Dathlu pen-blwydd y cyfansoddwr o fri Gareth Glyn yn 75 oed drwy ryddhau albwm newydd ar Recordiau Tŷ Cerdd
- Tŷ Cerdd

- 6 days ago
- 4 min read

Mae Yr Oriau Oll a Welsom a gweithiau eraill yn dwyn ynghyd weithiau lleisiol ac offerynnol a gyfansoddwyd yn ystod holl yrfa’r cyfansoddwr.
Mae’r albwm yn cynnwys pum gwaith o bwys gan Gareth Glyn, dau ohonynt wedi’u gosod i waith y bardd a’r nofelydd enwog T Glynne Davies, sef tad Gareth Glyn ei hun – ac yn digwydd bod mae 2026 hefyd yn nodi canmlwyddiant ei enedigaeth yntau.
Gwaith canolog yr albwm yw’r cylch caneuon Yr Oriau Oll a Welsom, wedi’i osod i farddoniaeth T Glynne Davies. Caiff ei berfformio gan y bariton o fri Steffan Lloyd Owen ochr yn ochr â’r bianyddes ddisglair Annette Bryn Parri, ychydig cyn ei marwolaeth yn 2025.
Yr ail drefniant i waith T Glynne Davies yw Cân Herod, ac mae’r darn hwn yn fwy perthnasol nag erioed gyda’i rybuddion pwerus ynghylch sefydlogrwydd y byd i’r dyfodol. Steffan Lloyd Owen sy’n perfformio gydag offerynwyr o Ensemble Cymru.
Dau waith piano unigol a chyfres ar gyfer ensemble siambr sy’n ffurfio gweddill yr albwm, a’r rhain oll yn arddangos ystod eang o arddulliau: o uniongyrchedd Pianimals, a berfformir yma gan Mervyn Burtch, y cyfansoddwr y mae cof annwyl amdano, mewn recordiad Tŷ Cerdd a ailddarganfuwyd yn ddiweddar; i her dechnegol Caniad y Gloch sydd wedi’i thrin â deheurwydd disglair a sensitifrwydd craff gan Christopher Williams; a swyn syml Anglesey Seascapes sy’n dathlu harddwch yr ynys sy’n gartref i’r cyfansoddwr, ac a berfformir yma gan Ensemble Cymru.
Meddai Gareth Glyn: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Recordiau Tŷ Cerdd am ryddhau’r albwm hwn yn ystod blwyddyn sydd mor arwyddocaol i mi: blwyddyn fy mhen-blwydd yn 75 oed yn ogystal â blwyddyn canmlwyddiant geni fy nhad. Dros gyfnod o bron i 60 mlynedd, rwyf wedi gosod llawer iawn o’i farddoniaeth i gerddoriaeth – nid oherwydd mai ef oedd fy nhad, ond yn hytrach oherwydd bod ei gerddi wastad wedi creu argraff arnaf a’m hysbrydoli. Mae cryfder emosiynol rhyfeddol iddynt – yn enwedig o bosibl y gân a ddewiswyd i fod yn gân agoriadol yr albwm hwn, gyda’i pherorasiwn clo brawychus. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl artistiaid a gyfrannodd eu doniau gwych i’r albwm hwn, a hefyd i Catrin Finch, y bydd ei pherfformiad o fy ail gonsierto i’r delyn (Vita Davidis) yn cael ei ryddhau gan recordiau Tŷ Cerdd ym mis Mai.”
TCR058: Gareth Glyn – Yr Oriau a Welsom (All the Hours We Saw) and other works i’w ryddhau gan Recordiau Tŷ Cerdd, ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar yr holl brif blatfformau.
Dyddiad rhyddhau: 30 Ionawr 2026
RHESTR TRACIAU (cyfanswm hyd: 54:51)
1 Cân Herod (Herod’s Song) 4:34
Steffan Lloyd Owen (bariton), Ensemble Cymru
2 Caniad y Gloch (The Sounding Bell) 13:05
Christopher Williams (piano)
Morluniau Môn (Anglesey Seascapes)
3 Llanddwyn 2:16
4 Cemaes 2:19
5 Moelfre 4:26
Ensemble Cymru
Yr Oriau Oll a Welsom (All the Hours we Saw)
6 Prolog (Prologue) 0:45
7 Seithug (Futile) 3:22
8 Crafangau (Talons) 3:50
9 Y Weddw (The Widow) 2:34
10 Yr Eryr (The Eagle) 2:13
11 Tic Toc (Tick Tock) 0:48
12 Amser (Time) 1:25
13 Meibion y Rhyfel (Sons of the War) 2:03
14 Y Cofio (Recalling) 3:47
Steffan Lloyd Owen (bariton), Annette Bryn Parri (piano)
Pianimals (Pianifeiliaid)
15 Polar Bear (Arth Wen) 1:40
16 Crow (Brân) 3:47
17 Zebra (Sebra) 1:57
Mervyn Burtch (piano)
BYWGRAFFIADAU
Ganed Gareth Glyn ym Machynlleth ym 1951, ond symudodd ym 1978 i Ynys Môn, sydd, drwy ei thirlun, hanes a chwedloniaeth, yn ddylanwad allweddol ar ei gyfansoddi. Mae ei gyfansoddiadau offerynnol yn cynnwys ei Symffoni (Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC, 1991), y consiertos telyn Vita Davidis (Catrin Finch, 2017) ac Amaterasu (Hannah Stone, 2015), a’r cathlau symffonig Dinas Barhaus (North Carolina Symphony, 2010), Eryri (Cerddorfa Ulster, 1980) a Coed Mametz (Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, 2016). Mae galw mawr arno fel cyfansoddwr i’r llais, o gonglfaen repertoire y corau meibion Heriwn, Wynebwn y Wawr (1998) i’r unawd tenor Llanrwst (1988, wedi ei recordio’n fasnachol gan o leiaf ddeg o gantorion) a sawl cylch caneuon. O’i dair opera – Wythnos yng Nghymru Fydd (2017), Peth Bach ’di Cawr (2023) a Tanau’r Lloer (2024) – cafodd y gynta ei dyfarnu’r Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018, ac mi gafodd y drydedd ei chynhyrchu fel ffilm, gyda’r premiere byd yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin ym mis Awst 2025. Gwefan Gareth Glyn
Mae'r bariton Steffan Lloyd Owen yn enillydd y Gystadleuaeth Opera Paris 2025 a’r Gystadleuaeth Joseph Palet 2025. Mae e ar hyn o bryd yn aelod o Stiwdio Opera Ryngwladol gydag Opera Zürich Bywgraffiad llawn fan hyn
Ganwyd Annette Bryn Parri yn Neiniolen, Gwynedd. Roedd yn bianydd a chyfeilydd i nifer o gantorion blaenllaw Cymru, yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Gwyn Hughes-Jones a Rebecca Evans. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, yn arbenigo mewn lieder, oratorio ac opera. Enillodd sawl gwobr, yn cynnwys Medal Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym 1982 a’r y Rhuban Glas i offerynwyr yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym 1985. O 1993 hi oedd cyfeilydd corau Ysgol Glanaethwy. Hi hefyd oedd hanner y ddeuawd piano-a-thelyn Piantel gyda Dylan Cernyw, a roedd yn gyfansoddwraig dalentog i’r piano. Bu farw Annette yn 62 oed ym Mai 2025.
Mae Christopher Williams yn mwynhau gyrfa amlochrog fel pianydd, cyfansoddwr, arweinydd, athro, a threfnydd. Mae’n addysgu yn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd,ac yn gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol Côr Cenedlaethol Cymru'r BBC a phianydd i Gerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC. Yn enwog am berfformiadau unigol a chydweithredol, mae Williams wedi recordio'n helaeth i glod rhyngwladol. Bywgraffiad llawn fan hyn
Ensemble Cymru ydy grŵp cerddoriaeth siambr wedi’i leoli ym Mangor yng ngogledd Cymru. Mae uchafbwyntiau dros 25 mlynedd y grŵp yn cynnwys rhestr fer Gwobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol; cynhyrchiad Cymraeg o Pedr a’r Blaidd Prokofiev ar S4C; a thaith gyntaf yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd gan Gareth Glyn, wedi’i chynhyrchu gan OPRA Cymru. Bywgraffiad llawn fan hyn
Wedi’i eni yn Ystrad Mynach yng Nghwm Rhymni, bu Mervyn Burtch (1929-2015) yn mynychu Ysgol Lewis, Pengam ble cafodd ei addysgu gan David Wynne. Ym 1979 ymunodd â’r staff cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cynhyrchodd Burtch 650 o weithiau fan leiaf i gerddorion proffesiynol ac amatur, ond efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am y nifer fawr o operâu a gyfansoddodd i’w perfformio gan blant a phobl ifainc, mewn cydweithrediad â Mark Morris. Ymhlith ei allbwn sylweddol ceir cerddoriaeth siambr, caneuon, gweithiau cerddorfaol, cerddoriaeth i gorau, grwpiau cymunedol a bandiau pres.








Comments