ewropeaidd Mzantsi Nights yn yr Almaen gan Ensemble Modern (2023).

Deborah Keyser

Deborah yw Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd / Canolfan Gerdd Cymru – sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru i sicrhau presenoldeb Cymru yn WOMEX 24. Cenhadaeth Tŷ Cerdd yw dathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru – gan ddefnyddio’r slogan “os ydych chi’n creu cerddoriaeth yng Nghymru, mae’n gerddoriaeth Gymreig”. Mae’r sefydliad yn gweithio ledled Cymru o’i ganolfan yng Nghaerdydd, lle mae ganddo stiwdio recordio, llyfrgell a dau label recordio. Deborah yw Is-lywydd IAMIC (Cymdeithas Ryngwladol Canolfannau Cerdd) a chyn-Lywydd ISM (Cymdeithas Annibynnol y Cerddorion).

Gwenno Morgan

Mae Gwenno Morgan yn bianyddes, yn gyfansoddwraig, ac yn allweddellwraig sy’n dod yn wreiddiol o Fangor, ac sydd ar hyn o bryd yn byw yn Llundain. Graddiodd â Gradd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Leeds gan gwblhau MMus mewn Ymarfer Creadigol yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Yn ddiweddar, rhyddhaodd Gwenno ei halbwm cyntaf, ‘gwyw’, sydd wedi derbyn canmoliaeth feirniadol am ei gymysgedd unigryw o ddylanwadau clasurol a chyfoes. Mae ei chyfansoddiadau’n cwmpasu gwahanol genres ac wedi cael eu cynnwys mewn amrywiaeth o brosiectau’r cyfryngau. Yn sgil ei hymlyniad dwfn i’w gwreiddiau Cymreig, mae elfennau o gerddoriaeth werin Gymreig yn dod i’r amlwg yn gynnil drwy gydol ei gwaith, gan ychwanegu cyffyrddiad diwylliannol amlwg.

Aoife Ní Bhriain

Ganed Aoife Ní Bhriain yn Nulyn i deulu o gerddorion, ac mae hi wedi hen sefydlu ei hun fel un o feiolinyddion mwyaf amryddawn a dawnus ei chenhedlaeth. Llwydda Aoife i gyfuno treftadaeth gerddorol draddodiadol Wyddelig ag astudiaethau clasurol gan iddi astudio’r feiolin glasurol yn ifanc. Ar ôl ei hymddangosiad cyntaf mewn cyngerdd yn 9 oed gyda Cherddorfa Symffoni RTÉ, mae Aoife wedi mynd ymlaen i berfformio fel unawdydd gan recordio gyda nifer o gerddorfeydd ledled Ewrop ac Asia ac ennill nifer o wobrau am gerddoriaeth draddodiadol Wyddelig a cherddoriaeth glasurol, gan gynnwys rhai ledled Iwerddon gyfan. Mae wedi perfformio gyda cherddorion o bob genre gan gynnwys yr enillydd Oscar Tim Robbins a’r Band of Rogues, Declan O’Rourke, Kris Drever, Martin Hayes a Denis Cahill, Julie Fowlis a John Sheahan o enwogrwydd y Dubliners.

Gwen Siôn

Mae Gwen Sion yn gyfansoddwraig arbrofol, yn gynhyrchydd ac yn artist amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda sain, cerflunio, electroneg, fideo a gosodiadau. Mae hi’n creu cyfansoddiadau i sawl offeryn, i leisiau ac electronig, ac yn dylunio/adeiladu ei hofferynnau electronig a dyfeisiau sain arbrofol wedi’u gwneud ei hun â llaw trwy ailgylchu gwrthrychau wedi’u darganfod a deunyddiau naturiol. Mae hi’n ymddiddori yn y berthynas rhwng sain a’r amgylchedd, natur, technoleg, mytholeg, defodau a chroesi synesthetig. Mae Gwen yn defnyddio dulliau cyfansoddi annhraddodiadol dan ysbrydoliaeth darllen tirweddau fel sgoriau, ynghyd â thechnegau estynedig, dylunio sain, samplu, trin electronig, recordiadau maes a recordiadau hydro. Mae hi wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau cerddoriaeth a sain, comisiynau, gosodiadau cyhoeddus, arddangosfeydd, perfformiadau a phreswylfeydd ledled y DU ac yn rhyngwladol.

WOMEX 2024 logo strip.png
bottom of page