Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640


Ddirprwyaeth Gymreig WOMEX 2026
Ym mis Hydref, bydd Tŷ Cerdd, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn arwain dirprwyaeth o wyth unigolyn i expo cerddoriaeth fyd-eang ac yn arddangos WOMEX 2026 yn Gran Canaria. Fel rhan o'r rhaglen, bydd tri o'r ddirprwyaeth o Gymru yn cydweithio â grŵp o artistiaid a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant o bob cwr o'r DU ar daith gynaliadwy, artistig ar draws tir a môr – prosiect peilot, gyda'r bwriad o osod y sylfaen ar gyfer teithio a myfyrio allyriadau isel yn y dyfodol ac ymarfer artistig.
Mae'r ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys Ayoub Boukhalfa (cerddor), Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Danny Kilbride (Trac Cymru), Dilwyn Llwyd (Neuadd Ogwen, Bala), Caroline Murphy (gweithiwr creadigol llawrydd), Antwn Owen-Hicks (cerddor a gweithiwr creadigol proffesiynol), Leanne Rochefort-Shugar (Tafwyl a Menter Caerdydd), Andrew Wyn Thomas (Between the Trees) and Dawn Wood (Between the Trees).
WOMEX 2026: Meet the Welsh Delegation
In late-October, Tŷ Cerdd, in partnership with Wales Arts International, will lead an eight strong delegation to global music expo and showcase WOMEX 2026 in Gran Canaria. A key priority for the delegation while at WOMEX itself will be to consolidate and develop support of indigenous languages and cultures, and fostering engagement with audiences and artists here in Wales.
The Welsh delegation features a diverse range of artists, promoters, industry and sector professionals - many of whom are being supported by a development programme of mentoring and bursaries. The group includes Ayoub Boukhalfa (musician), Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Danny Kilbride (Trac Cymru), Dilwyn Llwyd (Neuadd Ogwen, Bala), Caroline Murphy (freelance creative), Antwn Owen-Hicks (musican & creative professional), Leanne Rochefort-Shugar (Tafwyl & Menter Caerdydd), Andrew Wyn Thomas (Between the Trees) and Dawn Wood (Between the Trees).

Ayoub Boukhalfa
Mae Ayoub Boukhalfa yn ganwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor cymunedol, arweinydd côr a hwylusydd celfyddydau sy’n dod o Moroco ond yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei ymarfer creadigol yn cyfuno traddodiadau cerddorol Moroco, cyfansoddi caneuon cyfoes a chreu cerddoriaeth i bobl gymryd rhan ynddi. Ganed Ayoub ym Moroco, ac mae’n tynnu ysbrydoliaeth o Chaabi, Gnawa a thraddodiadau cerddorol Gogledd Affrica, gan ymgorffori offerynnau fel y gembri a’r qraqeb yn ei waith. Mae ei ymarfer artistig yn archwilio themâu hunaniaeth, mudo, perthyn, bod yn cwiar, treftadaeth ddiwylliannol a’r profiad o adeiladu bywyd rhwng gwahanol ddiwylliannau. Mae Ayoub yn frwd dros greu cysylltiadau drwy gerddoriaeth a datblygu gwaith sy’n dod â dylanwadau diwylliannol Moroco, Arabaidd a Chymreig ynghyd. Mae wedi datblygu a chyflwyno prosiectau canu, drymio Moroco a cherddoriaeth gymunedol gyda grwpiau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, mudwyr a chymunedau LGBTQ+.
Ayoub Boukhalfa is a Cardiff-based Moroccan singer, songwriter, community musician, choir leader and arts facilitator whose practice brings together Moroccan musical traditions, contemporary songwriting and participatory music-making. Born in Morocco, Ayoub draws inspiration from Chaabi, Gnawa and North African musical traditions, incorporating instruments such as the gembri and qraqeb into his work. His artistic practice explores themes of identity, migration, belonging, queerness, cultural heritage and the experience of building a life between different cultures. Ayoub is passionate about creating connections through music and developing work that brings Moroccan, Arabic and Welsh cultural influences together. He has developed and delivered singing, Moroccan drumming and community music projects with diverse groups across Wales, including refugees, asylum seekers, migrants and LGBTQ+ communities.

Branwen Dickson
Mae Branwen yn gweithio gyda Tîm Cerddoriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Branwen yw rheolwr perthynas portffolio o sefydliadau cerddoriaeth sy’n derbyn cyllid aml-flwyddyn gan CCC, ymgeiswyr am grantiau a’n cefnogi datblygu strategol ar draws y sector. Cyn ymuno â'r Tîm Cerddoriaeth, bu Branwen yn gweithio gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru (WAI), asiantaeth rhyngwladol CCC, gan ganolbwyntio ar gronfeydd cyfleoedd rhyngwladol, rhaglenni rhyngwladol gan gynnwys Gwrando fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Cynhenid y Cenhedloedd Unedig ac digwyddiadau arddangos rhyngwladol. Mae Branwen, sy'n siaradwr Cymraeg, yn byw yng Nghaerdydd.
Branwen works within the Music Team at Arts Council of Wales (ACW), the public body responsible for funding and developing the arts in Wales. Branwen is the relationship manager for a portfolio of multi-year funded music organisations, grant applicants and supports strategic funding and development initiatives across the sector. Before joining the Music Team, Branwen worked with Wales Arts International (WAI), the international agency of ACW, focusing on funding for international opportunities, international programmes including Gwrando (Listening) as part of the UN Decade of Indigenous Languages and international showcasing. Branwen is a first language Welsh speaker.

Eluned Haf
Eluned Hâf yw Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig i gyflwyno rhaglenni diwylliannol fel rhan o fentrau ‘Team Cymru’, megis rhaglen ddiwylliannol ‘Wales in France’ yn 2023, Rhaglen Ddiwylliannol Cymru yng Nghwpan y Byd Pêl-droed Dynion FIFA yn 2022, a Rhaglen Ddiwylliannol Cymru-Japan yn 2019. Yn siaradwraig Gymraeg brodorol, hi a arweiniodd ‘Gwrando’ - rhaglen gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi artistiaid yng Nghymru i wrando ar ieithoedd a doethineb brodorol ac i ddysgu oddi wrthynt, fel rhan o Ddegawd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Un o uchafbwyntiau gyrfa Eluned oedd hyrwyddo achos diwylliant o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cyfraniad arloesol Cymru at Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig. Arweiniodd y cais llwyddiannus i gynnal yr Expo Cerddoriaeth Byd (WOMEX) yng Nghaerdydd yn 2013 a rhoi cefnogaeth i WOMEX ym Manceinion yn 2024. Astudiodd Eluned ieithoedd a newyddiaduraeth a gweithiodd i BBC Cymru Wales a Reuters TV cyn dod yn swyddog y wasg i Grŵp y Gwyrddion/EFA yn Senedd Ewrop, ac yna sefydlodd ‘una’, asiantaeth gyfathrebu Ewropeaidd greadigol. Yn ei hamser hamdden, mae Eluned wrth ei bodd yn canu mewn côr ac yn chwarae pêl-droed gyda’i thri bachgen.
Eluned Hâf is Head of Wales Arts International, the international agency of the Arts Council of Wales and works closely with Welsh Government and British Council to deliver cultural programmes as part of Team Cymru initiatives, such as the Wales in France cultural programme 2023, Cymru Cultural Programme at the FIFA Mens’ World Cup in 2022, and the Cymru Japan Culture Programme 2019. A mother-tongue Welsh speaker, she spearheaded Gwrando, a programme by Arts Council of Wales to support artists in Wales to listen and to learn from Indigenous languages and wisdom as part of the UN Decade of Indigenous Languages. One of Eluned’s career highlights was making the case for culture within the Wellbeing of Future Generations Act, Wales’ pioneering contribution towards the UN Global Goals. She led the successful bid to host the World Music Expo WOMEX in Cardiff in 2013 and supported WOMEX in Manchester in 2024. Eluned studied languages and journalism and worked for BBC Cymru Wales and Reuters TV before becoming press officer for the Greens/EFA Group in the European Parliament and founded una, a creative European communications agency. In her spare time Eluned loves to sing in a choir and play football with her three boys.

Deborah Keyser
Deborah Keyser yw Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd | Music Wales. Tŷ Cerdd yw cartref cerddoriaeth Cymru. O grewyr cerddoriaeth i berfformwyr, ac o gyrff proffesiynol i grwpiau llawr gwlad, mae'r sefydliad yn cefnogi ac yn hyrwyddo cerddorion o bob genre. Mae Tŷ Cerdd yn gweithio gyda Wales Arts International i drefnu dirprwyaeth Cymru ar gyfer WOMEX 2026 – grŵp sy'n cynnwys cerddorion, hyrwyddwyr ac asiantaethau cymorth. Mae stondin Cymru yn rhan o gydweithrediad Horizons (gyda Lloegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a'r Alban). Y prif flaenoriaethau ar gyfer presenoldeb Cymru yn WOMEX 2026 yw: • creu llwybrau i Gymru ar gyfer artistiaid brodorol rhyngwladol ac artistiaid eraill o'r mwyafrif byd-eang; • cyflwyno profiad byw Cymru o drosglwyddo iaith drwy'r Gymraeg a thrwy'r celfyddydau.
Deborah Keyser is Director of Tŷ Cerdd | Music Wales. Tŷ Cerdd is the home for Welsh music. From music-creators, to performers, from professional bodies, to grassroots groups, the organisation supports and champions musicians of all genres. Tŷ Cerdd is working with Wales Arts International to deliver the WOMEX 2026 Cymru Wales delegation - a group that includes musicians, promoters and support agencies. The Cymru Wales stand is part of the Horizons collaboration (with England, Ireland, Northern Ireland and Scotland). Key priorities for the Cymru Wales presence at WOMEX 2026 are: • creating routes for international indigenous and other global majority artists into Wales; • presenting Wales’s lived experience of transferring language through Cymraeg and through the arts.

Danny KilBride
Cyfarwyddydd Trac Cymru, corff datblygu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Rwyf wedi bod yn gerddor ers fy ngeni ac fe wnes i fy nghyngerdd cyntaf am arian gyda fy rhieni yn naw oed. Ers hynny, rwyf wedi gweithio ar draws y diwydiant cerddoriaeth am 50 mlynedd, gan berfformio, teithio, rhaglennu, rheoli ac eiriol dros ein cerddoriaeth frodorol. Rwy'n cefnogi artistiaid sy'n dod i'r amlwg o Gymru i gyrraedd marchnadoedd newydd a datblygu'r cysylltiadau proffesiynol sydd eu hangen arnynt i gynnal gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth; ac fel rhan o Dîm Cymru – sydd wedi'i leoli yn ardal Horizons UK & Ireland – byddaf yno i gyflwyno ein cerddoriaeth a'n cerddorion i'ch busnes. Rwy'n mynychu WOMEX, Folk Alliance International, English Folk Expo a Showcase Scotland yn rheolaidd, ac rwy'n gwasanaethu ar Fwrdd y European Folk Network yn ogystal â chyd-gynorthwyo gyda'r Pan World Indigenous Music Network a Phwyllgor 'Live' Undeb y Cerddorion (Musicians' Union).
Danny KilBride is the Director of Trac Cymru, the national development agency for the traditional music of Cymru : Wales, UK. I have been a musician since birth and did my first gig with my parents at the age of nine. Since then I have worked across the music industry for 50 years performing, touring, programming, managing and advocating for our indigenous music. I support emerging artists from Cymru : Wales to reach new markets and develop the professional relationships they need to sustain a career in the music business and as part of Team Cymru - located at the Horizons UK & Ireland space - will be there to introduce our music and musicians to your business. A regular attender at WOMEX, Folk Alliance International, English Folk Expo and Showcase Scotland, I serve on the board of the European Folk Network and help with the Pan World Indigenous Music Network and the Musicians Union Live Committee. My next solo album will be out in 2026.

Dilwyn Llwyd
Rwyf wedi ceisio sianelu fy angerdd dros y celfyddydau perfformio i drawsnewid fy nghymuned leol er y gorau. Mae fy nghariad a fy ngwerthfawrogiad o gelfyddydau Cymru a'r iaith Gymraeg yn ganolog i'm holl waith. Mae gen i dri deg mlynedd o brofiad o sefydlu a threfnu digwyddiadau llwyddiannus ers pan oeddwn yn 16 oed. Ers 2014 rwyf wedi defnyddio'r profiadau a'r sgiliau blaenorol yn fy rôl fel rheolwr canolfan gelf Neuadd Ogwen ym Methesda, Gwynedd, gan gynhyrchu rhaglen artistig amrywiol o bob cwr o'r byd. Rwyf wedi bod yn trefnu digwyddiad aml-gelfyddydau Ara Deg mewn partneriaeth â Gruff Rhys o Super Furry Animals ers 2019, a digwyddiad cerddoriaeth frodorol Mawr y Rhai Brychain ers 2022, sydd ill dau yn cynnwys elfennau o gerddoriaeth, celfyddyd weledol a llenyddiaeth ryngwladol. Mae fy ngwaith wedi caniatáu imi greu perthnasoedd gwaith da gydag artistiaid lleol a rhyngwladol, a sefydliadau ac asiantaethau o bob cwr o'r byd. Rwy'n credu y dylid datblygu'r celfyddydau ar lefel leol ar yr un pryd ag arddangos celfyddydau o safon ryngwladol.
I have tried to channel my passion for the performing arts to transform my local community for the best. My love and appreciation of the arts of Wales and the Welsh language is central to all my work. I have thirty years of experience setting up and organizing successful events since the age of 16. Since 2014 I have used the previous experiences and skills in my role as manager of the art centre Neuadd Ogwen in Bethesda, Gwynedd, producing a diverse artistic program from all over the World. I’ve been organising the multi arts event Ara Deg in partnership with Gruff Rhys of Super Furry Animals since 2019, and Mawr y Rhai Brychain an indigenous music event since 2022, which both include elements of music, visual art and international literature. My work has allowed me to create good working relationships with local and international artists, and organisations and agencies from all over the World. I believe that the development of the arts at a local level should be done at the same time as displaying the arts of international standard.

Caroline Murphy
Mae Caroline Murphy yn gyd-sylfaenydd SoundBox Music, sef cwmni rheoli a datblygu artistiaid sy’n gweithio ledled Cymru, y DU ehangach, Iwerddon a Chanada, gan fod â ffocws ar gerddoriaeth werin, cerdd draddodiadol a cherddoriaeth wreiddiau. Ymhlith yr artistiaid y mae hi’n eu rheoli mae’r band o Gaerdydd Taff Rapids, y feiolinydd Albanaidd Ryan Young, a’r artistiaid o Ganada Dave Gunning a Rose Morrison. Yn wreiddiol o Iwerddon, mae hi bellach yn byw yn y Gogledd ac mae ganddi fwy na degawd o brofiad yn y sector cerddoriaeth, gan gynnwys sawl blwyddyn yn gweithio yn Nova Scotia. Mae hi hefyd yn rhan o’r tîm y tu ôl i Ŵyl Ymylol Llangollen ac mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu partneriaethau rhyngwladol a llwybrau newydd i artistiaid i mewn i Gymru ac allan ohoni.
Caroline Murphy is co-founder of SoundBox Music, an artist management and development company working across Wales, the wider UK, Ireland and Canada, with a focus on folk, traditional and roots music. Her management work includes Welsh band Taff Rapids, Scottish fiddler Ryan Young, and Canadian artists Dave Gunning and Rose Morrison. Based in North Wales and originally from Ireland, she has more than a decade’s experience in the music sector, including several years working in Nova Scotia. She is also part of the team behind Llangollen Fringe Festival and is interested in developing international partnerships and new routes for artists into and out of Wales.

Antwn Owen-Hicks
Mae Antwn Owen-Hicks yn Rheolwr Prosiectau Celfyddydol llawrydd ac mae ganddo 26 mlynedd o brofiad fel Swyddog Datblygu Celfyddydau a Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Roedd ei waith yn cynnwys portffolio o sefydliadau, gwyliau a lleoliadau cerdd yng Nghymru, yn ogystal â digwyddiadau arddangos cerddoriaeth ryngwladol. Ers 2008, mae Antwn wedi bod yn Ddirprwy Cymru yn y Festival Interceltique de Lorient yn Llydaw, gan ddewis a threfnu’r artistiaid o Gymru bob blwyddyn yn yr ŵyl. Fel cerddor gyda’r band gwerin Carreg Lafar, mae wedi bod yn rhan o recordio a rhyddhau pedwar albwm, ac wedi teithio i Ogledd America bum gwaith yn ogystal â theithio ledled y DU a thir mawr Ewrop. Ar hyn o bryd, mae Antwn yn gweithio fel rheolwr prosiectau llawrydd gyda Trac Cymru, gan reoli dau brosiect cerdd gymunedol yn ogystal â phrosiect teithiol ar gyfer artistiaid gwerin Cymreig sydd ar ganol eu gyrfa ac ar ddechrau eu gyrfa.
Antwn Owen-Hicks is a freelance Arts Project Manager with 26 years' experience as an Arts Development Officer and Portfolio Manager at the Arts Council of Wales. His work included a portfolio of music organisations, festivals and presenting venues in Wales, as well as international music showcase events. Since 2008, Antwn has been the Cymru (Wales) Delegate for Festival Interceltique de Lorient in Brittany, selecting and organising the artists from Cymru each year at the festival. As a musician with the Welsh language folk band, Carreg Lafar, he's been involved in recording and releasing four albums, touring north America 5 times, as well as touring the UK and European mainland. Antwn is currently working as a freelance project manager with Trac Cymru (Music Traditions Wales), managing two community music projects as well as a touring project for mid-career and early career Welsh folk artists.

Leanne Rochefort-Shugar
Leanne Rochefort-Shugar sy’n cynrychioli Gŵyl Tafwyl, un o brif wyliau Cymru sy’n dathlu’r Gymraeg, cerddoriaeth a diwylliant. Wedi’i lleoli yn sector cerddoriaeth a diwylliant bywiog Cymru, mae Leanne yn gweithio i hyrwyddo artistiaid, cerddoriaeth a diwylliant Cymru, gan greu cysylltiadau rhwng talent Cymru a chynulleidfaoedd rhyngwladol. Fel rhan o ddirprwyaeth Cymru yn WOMEX 2026, mae’n edrych ymlaen at feithrin perthnasoedd newydd, rhannu sîn gerddoriaeth unigryw Cymru ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a chyfnewid rhyngwladol.
Leanne Rochefort-Shugar represents Tafwyl Festival, one of Wales’ leading festivals celebrating Welsh-language, music and culture. Based in Wales’ vibrant music and cultural sector, Leanne works to champion Welsh artists, music and culture, creating connections between Welsh talent and international audiences. As part of the Welsh delegation at WOMEX 2026, she is looking forward to building new relationships, sharing Wales’ distinctive music scene and exploring opportunities for international collaboration and exchange.

Dawn Wood
Mae Dawn Wood yn Gyd-Gyfarwyddwr Between The Trees, sef gŵyl gerddoriaeth a natur sy’n annibynnol ac wedi ennill gwobrau. Mae’n ŵyl sydd â’i gwreiddiau mewn cerddoriaeth werin fodern, cerddoriaeth draddodiadol, Americana, natur, cymuned a chysylltiad. Ffurf bwerus o gyfathrebu yw cerddoriaeth i Dawn. Mae hi’n credu y gall cerddoriaeth, cymuned a phrofiadau a rennir agor sgyrsiau, herio rhagdybiaethau a newid safbwyntiau ynghylch y ffordd rydym yn byw – a’n perthynas â’r byd naturiol. Mae’r athroniaeth hon wrth galon Between The Trees: gŵyl lle daw cerddoriaeth, natur, dysgu a chysylltiad dynol ynghyd. Cred sylfaenol yr ŵyl yw mai ‘Natur ydyn ninnau’, sef ein hatgoffa nad ydym ar wahân i’r byd naturiol, ond yn hytrach yn rhan ohono. Drwy Between The Trees, nod Dawn yw creu mannau i bobl fedru camu i ffwrdd oddi wrth sŵn bywyd bob dydd, ailgysylltu â’i gilydd ac â natur, a darganfod ffyrdd newydd o weld y byd.
Dawn Wood is Co-Director of Between The Trees, an award-winning, independent music and nature festival rooted in modern folk, traditional music, Americana, nature, community and connection. For Dawn, music is a powerful form of communication. She believes that music, community and shared experiences can open conversations, challenge assumptions and change perspectives about the way we live — and our relationship with the natural world. This philosophy is at the heart of Between The Trees: a festival where music, nature, learning and human connection come together. Its simple guiding belief is 'We Are Nature' — a reminder that we aren't separate from the natural world, but part of it. Through Between The Trees, Dawn aims to create spaces where people can step away from the noise of everyday life, reconnect with each other and with nature, and discover new ways of seeing the world.

Andrew Wyn Thomas
Mae Andrew yn Gyd-gyfarwyddwr Between The Trees, sef gŵyl werin indi annibynnol, amlddiwylliannol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd â byd natur yn thema iddi. Mae’r ŵyl bellach yn dathlu ei degfed flwyddyn. Nid yn unig y mae Between The Trees yn hyrwyddo cerddoriaeth werin draddodiadol a chyfoes, ond mae hefyd yn ceisio meithrin ein perthynas â’r byd naturiol drwy sgyrsiau, dadleuon, dawns, creadigrwydd ac athroniaeth. Ei chred sylfaenol a’i hegwyddor arweiniol syml yw “Natur ydyn ninnau”, gan ein hatgoffa nad ydym ar wahân i’r byd naturiol, ond yn rhan ohono.
Andrew Wyn Thomas is Co-Director of Between The Trees, an award-winning, independent nature-themed, indie folk festival, which is entering its 10th year. Between The Trees not only promotes traditional and modern folk music, it also aims to nurture our relationship with the natural world through talks, debate, dance, creativity and philosophy. Its simple guiding belief is that “We Are Nature” — a reminder that we aren't separate from the natural world, but part of it.



