LLEUWEN STEFFAN: BENDIGEIDFRAN
dewisywd gan / chosen by Angharad Jenkins
Mae’n anodd iawn dewis un gân Gymraeg sy’n meddwl rhywbeth i mi, achos mae cerddoriaeth Cymraeg yn chwarae rhan enfawr i drac sain fy mywyd. Ond os dwi’n meddwl am un artist sy’n fy ysbrydoli tro ar ôl tro, a sydd â’r ddawn i drafod pynciau mawr a chymleth bywyd mewn ffordd mor syml a chlir, yna Lleuwen fydde hynny. Mae ganddi’r ffordd i gyffwrth â’r galon a’r pen mewn ffordd uniongyrchol, diflewyn-ar-dafod, ac wrth gwrs mewn ffordd mor gerddorol. Mae ei halawon yn gofiadwy, ac mae ‘na rhywberth ysbrydol bron yn ei cherddoriaeth. Os dwi byth mewn cyfyng gyngor, mae gan Lleuwen rhywbeth i’w gynnig trwy ei cherddoriaeth pob tro. Hoffwn ddewis cân diweddar ganddi, o’r enw Ochr Arall y Byd, sy’n ymdrîn â’r sefyllfa erchyll yn Gaza. Dyw’r gân ddim wedi’i rhyddhau yn swyddogol eto, a dim ond trwy y cyfryngau cymdeithasol mae modd ei chlywed hi. Felly, ar gyfer Dydd Miwsig Cymru wnai dewis cân arall ganddi wnaeth ymateb i sefyllfa gwleidyddol truenus mewn ffordd tyner a phersonol. Ennilloedd ‘Bendigeidfran’ y gân newydd orau yn Nhwobrau Gwerin BBC Radio Cymru/trac. Mae hi’n gân pwysig bydd yn sefyll prawf amser, fel llawer iawn o’i chaneuon.
It is very difficult to choose just one Welsh song that means something to me, because Welsh music plays such a huge part in the soundtrack of my life. However, if I think of one artist who inspires me again and again, and who has the talent to discuss the big and complicated subjects of life in such a simple and clear way, then it would have to be Lleuwen. She has the ability to touch the heart and the head in such a direct and musical way. Her melodies are memorable, and there is almost a spiritual connection in her music.
If I'm ever in a dilemma, Lleuwen always has something to offer through her music. I would have liked to choose a recent song by her, called ‘Ochr Arall y Byd’, which deals with the horrible situation in Gaza but the song hasn’t been officially released yet, and it can only be heard through social media. Therefore, for Dydd Miwsig Cymru I’ve chosen another song from her that responded to a deplorable political situation in a tender and personal way. 'Bendigeidfran' which won best new song in the BBC Radio Cymru/Trac Folk Awards/track is an important song that will stand the test of time.