top of page

Copenhagen hosts Global Network studio sessions

54 minutes ago
2 min read

scroll down for English


Daeth Rhwydwaith Byd-eang Menywod a Chynhyrchwyr Cerddoriaeth An-Ddeuaidd ynghyd yng Nghopenhagen y mis diwethaf, ac ymunon ni ag artist-gynhyrchydd Cymru, Eady Crawford, yn ystod yr wythnos.


Mae Eady yn un o saith cynhyrchydd o Gymru ar y rhaglen, a gefnogir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ei phumed uwchgynhadledd ryngwladol flynyddol yw'r Rhwydwaith Byd-eang, prosiect dan arweiniad NAC Canada, gyda'r garfan Gymreig yn cael ei chynrychioli mewn partneriaeth â Thŷ Cerdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.


Dros sawl diwrnod o sesiynau stiwdio dwys yn @millfactory_nuvenue, bu cynhyrchwyr benywaidd talentog o bob cwr o'r byd yn gweithio ochr yn ochr ag artistiaid lleol o Gopenhagen i ysgrifennu, recordio a chydweithio ar draciau newydd bob dydd. Gan weithio ar draws ieithoedd a genres, roedd yn wirioneddol ysbrydoledig profi'r cydweithio egnïol a'r cyfnewid cerddorol rhwng y grŵp gwych hwn o artistiaid.


Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth am y prosiect, a phrofiad Eady o'r wythnos...




The Global Network for Women and Non-Binary Music Producers gathered in Copenhagen last month, and we joined Cymru's own artist-producer Eady Crawford during the week.


Eady is one of seven Welsh producers on the programme, supported by Wales Arts International. It's fifth annual international summit, The Global Network is a project led by NAC Canada, with the Welsh cohort represented in partnership with Tŷ Cerdd and the National Eisteddfod.


Over several days of intensive studio sessions at @millfactory_nuvenue, talented female producers from all over the world worked together alongside local Copenhagen artists to write, record and collaborate on new tracks each day. Working across languages and genres, it was truly inspiring to experience the energy collaboration and musical exchange of this brilliant group of artists.


Stay tuned for more about the project, and Eady's experience of the week...


Comments


bottom of page