CoDI yn cyhoeddi rhestr artistiaid 2026/27

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi enwau'r rhai a ddewiswyd ar gyfer rhaglen greadigol Menter Datblygu Cyfansoddwyr (CoDI) eleni.
Maent wedi dod o ystod amrywiol o genres fel cerddoriaeth electronig, byrfyfyr, draddodiadol, jazz a cherddoriaeth glasurol gyfoes ac maent yn cynnwys cyfansoddwyr caneuon, dylunwyr sain ac artistiaid rhyngddisgyblaethol.
Bydd pob un o'r cerddorion a ddewisir yn cymryd rhan mewn un o bedwar llwybr:
Bydd Trefnu yn dod â thri cherddor sy'n gweithio'n bennaf mewn cerddoriaeth draddodiadol a thri sy'n gweithio'n bennaf mewn jazz ynghyd, gan greu lle unigryw lle gall cyfranogwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, cyfnewid syniadau ac archwilio gwahanol ddulliau o drefnu ar draws genres.
Mae Curiad yn cynnig cyfle i bum creawdwr cerddoriaeth o Gymru archwilio a datblygu dulliau creadigol o gyfansoddi ar gyfer llais a tharo (cyfuniad o offerynnau wedi'u tiwnio a heb eu tiwnio), trwy gyfres o weithdai.
Mae Adlais yn breswylfa ddwys tri diwrnod o weithdai, sesiynau gwrando a rhannu ymarfer ar gyfer artistiaid sydd eisiau ehangu eu gwaith ac arbrofi gyda llais ac electroneg.
Mae Llifo yn cynnig cyfle i 5 o grewyr cerddoriaeth o Gymru archwilio a datblygu dulliau newydd o ysgrifennu ar gyfer llais a phedwarawd llinynnol.





Comments