Caneuon traddodiadol Gogledd yr Iwerydd – NASC 2026
- 4 hours ago
- 5 min read

Mae'r Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Traddodiadol Jordan Price Williams yn adrodd ar ei daith ddiweddar i Gonfensiwn Cân Gogledd yr Iwerydd yng Nghaeredin.
Yng nghanol anhrefn a dathlu gêm Ffrainc yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, roedd rhywbeth eithaf arbennig yn digwydd ar y Royal Mile yng Nghaeredin.
Cefais i, Jordan Price Williams, ynghyd â’r cerddor a chantores Angharad Jenkins, gymorth i fynychu’r pumed rhifyn wyneb yn wyneb o NASC – North Atlantic Song Convention, gan gynrychioli traddodiad canu Cymru.
Mae NASC yn gynulliad blynyddol o gantorion o draddodiadau ar draws Gogledd yr Iwerydd. Yr unig un o’i fath, fe’i sefydlwyd yn 2020 drwy ymdrech ar y cyd Emma Björling a Brian Ó hEadhra, gyda’r nod o gysylltu cantorion traddodiadol, yn wreiddiol fel gofod ar-lein i’w cysylltu yn ystod y pandemig. Ers hynny, mae’r gynhadledd wedi tyfu o ran maint ac uchelgais, ac erbyn hyn mae’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn y Scottish Storytelling Centre yng Nghaeredin.
Mae’r gynhadledd yn dod â chantorion o bob cefndir a phrofiad ynghyd, ochr yn ochr ag academyddion, trefnwyr a sefydliadau diwylliannol. Dros benwythnos maent yn trafod traddodiadau, yn rhannu caneuon, yn cyfnewid syniadau ac, yn fwy na dim, yn dathlu llawenydd canu cymunedol.
Eleni daeth NASC ag artistiaid gwadd o Sweden, Iwerddon, Lloegr, yr Unol Daleithiau, Norwy a’r Alban ynghyd, ochr yn ochr â gwesteion gwadd o bob rhan o Ewrop a’r byd ehangach yng Ngogledd yr Iwerydd, gan gynnwys Angharad a minnau yn cynrychioli Cymru. Ymunwyd â’r cyfranogwyr gwadd hyn gan lu o gantorion cymunedol, pobl sydd, yn syml, yn rhannu cariad at ganu traddodiadol a’r weithred gymunedol o ganu gyda’i gilydd.
Roedd y Scottish Storytelling Centre, cartref TRACS (Traditional Arts and Culture Scotland), yn gartref i ni unwaith eto eleni. Mae’r adeilad ei hun yn cynnig noddfa llawn golau a chroesawgar rhag prysurdeb y Royal Mile, ac fe helpodd feithrin yr awyrgylch arbennig sy’n gwneud NASC mor unigryw: awyrgylch o haelioni, agoredrwydd ac anogaeth i bob canwr yn yr ystafell.
Mae’r rhaglen wedi’i hadeiladu o amgylch cyfres o baneli a gweithdai dan arweiniad gwesteion gwadd. Roedd y rhain yn amrywio’n eang o ran pwnc – o draddodiadau cerdd wefus (caneuon ar gyfer dawnsio) Norwy i banel ag oedd yn archwilio cyfraniad cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i draddodiad canu Lloegr. Rhwng y sesiynau hyn ceir y cylchoedd canu, sy’n wirioneddol yn galon NASC.
Yn y cylchoedd hyn, mae tua chwe deg o bobl yn ymgynnull mewn cylch mawr, gyda phob person yn cynnig cân o’i draddodiad ei hun. Mae’r eiliadau hyn yn teimlo fel enaid y gynhadledd, y rheswm mae’n bodoli. Lleisiau o bob rhan o Ogledd yr Iwerydd yn cyfarfod mewn un gofod, gan ddatgelu ar yr un pryd amrywiaeth ryfeddol a’r edafedd cyffredin dwfn sy’n rhedeg drwy’r traddodiadau canu hyn.
Uchafbwynt y penwythnos i mi, fodd bynnag, oedd prif araith Angeline Morrison: ‘The Sonorous Breath, Mythopoeic Singing and Enchantment for Decoloniality’. Yn yr araith hon canolbwyntiodd Angeline ar brofiad ei hun fel cantores werin Ddu o Loegr, ar ddileu pobl Ddu o naratif canu traddodiadol Lloegr, ac ar y syniad o ‘mythopoeic singing’ – y broses o ailboblogi’r gorffennol dychmygol rydym yn ei rhannu, gyda’r bobl gwyddom eu bod yn rhan ohono, ond sydd wedi’u hanwybyddu neu eu dileu’n fwriadol. Drwy’r syniad hwn gallwn adfer i gymeriad y ‘nut brown girl’ ei hunaniaeth hil, yn hytrach na chyfyngu ei hunaniaeth i ferch wen â gwallt brown yn unig.
Fel aelod o’r gymuned LGBTQ+, teimlais fod y syniad hwn yn arbennig o bwerus. Mae’n cynnig ffordd i bobl o sawl cymuned ymylol adennill ymdeimlad o berthyn etifeddol o fewn diwylliant traddodiadol; i gydnabod fod y traddodiadau hyn yn perthyn i lawer mwy o bobl na’r naratifau cul a gyflwynwyd i ni’n aml.
Efallai taw’r agwedd fwyaf grymus NASC yw’r cyfle mae’n ei greu i feithrin cysylltiadau ystyrlon rhwng cludwyr gwahanol draddodiadau canu. Mae’r penwythnos cyfan wedi’i seilio ar sgyrsiau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ble mae cantorion yn rhannu eu rhwystredigaethau, eu heriau a’u gobeithion, tra hefyd yn dathlu amrywiaeth gyfoethog canu traddodiadol.
I rywun sydd â diddordeb cryf yn natblygiad cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, roedd NASC yn gyfle gwerthfawr i ddysgu o’r gwaith sy’n digwydd mewn gwledydd eraill. Yn arbennig, roedd yn drawiadol clywed am y digideiddio helaeth o archifau cerddoriaeth draddodiadol yn Iwerddon a’r gwledydd Nordig. Mae cantorion o bob oed yno yn ymwybodol iawn o’r adnoddau sydd ar gael iddynt ar-lein, a sut gall yr archifau hyn gefnogi astudio ac adfywio cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol. O’i gymharu â hynny, mae’n amlwg fod gwaith i’w wneud yng Nghymru yn y maes hwn.
Mae mannau fel NASC hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i Gymru fod yn bresennol ac yn weladwy’n rhyngwladol. Nid oedd llawer o’r cyfranogwyr erioed wedi clywed yr iaith Gymraeg o’r blaen, nac wedi dod ar draws ein traddodiadau canu. Er bod y digwyddiad wedi’i leoli yn yr Alban, mae ei ffocws yn gadarn ar Ogledd yr Iwerydd, ac mae llawer o draddodiadau Ewropeaidd yn cael eu cynrychioli’n gryf. Serch hynny, mae lle o hyd i gyfranogiad ehangach fyth o bob rhan o fyd Gogledd yr Iwerydd, yn enwedig gan bobloedd Brodorol a Chenhedloaedd Cyntaf Gogledd America.
O fewn y cyd-destun Ewropeaidd, mae traddodiad canu Cymreig yn amlwg yn eistedd o fewn rhwydwaith o gysylltiadau cyffredin. Roedd yn bleser cyson darganfod adleisiau o’n harferion ein hunain yn nhraddodiadau gwledydd eraill, yn enwedig y tu hwnt i gyd-destunau cyfarwydd DU ac Iwerddon.
Daeth un enghraifft yn nhraddodiadau tralling neu trallning – math o ganeuon dawnsio – a geir yn Norwy a Sweden. Roedd clywed y traddodiadau byw hyn yn rhoi cipolwg ar rywbeth a oedd unwaith yn gyffredin yng Nghymru ond sydd bellach bron wedi diflannu: cerdd wefus – caneuon a genid i gyfeilio dawnsio pan nad oedd offerynnau ar gael. Heddiw mae’n goroesi ond mewn ychydig o recordiadau hanesyddol ac enghreifftiau mewn casgliadau caneuon.
Darparodd y cyfnewidiadau rhwng cantorion a thraddodiadau dros y penwythnos lawer iawn o ysbrydoliaeth i Angharad a minnau. Dychwelom adref gyda’n pennau’n llawn caneuon a’n calonnau wedi eu codi gan y cynulliad rhyfeddol hwn.
Datblygodd llawer o draddodiadau canu gwerin mewn rhyw fath o ynysigrwydd daearyddol, wedi’u siapio gan gymunedau nad oedd ganddynt lawer o gyswllt â’r byd ehangach. Heddiw, fodd bynnag, rydym yn byw mewn cyfnod o gysylltedd digynsail, lle mae cerddoriaeth y byd yn llythrennol yn ein pocedi.
Felly pam mae’n dal i fod yn bwysig ymgysylltu â’n treftadaeth ddiwylliannol unigryw ein hunain?
I mi, mae’r ateb yn gorwedd yn union yn y cysylltedd cynyddol hwnnw. Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o’r diwylliannau a’r ieithoedd sy’n bodoli ar draws y byd, mae llawer o bobl yn teimlo awydd dyfnach i ddeall beth sydd o dan eu traed eu hunain. Gall hyn fod drwy ryseitiau a drosglwyddwyd drwy genedlaethau, drwy’r caneuon a ganodd ein mam-guod a thad-cuod, neu drwy unrhyw draddodiad sy’n ein cysylltu â lle a chymuned benodol.
Mae mwy a mwy o bobl yn chwilio am ffyrdd i ailgysylltu â’r hyn a ddaeth o’u blaenau.
Mae ein celfyddydau traddodiadol, pan maen nhw’n eu rhannu mewn ffordd gynhwysol a chroesawgar, yn cynnig modd pwerus iawn o wneud hynny. Maent yn ein galluogi nid yn unig i gysylltu â’n gorffennol, ond hefyd i ddod o hyd i ystyr newydd yn y traddodiadau hyn heddiw – gan eu gwarchod am ennyd cyn eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Mae digwyddiadau fel North Atlantic Song Convention yn creu gofod ar gyfer union y math hwn o gyfnewid. Maent yn ein galluogi i gyfarfod â’n treftadaeth ein hunain mewn deialog ag eraill, i ddathlu’r gwahaniaethau yn ogystal â’r edafedd cyffredin yn y ffordd y mae cymunedau wedi defnyddio caneuon a dawns i ysgafnhau eu bywydau ac i fynegi eu galar.
Mewn byd sy’n aml yn teimlo’n gynyddol fregus a thoredig, mae’r ysgogiad dynol cyffredin hwnnw, i ganu gyda’n gilydd ac i adrodd ein straeon, yn teimlo’n fwy angenrheidiol nag erioed.







Comments