top of page

Gweithdy corawl Aberystwyth yn cloi rhaglen Codi Côr

  • May 14
  • 2 min read

Ym mis Mai, cynhaliwyd y gweithdy olaf yn ein llwybr datblygu artistiaid Codi Côr, sef llwybr a gynlluniwyd i gefnogi creu gwaith newydd, unigryw ar gyfer côr cymunedol o dan fentoriaeth y cyfansoddwr Nathan James Dearden.


Cafodd pum crëwr cerddoriaeth – Hannah Paloma, Rhys Cook, Lowri Mair Jones, Sarah Zyborska ac Yasmine Latkowski – y cyfle i ddatblygu ystod amrywiol o weithiau newydd, gyda phob un yn dod â safbwynt unigryw wedi’i lunio gan eu hymarfer cerddorol eu hunain. Roedd eu dulliau yn tynnu ar gyfansoddi caneuon, gwerin arbrofol, traddodiadau cerddorol Arabaidd, canon corawl Cymru, barddoniaeth ac offeryniaeth. Dros sawl mis, datblygodd yr artistiaid eu darnau drwy weithdai a sgyrsiau gyda’r côr gwych o Aberystwyth, Côr ABC, dan arweiniad Louise Amery gan wneud hynny yn Neuadd Joseph Parry yn Aberystwyth.


Dechreuodd y prosiect gyda deuddydd bywiog o weithdai cyfansoddi corawl yn stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd, gan ddod â chyfansoddwyr, arweinwyr corau ac ymarferwyr lleisiol ynghyd i archwilio ysgrifennu ar gyfer lleisiau torfol. Dan arweiniad mentor y rhaglen Nathan James Dearden ynghyd â’r siaradwyr gwadd Ben Nobuto, Lisa Robertson a Rob Fokkens, roedd y sesiynau’n cynnwys gweithdai cyfansoddi ymarferol, cyflwyniadau a sgyrsiau difyr. Gyda’n gilydd, aethom ati i edrych ar ffisioleg y llais, offerynnau taro’r corff, perfformio gofodol, seiniau lleisiol anghonfensiynol, gosod testun yn Gymraeg, technegau trefnu SATB, a thraddodiad corawl Cymru mewn perthynas ag ymarfer cyfoes. Yn dilyn arddangosiadau byw ac ymarferion yn seiliedig ar sgoriau gyda chantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, daeth y gweithdai i ben gyda sesiwn holi ac ateb gydag Adrian Partington ac ymarfer agored Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC.


Datblygwyd gweithiau newydd dros sawl mis, gyda thri sesiwn gweithdy bywiog yn Neuadd Joseph Parry gyda Chôr ABC, dan arweiniad Louise Amery. Rhoddodd y gweithdai gyfle i’r crewyr cerddoriaeth fynd i’r afael ag adborth a chael deialog uniongyrchol gyda’r côr a gweddill y garfan; gan ennill profiad ymarferol o’r naws a’r pleserau sy’n gysylltiedig ag ysgrifennu ar gyfer corau cymunedol. Roedd y gweithdai gyda’r côr yn ofod ar gyfer arbrofi cydweithredol, a’r cyfansoddwyr wedi archwilio syniadau newydd a dulliau amrywiol yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd, amlieithrwydd, geiriau a grëwyd ar y cyd, traddodiadau cerddorol Cymreig ac Arabaidd, bywyd pryfed a gwybed Mai, byrfyfyrio gwerin, syniadau am gartref a pherthyn, cyfeiliant shruti box, a chyfansoddiad llawen wedi’i ysbrydoli gan Calon Lân.


Rydym yn edrych ymlaen at rannu recordiadau o’r prosiect yn fuan!


Freya Dooley, Rheolwr Datblygu Artistiaid

Comments


bottom of page