Ffidil Fawr 2026: Penwythnos Ffidil - Welsh Fiddle Weekend
- Apr 15
- 2 min read
scroll down for English
Iau 26 - Sul 29 Tachwedd 2026
Canolfan Stackpole, Sir Benfro
Mae Ffidil Fawr yn encil cerddoriaeth draddodiadol Gymreig tri diwrnod i offerynnwyr llinynnol, lle daw chwaraewyr ynghyd i ddysgu alawon, datblygu techneg, a gwneud cerddoriaeth mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol. Wedi’i gynnal gan y triawd siambr Cymreig VRï ochr yn ochr â’r cerddorion Awen Blandford ac Angharad Jenkins, mae’r penwythnos yn cyfuno dysgu ar y glust â dulliau addysgu clir a strwythuredig, gan gynnig persbectif ffres i chwaraewyr llinynnol sydd wedi arfer gweithio o nodiant.

I gerddorion clasurol yn benodol, mae’n gyfle i gamu i mewn i iaith gerddorol wahanol, gan archwilio rhythm, addurniadau ac arddull, a meithrin hyder wrth chwarae ar y glust. Gyda sesiynau, gwaith mewn grwpiau bach, a Cherddorfa Ffidil Fawr, mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau newydd, ehangu eich pecyn offer cerddorol, ac ailgysylltu â chwarae mewn ffordd fwy greddfol a chydweithredol.
Gwybodaeth: ffidilfawr.cymru
Thu 26 - Sun 29 November 2026
Stackpole Outdoor Learning Centre, Pembrokeshire
Ffidil Fawr is a three-day Welsh traditional string music retreat where players come together to learn tunes, develop technique, and make music in a friendly, supportive environment. Hosted by the Welsh chamber trio VRï alongside musicians Awen Blandford and Angharad Jenkins, the weekend blends learning by ear with clear, structured teaching, offering a refreshing change of perspective for string players used to working from notation.

For classical musicians in particular, it’s a chance to step into a different musical language, exploring groove, ornamentation, and stylistic nuance, while building confidence playing by ear. With sessions, small-group work, and the Ffidil Fawr Orchestra, it’s an opportunity to develop new skills, broaden your musical toolkit, and reconnect with playing in a more instinctive, collaborative way.
Info: ffidilfawr.cymru






Comments