Cyfle newydd i gymunedau cerddoriaeth draddodiadol
- Tŷ Cerdd

- 10 hours ago
- 2 min read

Mae Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodol Jordan Price Williams yn ysgrifennu am gyflwr presennol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru a'r gefnogaeth a fydd yn cael ei darparu gan fenter ariannu newydd Tŷ Cerdd.
Rydym yn falch iawn o rannu lansiad Cronfa Tradd Fund, cronfa grant newydd gan Tŷ Cerdd sydd wedi’i chreu i gefnogi a dathlu cerddoriaeth draddodiadol ar draws Cymru.
Mae cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru wedi dangos gwydnwch rhyfeddol. Dros genedlaethau, mae traddodiadau wedi cael eu cario’n ofalus drwy gyfnodau o newid, her a diffyg buddsoddiad, wedi’u cynnal gan unigolion ymroddedig, grwpiau llawr gwlad, a bondiau cymunedol cryf. Boed wedi’i gwreiddio mewn traddodiadau Cymreig neu yn y nifer o etifeddiaethau cerddorol eraill sydd bellach yn rhan o fywyd diwylliannol Cymru, mae cerddoriaeth draddodiadol yn parhau i addasu, ymateb a ffynnu drwy ymdrech ar y cyd.
Fodd bynnag, ni ddylid cymryd y gwydnwch hwnnw’n ganiataol. Mae cymuned cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn gryf, yn fedrus ac yn ddyfeisgar, ond mae hefyd dan bwysau. Mae llawer o’r gweithgarwch yn dibynnu ar waith gwirfoddol, ymrwymiad personol ac adnoddau cyfyngedig. Mae Cronfa Tradd yn bodoli i gydnabod cryfder y sector, ond hefyd y realiti bod angen cefnogaeth weithredol er mwyn cynnal y gwydnwch hwnnw.
Cafodd y gronfa ei llunio mewn ymateb i Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol, a amlygodd ddyfnder a gwerth diwylliannol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, yn ogystal â’r angen am well mynediad a llwybrau cyllido priodol. Pwysleisiodd yr adolygiad bwysigrwydd cefnogi gweithgarwch llawr gwlad, ymarfer dan arweiniad y gymuned, dysgu rhwng cenedlaethau, a datblygiad sy’n cael ei yrru gan artistiaid; mae Cronfa Tradd yn ymateb uniongyrchol i’r canfyddiadau hynny.
Mae Cronfa Tradd wedi’i chynllunio i fod yn annogol, hyblyg ac wedi’i seilio ar ymddiriedaeth, gan gefnogi prosiectau sy’n datblygu, cynnal ac ail-ddychmygu cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Gall hyn gynnwys datblygiad creadigol, dysgu a throsglwyddo, ymchwil, adnoddau, neu weithgarwch cymunedol sydd wedi’i wreiddio mewn traddodiad. Rydym yn croesawu prosiectau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth lawn o arferion cerddoriaeth draddodiadol a geir yng Nghymru heddiw, gan gydnabod bod traddodiad yn byw drwy bobl, lle a chyfranogiad.
Mae’r gronfa yn agored i grwpiau cyfansoddedig, ac rydym yn annog ceisiadau’n gynnes gan sefydliadau, ensemblau a chollecdiadau, boed yn hen sefydledig neu newydd eu ffurfio. Os yw eich gwaith wedi’i wreiddio yn y gymuned, yn cefnogi cyfranogiad a rhannu sgiliau, ac yn cyfrannu at iechyd tymor hir arferion cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, mae’n debygol y bydd Cronfa Tradd yn berthnasol i chi.
Yn ei hanfod, mae Cronfa Tradd yn ymwneud â chefnogi cymuned sydd eisoes wedi dangos ei chryfder. Mae’n fuddsoddiad mewn pobl, gwybodaeth a pharhad diwylliannol, gan gydnabod, er bod cymunedau cerddoriaeth draddodiadol yn wydn, na ddylent orfod goroesi ar sail ewyllys da yn unig.
Mae canllawiau llawn a manylion ymgeisio ar gael drwy Tŷ Cerdd, gan gynnwys gwybodaeth glir am flaenoriaethau, cymhwyster a therfynau amser. Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i ystyried sut mae eu gwaith yn cysylltu â themâu ehangach yr Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol, yn enwedig o ran hyfywedd, hygyrchedd a chefnogaeth hirdymor.
Edrychwn ymlaen at weld y syniadau, y gofal a’r creadigrwydd y bydd Cronfa Tradd yn helpu i’w gwireddu, ac at gefnogi bywiogrwydd parhaus cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru.








Comments