top of page
Ffocws Huw Watkins graphic square copy.jpg
Ffocws Huw Watkins graphic.jpg

Cerddorion blaenllaw Cymru mewn sgwrs gyda'r cyfansoddwr a'r pianydd Huw Watkins

FFOCWS: Huw Watkins

Paul Mealor 1_edited.jpg

Paul Mealor

cyfansoddwr, darlithydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2026 yn rhedeg o 10-19 Medi.

Mae'ch ysgrifennu symffonig yn cyfuno ymdeimlad cryf o strwythur gyda llais telynegol nodedig. Wrth edrych yn ôl dros eich gyrfa, sut ydy'ch dull o ysgrifennu ar gyfer cerddorfa wedi esblygu, a beth ydych chi'n teimlo y gall symffoni ei fynegi heddiw na all unrhyw ffurf gerddorol arall ei fynegi?

HW: Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael llawer o gyfleoedd i ysgrifennu ar gyfer cerddorfa. Rwy'n credu y byddai wedi bod yn amhosib i'm ffordd o fynd ati esblygu heb y profiad ymarferol hwnnw; ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Rwy'n teimlo y gall symffoni fynegi rhywbeth, i wrandäwr cydymdeimladol, sy'n eithaf anesboniadwy.

Chris W(1)_edited.jpg

Christopher Williams
pianydd

Mae albwm newydd Christopher Williams, Franz Liszt: Complete Piano Music, Vol. 70 - Marches, yn cael ei ryddhau fis nesaf ar Naxos.

Fel pianydd a chyfansoddwr, sut mae gwaddol Franz Liszt wedi eich ysbrydoli a'ch dylanwadu?

Mae Liszt yn gyfansoddwr yr wyf wedi chwarae ei gerddoriaeth llawer llai nag y byddwn wedi hoffi. Byddwn i'n dweud, fodd bynnag, fy mod i wedi cael fy ysbrydoli'n aruthrol gan ei gydwladwr, Bartók.

Sarah Lianne Lewis.jpg

Sarah Lianne Lewis

cyfansoddwr

Rydych chi wedi ysgrifennu nifer o goncertos; sut mae'r cydweithrediadau wedi amrywio gyda'r unawdwyr, a sut mae eich rhyngweithio â'r unawdydd yn ystod y cyfnod ysgrifennu yn llywio'r deunydd cerddorol rydych chi'n ei greu ar eu cyfer nhw a'r gerddorfa?

HW: Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i ysgrifennu concertos i rai cerddorion hollol syfrdanol. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi bod mor fedrus wedi golygu nad wyf wedi gorfod newid unrhyw beth yn aml, hyd yn oed yr hyn y gallwn fod wedi dyfalu y byddai'n ddarnau eithaf heriol. 

R Samuel PORTRAIT (1).jpg

Rhian Samuel

cyfansoddwr ac addysgwr

Bydd Of Swans, Snails and Geese (testunau gan May Sarton) gan Rhian Samuel yn cael ei berfformio gan Roderick Williams ac Iain Burnside yng Ngŵyl y Tri Chôr yng Nghadeirlan Caerloyw ar 26 Gorffennaf.

Gan ba ganwr rydych chi wedi gweithio gydag ef y dysgoch chi fwyaf? (A beth oedd o?)

HW: Amhosib dweud! Rydw i wedi dysgu rhywbeth gwahanol (ac unigryw) o bob canwr rydw i wedi gweithio gyda.

Guto Puw.jpg

Guto Pryderi Puw

cyfansoddwr, darlithydd, a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Bangor 

Yn dilyn llwyddiant Crime Fiction ac In the Locked Room, beth sydd yn eich tynnu tuag at opera fel genre a sut fath o ddatlygiadau posibl a geir yn y dyfodol? 

HW: Ei uniongyrchedd, a sut mae'n cynnig (neu y dylai gynnig) ffordd mewn ar gyfer cynulleidfa sy'n llai cyfarwydd â cherddoriaeth. Mae arna' i ofn bod dyfodol opera yn edrych yn eithaf llwm ar hyn o bryd.

DK profile photo.jpg

Deborah Keyser

Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd

Rydych chi wedi mwynhau cydweithrediadau hir a llwyddiannus gydag artistiaid amrywiol megis Tamsin Waley-Cohen, Ruby Hughes a Nicholas Daniel. Oes yna unrhyw gerddorion eraill, naill ai'n fyw neu'n hanesyddol, yr hoffech chi berfformio gyda nhw?

HW: Byddwn i wrth fy modd wedi chwarae cerddoriaeth dau biano gyda Britten. 

kiko shao_edited.jpg

Kiko Shao

cyfansoddwr a darlithydd

Gyda dylanwad cynyddol AI mewn cerddoriaeth, a oes unrhyw gyfeiriadau creadigol neu gydweithrediadau newydd yr ydych chi'n arbennig o awyddus i'w harchwilio dros y degawd nesaf?

HW: Rwy'n poeni'n fawr y bydd AI yn lleihau nifer y swyddi i gyfansoddwyr ac offerynwyr. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni ymladd i barhau i weithio dros y degawdau nesaf.

PERFFORMIADAU YN Y DU SYDD I DDOD

Dream

17 Awst: Welburn, The Festival Marquee

 

Pedwarawd Obo (Perfformiad Cyntaf y Byd)

18 Awst: Eglwys Santes Fair, Lastingham, Efrog 

 

Triawd Corn

28 Awst: Eglwys Sant Andreas, Llanandras

 

Pedwarawd Obo

18 Medi: Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerlŷr

 

Pedwarawd Corn (Perfformiad Cyntaf y Byd)

19 Medi: Pilsdon Barn, West Malling 

 

Pedwarawd Obo

3 Rhagfyr: Neuadd Wigmore, Llundain

 

Triawd Piano Rhif 2

27 Rhagfyr: Neuadd Wigmore, Llundain

▶ Tudalen Huw Watkins ar schott-music.com

bottom of page