top of page

Ethan Davies 1990

Daw Ethan yn wreiddiol o Lanelli, ac mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 2008. Mae’n gweithio i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig trwy weithgareddau cyhoeddi, archifo a datblygu cyfansoddwyr Tŷ Cerdd, ac yn canu gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.Yn dilyn gradd meistr mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd, parhaodd i archwilio y tu hwnt i’r genre clasurol cyfoes y bu’n ysgrifennu ynddo, gan ymestyn i theatr gerdd a byrfyfyrio, yn ogystal â sgorau testun yn nhraddodiad Fluxus. Roedd y sgorau testun yn arbennig wedi ei helpu i fireinio ei chwarëusrwydd ac eglurder cysyniad a oedd wedi ymddangos mewn rhai gweithiau cynharach. Yn dilyn cyfnod o gyfansoddi anaml (neu yn hytrach, yn anaml yn gorffen ei gyfansoddiadau), dychwelodd yn ddiweddar at ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth, gan gyfuno’r elfennau theatrig, amhendant ac anarferol yr oedd wedi’u hystyried fel rhannau arwahanol o’i ymarfer yn flaenorol, mewn i rywbeth newydd y mae’n parhau i archwilio.

Ethan Davies headshot.jpg
ENG

Ethan is originally from Llanelli, and has lived in Cardiff since 2008. He works for the promotion of Welsh music through the publishing, archival, and composer development activities of Tŷ Cerdd – Music Centre Wales, and sings with BBC National Chorus of Wales. Following a master’s degree in Composition at Cardiff University, he continued to explore beyond the contemporary classical genre in which he’d been writing, extending to musical theatre and improvisation, as well text-scores in the Fluxus tradition. The text scores in particular helped him refine a playfulness and clarity of concept which had recurred in some earlier works. Following a period of infrequent composition (or rather, of finishing compositions), he recently returned to writing and performing music, combining the theatrical, indeterminate and irreverent elements that he’d previously considered as separate parts of his practice, into something new that he’s continuing to explore. 

▶ Composer database / Cronfa Cyfansoddwr


 

bottom of page