Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
MEDAL Y CYFANSODDWR
‘Cymru Fydd’
Galwad agored i gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth
Dyddiad cau am geisiadau: 10:00 ar ddydd Mawrth 7 Ionawr
Thema Medal y Cyfansoddwr eleni yw Cymru Fydd
I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, rydym am i artistiaid gyflwyno syniadau ar sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: Wythnos yng Nghymru Fydd (mae mwy amdano’r nofel ar waelod yr alwad hon).
Mae Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd yn llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr o Sinfonia Cymru. Bydd y tri chyfansoddwr dethol yn gweithio gyda thri chwaraewr llinynnol hynod amryddawn: Simmy Singh (ffidl), David Shaw (ffidl/fiola) a Garwyn Linnell (sielo). Mae Simmy, David a Garwyn yn chwarae llinynnau yn wahanol: maent yn gyfforddus yn ymestyn i’r ystod ehangaf o genres, gan ddefnyddio loop pedal , blwch shruti, offerynnau taro dwylo a'u lleisiau yn y cyfansoddiad. Cymerwch olwg ar ychydig o'u gwaith yma, yma ac yma.
Bydd y tri chyfansoddwr detholedig yn gweithio gyda Simmy, Dave a Garwyn mewn gweithdai dros gyfnod o chwe mis, yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ble fydd perfformiad byw o’u gweithiau ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod yn y Pafiliwn ar ddydd Sadwrn 9 Awst 2025. Bydd un o'r tri chyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr o £750.
Bydd tri chyfansoddwr dethol yn derbyn ffi o £500 yr un am gymryd rhan yn y gweithdai wyneb-i-wyneb a chysylltiadau ar-lein. Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru, o unrhyw genre, a chyfraennir costau teithio (o fewn Cymru) i’r gweithdai (Caerdydd) a’r perfformiad (Maes yr Eisteddfod, Wrecsam).
Mae’r llwybr yn cael ei rhedeg gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sinfonia Cymru, a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, yn gweithio gyda mentor-cyfansoddwr, Pwyll ap Siôn dros chwe mis.
Bydd yr artistiaid yn derbyn y cyfle i’w gwaith gorffenedig gael ei gyhoeddi gan Tŷ Cerdd.
Rhaid i bob ymgeisydd fod ar gael ar gyfer y gweithdai/perfformiadau canlynol:
-
Dydd Iau 28 Ionawr – gweithdy cychwynnol (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
-
Dydd Llun 28 Ebrill – gweithdy #2 (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
-
Dydd Llun 30 Mehefin – gweithdy #3 (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
-
Dydd Sadwrn 9 Awst - gweithdy/ymarfer/perfformiad (yn yr Eisteddfod, Wrecsam)
CYFRANOGWYR
-
Genre Er bod y cyfle hwn ar gyfer y rhai sy'n creu cerddoriaeth gan ddefnyddio hen nodiant, rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw arddull gerddorol.
-
Cyfansoddwyr Cymraeg Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth ar draws Cymru. Os ydych yn gerddorol ac yn ateb gofynion y rheolau isod, rydych yn gymwys i gystadlu. Mae cystadlaethau ac ysgoloriaethau’r Eisteddfod yn agored i unrhyw un:
-
a anwyd yng Nghymru, neu
-
y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu
-
sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg,
-
neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst 2025.
-
-
Mynediad a chynhwysiant
Yn unol â’n hymrwymiadau i’n Conglfeini, rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu sydd wedi wynebu esgeulustod neu waharddiad o gymuned y celfyddydau. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, artistiaid sy’n Ddu, Asiaidd ac o’r mwyafrif byd-eang, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Os hoffech chi ymholi neu drefnu cymorth mynediad i wneud cais am y cyfle hwn, cysylltwch â Freya Dooley. Rydym yn gwahodd y crewyr cerddoriaeth rydym yn gweithio gyda nhw i rannu a thrafod anghenion myniediad (‘access riders’) ar unrhyw gam yn y prosiect.
FFORMATAU YMGEISIO
Cyflwynir ceisiadau ysgrifenedig trwy Airtable
Croesewir ceisiadau sain a fideo hefyd. Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, Freya Dooley neu ymholiadau@tycerdd.org am gefnogaeth.
-
Yr Iaith Gymraeg: Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, gwahoddir chi i gyfranogi ble bynnag ydych chi ar y daith i ddysgu Cymraeg. Bydd cyfranogwyr yn dangos ymrwymiad i'r iaith a gwerthfawrogiad o'i phwysigrwydd i'r prosiect.
Diddordeb ac yn awyddus i holi a darganfod mwy?
…gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu Zoom. E-bostwich Freya Dooley neu ymholiadau@tycerdd.org i drefnu cyfarfod. Rydym eisiau cynnig arweiniad a bod yno i’ch cefnogi – felly, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.
I YMGEISIO...
Cyflwynwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH. Croesewir ymgeisiadau yn Gymraeg a Saesneg.
-
Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18
-
Dywedwch wrthym am eich gwaith: Dywedwch wrthym am eich profiadau fel crëwr cerddoriaeth / cyfansoddwr a'r hyn yr ydych fwyaf balch ohono. (Uchafswm 200 gair)
-
Pam hoffech chi fod yn rhan o'r cynllun hwn? Sut ydych chi'n meddwl y byddai’r cynllun o fudd i chi? Dywedwch wrthym sut mae'n adeiladu ar eich profiad blaenorol a beth rydych chi'n gobeithio ei ddatblygu trwy gyfranogi? (Uchafswm 250 gair)
-
Pam fod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i chi fel crëwr cerddoriaeth / cyfansoddwr? Sut, efallai, byddwch yn ymateb i’r thema Cymru Fydd mewn darn newydd? Siaradwch amdano’ch perthynas i Gymru a’i iaith.
O safbwynt thematig, y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd yw man cychwyn y llwybr hwn – bydd cyfle i ymchwilio a datblygu agweddau mwyaf dychmygus at y thema hon. Efallai fod thema’r nofel yn ysbrydoli gobaith, efallai ofn? Mae mwy o wybodaeth am y nofel fel troednodyn i’r galwad hon. Os nad ydych wedi darllen y nofel eto, ewch amdani! -
A oes gennych unrhyw anghenion? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gymorth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i'ch galluogi i gymryd rhan yn y cynllun? DS: rydym yn eich gwahodd i rannu eich gofynion mynediad gyda ni ar unrhyw adeg yn y prosiect.
-
Enghreifftiau o'ch gwaith: atodwch 2 ddolen neu atodiad i'ch cerddoriaeth a'r 2 sgôr cyfatebol
(DS: ar gyfer y sain anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)
Croesewir ceisiadau fideo a sain hefyd. Cofnodwch eich atebion i gwestiynau 2-5 uchod (hyd at 5 munud), ac uwchlwytho dolen i'ch recordiad, gan ychwanegu'r wybodaeth y gofynnwyd amdanynt yng nghwestiynau 1 a 6 at y ffurflen uwch lwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, e-bostiwch am gymorth.
AMSERLEN A PHROSES
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 dydd Mawrth 7 Ionawr
-
Bydd y panel (Pwyll ap Siôn; Elen Ellis o’r Eisteddfod Genedlaethol; Deborah Keyser, Tŷ Cerdd) yn cyfarfod yn fuan wedi’r dyddiad cau
-
Byddwn yn cysylltu gyda’r canlyniad erbyn dydd Gwener 10 Ionawr
Pwyll Ap Siôn: Cyfansoddwr o Gymru. Hyd 2024 roedd yn ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Sinfonia Cymru: Cerddorfa hyblyg sydd a’u gwerthoedd i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd unigolion dawnus dan 30 oed sydd yn gweithio fel cerddorion proffesiynol.
Pwrpas Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru yw hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth cyfansoddwyr o darddiad Cymreig a chyfansoddwyr o unrhyw genedligrwydd sy’n preswylio yng Nghymru.
Nofel ffuglen-wyddonol yw ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd yn 1957
Wedi’i selio yng Nghymru yr 1950au, mae’r arwr, Ifan Powell yn cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol sy'n teithio drwy amser ac y mae'n glanio yng Nghaerdydd yn 2033. Mae'n aros yno am 5 niwrnod ac y mae'n aros gyda theulu sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno mae'n canfod fod Cymru wedi ennill annibyniaeth, yn hunan lywodraethu ac yn llewyrchus yn economaidd. Mae'r Gymraeg yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog ac yn heddychlon yn gymdeithasol. Mae'n syrthio mewn cariad gyda merch y teulu lle mae'n aros, ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru y 50au, mae ei hiraeth amdani yn peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd ei gynghori i beidio, y mae'n ildio a chytuno i gynorthwyo Ifan wedi iddo erfyn arno.
Fodd bynnag, pan mae'n dychwelyd, mae'n cael ei hun mewn Cymru cwbl wahanol, er mai'r un yw'r lleoliad a'r dyddiad ag o'r blaen (h.y. Caerdydd yn 2033). Mae'r Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu, yn wir mae enw'r wlad wedi ei newid i "Western England" hyd yn oed. Mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddau ddiwrnod mae Ifan yn aros yno i chwilio am Mair, ond pan ddaw o hyd iddi, mae’n darganfod mai Maria yw ei henw, ac nid oes ganddi unrhyw gof amdano.
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld â hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un gaiff ei gwireddu. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi gyntaf fydd yn dod yn wir.