top of page

Nodiadau Rhaglen

Peter Reynolds

Cyfaill annwyl i DÅ· Cerdd oedd y cyfansoddwr ac awdur Peter Reynolds a ddaliai swydd yr Is-gadeirydd pan fu farw’n ddisymwth yn 2016. 
 

Fe’n cyffyrddwyd yn fawr wrth gael gwybod ei fod wedi gadael yr incwm o’i ysgrifau a pherfformiadau’n gymynrodd i ni – sy’n cynnwys, yn ddigon arwyddocaol, ei nodiadau rhaglen. Yn ddi-os, Peter oedd awdur nodiadau rhaglen prysuraf Cymru ac fe’u defnyddid yn rheolaidd gan lawer o grwpiau perfformio, gwyliau a chanolfannau. Mae ei lyfrgell nodiadau a bywgraffiadau cyfansoddwyr yn helaeth – o repertoire symffonig i weithiau siambr, o Handel i Hoddinott, ac rydym yn falch iawn o fedru sicrhau eu bod ar gael i’n haelodau a’r sector celfyddydau ehangach.

​

Bwriad cymynrodd Peter oedd bod yr incwm o’r nodiadau hyn ac o berfformiadau o’i waith yn cael ei fuddsoddi yn ein nodau elusennol, felly rydym yn falch o gael rhoi’r incwm yn syth yn ôl i hybu cerddoriaeth o Gymru. Bydd aelodau TÅ· Cerdd yn derbyn cyfradd ffafriol o £10 i ailargraffu nodyn tra mai’r ffi ailargraffu i rywun nad yw’n aelod fydd £30.

​

E-bostiwch ni ar ymholiadau@tycerdd.org i ofyn am nodiadau.

bottom of page