top of page

Panedeni yn rhyddhau ail sengl cyn yr EP

  • Apr 23
  • 1 min read

Mae’r ensemble trawsddiwylliannol o’r Gogledd, Panedeni, yn rhyddhau Atamanaa (‘gobeithiaf’) ar 1 Mai 2026 cyn eu perfformiad yn FOCUS Wales

Panedeni
Panedeni

Bydd y fideo ar gyfer Atamanaa, a gefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C, hefyd yn cael ei rhyddhau ar 1 Mai 2026. Ffilmiwyd y fideo a’i chyfarwyddo gan Rob Corcoran (73 degree films) yn y Gogledd ger Llangollen gydag Ayoub Boukhalfa, ac mae Yasmine yn disgrifio’r fideo fel “neges o gariad o Gymru i’r Dwyrain Canol”.


Mae’r EP Atamanaa sydd ar fin ei chyhoeddi yn ehangu sain draws-ddiwylliannol Panedeni, gan gynnwys offeryniaeth werin Arabaidd a Chymreig. Mae wedi’i chanu mewn pedair iaith, sef Cymraeg, Saesneg, Arabeg a Bosnieg, ac mae’n arddangos cymysgedd amlddiwylliannol o gerddoriaeth wreiddiol a cherddoriaeth draddodiadol wedi’i hailddychmygu. Mae gwaith Panedeni wedi’i wreiddio mewn cynhwysiant, gan ddathlu amrywiaeth a chreu gwaith sy’n dwyn ynghyd dreftadaethau cerddorol unigryw yng Nghymru.


Meddai Yasmine Latkowski: “Mae Atamanaa yn bersonol iawn i mi ac Ayoub. Ers cyfansoddi’r gân ar-lein heb erioed gwrdd â’n gilydd, rydyn ni bellach wedi’i dysgu i gorau ledled Cymru ac yn edrych ymlaen at ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Llangollen ar 12 Medi.”


Bydd Atamanaa ar gael ar bob prif blatfform ffrydio o 1 Mai 2026. Bydd Panedeni yn perfformio yn FOCUS Wales ddydd Gwener 8 Mai, 7pm yn HWB (rhagor o wybodaeth yma: FOCUS Wales 2026 Panedeni | FOCUS Wales 2026).




 
 
 

Comments


bottom of page