top of page

GALWAD: Northern European Mobility Fund 18.09.26

  • 1 day ago
  • 2 min read

 


 

Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop (NEMO) - rhaglen ar gyfer symudedd a chyfnewid artistig (rhwng Tach ’26 - Tach ’27) ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr celfyddydol unigol sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd.

 

Ceir Canllawiau ac dyddiadau allweddol y gronfa trwy’r ddolen uchod – y gronfa’n agor ar gyfer geisiadau 17 Awst - 18 Medi 2026.

 

Amcanion NEMO 

Mae’r rhaglen yn datblygu ar ddyhead dwyochrog i roi mwy o bosibiliadau creadigol i ymarferwyr drwy’r holl sin diwylliannol yng ngogledd Ewrop. Mae’n gwneud hynny drwy ddarparu cefnogaeth ariannol i artistiaid tuag at fentrau cydweithredol ymarferol a fydd o fudd i artistiaid sy’n cymryd rhan a’r cymunedau celfyddydol ehangach mewn gwledydd partner.

 

Blaenoriaethau cyffredin y rhaglen hon yw:

 

  • Annog mwy o artistiaid ac ymarferwyr celfyddydol yn eu camau cynnar i weithio’n

  • hyderus gyda phartneriaid rhyngwladol.

  • Meithrin cydweithio rhyngwladol.

  • Datblygu rhwydweithiau artistig newydd drwy ranbarth gogledd Ewrop, a’u cryfhau.

  • Tmrwymo i hygyrchedd a chynhwysiant ar gyfer cymunedau a lleisiau amrywiol yn y rhanbarth.

 

Hwn fydd ail rediad y rhaglen Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop mewn partneriaeth gyda Chronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig a’r asiantaethau sy’n ariannu’r celfyddydau yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

 

I fod yn gymwys i wneud cais am y rhaglen hon, rhaid i chi fod yn artist unigol neu'n ymarferydd celfyddydol sy'n preswylio yn:

 

  • Un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig

  • Gweriniaeth Iwerddon

  • Un o’r gwledydd Nordig (Denmarc, Ynysoedd Ffaro, Ffindir, Ynys Las, Gwlad yr Iâ, Norwy, Sweden a’r Ynysoedd Åland)

 

 

Os cawsoch ddyfarniad cyllid yn rownd gyllido 2025, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais yn y rownd hon.

 

Gallwch weld recordiad o sesiwn wybodaeth a holi diweddar, bore coffi Gwybodfan Celf y DU, ar NEMO YMA 

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page