Adolygiad yn tynnu sylw at gyfleoedd i gryfhau ein cerddoriaeth draddodiadol
- Tŷ Cerdd
- 1 day ago
- 3 min read

Comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru adolygiad strategol eang sy’n taflu goleuni newydd ar gyflwr sector ein cerddoriaeth draddodiadol a chynnig cynllun i gefnogi ei dwf a'i gynaliadwyedd.
Cafodd yr adolygiad ei reoli gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth â Trac Cymru a’i arwain gan y comisiynydd, Angharad Wynne. Dyma’r ymgynghoriad mwyaf o'i fath ac roedd dros 280 unigolyn ledled y wlad wedi cyfrannu ato.
Mae'n dweud bod y sector yn gyforiog o greadigrwydd ac ysbryd cymunedol a’i fod yn berthnasol iawn yn ddiwylliannol. Ond byddai’r sector yn elwa o gael buddsoddiad newydd a chefnogaeth fwy cyson. Roedd yr ymatebwyr yn lleisio eu hangerdd dros gerddoriaeth draddodiadol a’i disgrifio’n rym byw sy'n ysbrydoli, addysgu a dod â phobl at ei gilydd, mewn byd sy’n ysu am rhagor o gydlyniant cymunedol a lles meddwl.
Ymhlith ei ganfyddiadau mae:
pryder am y ddarpariaeth ar lawr gwlad, yn enwedig i bobl ifanc a grwpiau o wahanol genedlaethau
galwad gref am ragor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau anffurfiol, lleol
lle i gerddoriaeth draddodiadol yn y system addysg ffurfiol gan gynnwys ysgolion ac addysg uwch
angen llwybrau datblygu cliriach i gerddorion a mentrau targedol i dyfu’r gynulleidfa
cefnogaeth i gerddoriaeth draddodiadol gan ein holl gymunedau diwylliannol i sicrhau sector cynhwysol a chynrychioladol
Mae argymhellion eraill hefyd:
cefnogi gweithgarwch rhanbarthol ar lawr gwlad
meithrin partneriaethau newydd gyda chyrff addysg
darparu cefnogaeth dargedol i ddatblygu cerddorion
gwella cyfathrebu a chydlyniant y sector
Mae'n cyfeirio at fodelau llwyddiannus yn yr Alban, Iwerddon a Gwlad Belg ac at ein potensial i ymaddasu a dysgu oddi wrth wledydd eraill.
Mae'r adolygiad yn un o nifer o ymrwymiadau ein Hadolygiad Buddsoddi yn 2023.
Mae gan Angharad Wynne dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector gan gynnwys gwaith gyda Womex, Cysylltiadau Celtaidd a Recordiau Universal. Mae ganddi ddealltwriaeth o’n traddodiadau cerddorol a'u cyd-destun rhyngwladol.
Dywedodd Angharad Wynne:
"Rwy'n ddiolchgar i bawb am leisio eu barn, cynnig eu syniadau a mynegi eu hangerdd dros gerddoriaeth draddodiadol.
Nid yw’r hen ffyrdd o drosglwyddo sgiliau ac alawon traddodiadol yn gweithio erbyn hyn ac mae eisiau cefnogaeth ac ymyrraeth ar frys. Roedd llawer o’n trafodaethau’n sôn am fywiogi pethau ar lawr gwlad. Ond roeddem hefyd yn edrych ar ecosystem y sector lle mae pob rhan yn effeithio ar un arall. Mae’n cynnwys cerddorion sy’n rhannu eu doniau’n rhyngwladol, hyfforddiant i gerddorion, rhai sy'n dysgu chwarae offeryn a rhai sy’n darganfod y fath gerddoriaeth am y tro cyntaf.
Roedd ymateb y Cyngor i’r adolygiad yn galonogol. Mae'r trafod yn parhau am y ffordd orau o gefnogi'r sector i ffynnu a thyfu."
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi croesawu'r adolygiad ac eisoes wedi penderfynu ar gamau gweithredu gan ymateb i 15 casgliad yn yr adroddiad gan gynnwys:
cynyddu arian sydd wedi'i neilltuo am weithgarwch ar lawr gwlad dan arweiniad cerddorion i gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan yn y maes yn rhanbarthol a lleol
dod â sefydliadau, prosiectau, cerddorion a rhanddeiliaid at ei gilydd yn rheolaidd i greu fforwm i bawb rannu gwersi a sut i ddatblygu ac arwain y sector ac ariannu swydd i’w gefnogi
cynyddu’r cymorth i gefnogi cerddoriaeth amrywiol drwy gynyddu arian i’r cynlluniau presennol
sefydlu cronfa gymunedol sy’n targedu grwpiau llai i gefnogi gweithgarwch lleol
datblygu cysylltiadau strategol agosach â'n sector addysg
ystyried buddsoddi mewn modelau sy’n galluogi cerddorion ifanc i brofi’r maes yng nghwmni eu cyfoedion drwy’r gwasanaethau cerddorol
cysylltu’r argymhellion â rhai dawns werin pan fydd adolygiad y ddawns yn ymddangos
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae angerdd mawr dros ein cerddoriaeth draddodiadol. Roedd yr ymgynghoriad yn dangos yr angen mawr am ragor o gydlyniant a chefnogaeth ac am broffil uwch i’r maes.
Rydym yn ymateb drwy neilltuo £300,000 i’r maes eleni sy’n gynnydd o 270% ar yr arian penodol i'r maes cyn yr Adolygiad Buddsoddi. Bydd y mwyafrif o’r arian yn mynd i gyflawni gweithgarwch.
“Mae’n digwydd ochr yn ochr â’r grantiau agored fel rhai Creu sy'n parhau i ariannu gweithgarwch gwerin gyda newidiadau sydd â’r nod o gefnogi sefydliadau llai’n well."
Comentários