GALWAD: Ysgoloriaeth Hilda Hunter 01.09.26
- 1 day ago
- 1 min read

Derbyniodd y Gymdeithas gymynrodd yn ewyllys y ddiweddar Hilda Hunter i’w galluogi i ddyfarnu ysgoloriaeth i ymgeisydd teilwng sy’n astudio cerddoriaeth werin Gymreig.
Roedd Hilda Hunter yn gerddor ac yn athrawes cerdd a gymerai ddiddordeb byw yn nhraddodiad gwerin Cymru, ac roedd yn awyddus iawn i weld parhad mewn diddordeb yn y traddodiad.
Mae’r Gymdeithas yn awyddus i ddyfarnu ysgoloriaeth o £2,000, i’w dal am flwyddyn, ym maes cerddoriaeth werin Gymreig. Gellir defnyddio’r arian i hyrwyddo ymchwil yn y maes neu i gefnogi agweddau ar berfformio cerddoriaeth werin yn lleisiol neu yn offerynnol.
Ymhlith y meysydd posibl y mae: ymchwil ar gyfer traethawd mewn prifysgol; cynllun cyflwyno cerddoriaeth werin mewn ysgolion neu yn gymunedol; derbyn hyfforddiant ym maes cerddoriaeth werin. Ni chyfyngir yr ysgoloriaeth i’r meysydd hynny, a chroesawir ceisiadau sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar gerddoriaeth werin Gymreig.
Disgwylir i ddeiliad yr Ysgoloriaeth gyflwyno adroddiadau chwarterol i Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas a llunio erthygl / adroddiad i Canu Gwerin, cylchgrawn blynyddol y Gymdeithas, i gyflwyno ffrwyth yr ymchwil neu gasgliadau’r prosiect.
Dylid cyflwyno ymholiadau pellach a cheisiadau, gan gynnwys manylion personol a disgrifiad llawn o’r cynllun arfaethedig, i Ysgrifennydd y Gymdeithas, Dr
Rhiannon Ifans, erbyn 1 Medi 2026: rhiannon.ifans@gmail.com
Registered charity no. 259772 canugwerin.com




Comments