
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
CoDI Sound
I FEAR THE JOY OF
DIGITAL TRANSCENDENCE
David John Roche
Un peth i’w ddweud amdanynt yw bod ffilmiau fel Lawnmower Man 2: Beyond Cyberspace, Robocop, a Hot Tub Time Machine yn awgrymu bod gan lawer ohonom bryderon dryslyd, naïf am y gwelliannau a’r maglau posibl a ddaw yn sgil technolegau newydd ac anghyffredin. Yn I Fear The Joy Of Digital Transcendence, rwy’n cyflwyno portread cerddorol o dri chyflwr o fodolaeth y teimlaf ar adegau wrth ystyried datblygiadau technolegol cyfredol. Yn gyntaf, ymdeimlad eang, anferthol o unigrwydd a hiraeth sydd wedi’i wneud yn gan mil gwaeth yn sgil proffesiynoli’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ail, ymdeimlad o ryddid a chyfleoedd diderfyn sydd wedi’i wneud yn gan mil gwell yn sgil y cysylltedd a ddaw gyda’r un technolegau sy’n peri’r holl bryder. Yn olaf, awydd i ddianc i gyflwr tebyg i weddïo – bodolaeth ffantasïol, fewnblyg lle mae technoleg yn dominyddu llai arnaf ac yn fy ngwylio llai. Dyma ddarn o gerddoriaeth am newid; sut mae’n fy mhoeni, sut mae’n effeithio ar fy mywyd, a sut mae’n rhaid i mi ei dderbyn.
If nothing else, films such as Lawnmower Man 2: Beyond Cyberspace, Robocop, and Hot Tub Time Machine suggest that many of us have confused, naïve anxieties about the potential enhancements and trappings that come with new and unusual technologies. In I Fear The Joy Of Digital Transcendence I present a musical representation of three states of being that I sometimes feel when considering current technological advancements. Firstly, a vast, oceanic sense of loneliness, yearning, and isolation made infinitely worse by the professionalisation of social media. Secondly, a sense of unbound freedom and opportunity made infinitely more fantastic by the connectivity the same anxiety-inducing technologies provide. Finally, a desire to escape to a prayer-like state of being – a fantastical, introverted existence where I am less dominated and watched by technology. This is a piece of music about change; how it worries me, how it alters my life, and how I have to accept it.