top of page

Prosiect Cwmwl Tystion yn gorffen gyda rhyddhau TCR newydd

  • 3 hours ago
  • 3 min read


Cwmwl Tystion III / Empathy yw'r trydydd pennod, a rhan olaf prosiect jazz arloesol Tomos Williams sy'n ymdrin â diwylliant a hanes Cymru.


Mae'r band yn cynnwys lleisiau arbennig Mared Williams ac Eadyth Crawford, yn ogystal a dau gawr o'r sîn jazz rhyngwladol; Melvin Gibbs o Brooklyn, Efrog Newydd ar y gitar fâs a'r gitârydd drydan Ffrengig/Fietnameg Nguyên Lê.


Mae'r cyfansoddiad gwreiddiol 'Y Gyfres Empathi', gan Tomos Williams yn cynnwys rhythmau dwfn, unawdau gitâr tanllyd, synnau bas trwm, alawon gwerin Cymreig, byrfyfyrio ffyrnig, ochr yn ochr ag eiliadau o dynerwch syfrdanol a recordiad o emyn Gymreig.


Mae'r ddeuawd lleisiol ar ddechrau 'Beth yw maddau? What is forgiving?' yn eistedd ochr yn ochr â ffync amrwd y gân Welsh Not a roc trwm Mynydd Epynt 1940.


Canolbwynt y Gyfres yw teyrnged i drychineb Aberfan tra bod y gân werin Gymreig 'Hiraeth' wedi'i phlethu drwy'r gyfres, gan wneud tair ymddangosiad. Mae yna hefyd deyrngedau i Paul Robeson a'i berthynas agos â Chymru, Streic y Glowyr 1984 a chydnabyddiaeth o statws presennol Cymru fel Cenedl Noddfa (mae mwy o wybodaeth am y rhain yn y llyfryn sydd yn dod gyda'r albym).


Roedd y band Harriet Tubman yn ddylanwad hollbwysig ar Cwmwl Tystion felly mae cael Melvin Gibbs (basydd Harriet Tubman) ar y recordiad hwn yn fraint ac yn garreg filltir i jazz o Gymru.


Mae Nguyên Lê wedi bod yn feistr rhyngwladol ar gitâr roc/fusion ers degawdau, gyda'i waith gitâr tanbaid yn dod â John McLaughlin a Mike Stern i'r meddwl, tra'i fod hefyd yn cyfeilio llais Mared Williams yn hynod sensitif.


Teithiodd y band o amgylch Cymru gydag un perfformiad yn Llundain yn ystod Haf 2024. Recordiwyd y gerddoriaeth ar yr albwm yn Cafe OTO, Llundain, Theatr Soar, Merthyr Tudful a'r Lost ARC, Rhaeadr Gwy. Cafodd pob perfformiad ei ategu hefyd gan ddelweddau byw Simon Proffitt.


Mae'r teitl 'Cwmwl Tystion', er ei fod yn Feiblaidd yn wreiddiol, yn deillio yn yr achos hwn o gerdd y bardd, heddychwr a chenedlaetholwr Cymreig Waldo Williams (1904-1971) o'r enw Pa Beth yw Dyn? lle mae'n wynebu materion dirfodol ei gyfnod.


Dywed Tomos Williams: “Yn dilyn llwyddiant y ddau fersiwn blaenorol o Cwmwl Tystion yn 2019 a 2021, roeddwn yn teimlo y dylai'r prosiect fod yn drioleg, felly Cwmwl Tystion III / Empathy byddai'r bennod ola'.


Wedi defnyddio cerddorion gwych fel Huw Warren, Rhodri Davies, Soweto Kinch ac Orphy Robinson yn y fersiynau blaenorol, roeddwn i'n awyddus i wahodd dau artist rhyngwladol anhygoel i ymuno â mi ar y daith olaf hon. Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê ill dau wedi bod yn arwyr i mi ers degawdau, felly roedd teithio Cymru a pherfformio gyda nhw noson ar ôl noson braidd yn swreal! Daeth y gerddoriaeth yn fyw a gwnaeth y ddau osod eu sain a'u hawdurdod ar y gerddoriaeth yn y ffordd orau posib.


Mae lleisiau godidog Eadyth Crawford a Mared Williams yn adnabyddus i ni yma yng Ngymru ond dwi'n gobeithio bydd yr albym yma yn ei cyflwyno i gynulleidfa newydd. Mae'r ddwy yn dalentau rhyfeddol, ac yn hanfodol i lwyddiant y bennod olaf hon o Gwmwl Tystion.”


Ychwanega Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd, Deborah Keyser: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu ychwanegu Cwmwl Tystion III/ Empathy at ein catalog Tŷ Cerdd. Mae'n teimlo'n bwysicach nag erioed i ddathlu cyfansoddwyr a pherfformwyr ac rydym mor falch o fod wedi rhyddhau'r drioleg arloesol hon o recordiadau 'Cwmwl Tystion' ar ein label recordioTŷ Cerdd, sy'n parhau â'n cenhadaeth o ddod ag amrywiaeth o gerddoriaeth Gymreig i gynulleidfa ehangach. Mae Tŷ Cerdd wedi bod yn ehangu ein mentrau datblygu artistiaid ac yn ymdrechu i gyrraedd ymhellach gyda'n gwaith, ein mantra yw: 'Os ydych chi'n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, mae'n gerddoriaeth Gymreig!' Nid yw ein rôl o feithrin a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru erioed wedi ymddangos mor hanfodol ag y mae heddiw.”


Y cerddorion: Tomos Williams (trwmped, cyfansoddwr), Nguyên Lê (gitâr drydan), Eadyth Crawford (llais, effeithiau), Mared Williams (llais) Melvin Gibbs (bas trydan, effeithiau) Mark O'Connor (drymiau), Simon Proffitt (delweddau byw)


RHESTR TRAC

1. Welsh Not

2. Miners' Strike 1984

3. Beth yw maddau? What is forgiving?

4. Aberfan 1966

5. Paul Robeson yn cannu yn Aberpennar 1938 / Paul Robeson sings in Mountain Ash 1930

6. Mynydd Epynt 1940

7. Cymru Cenedl Noddfa / Wales: A Nation of Sanctuary



Comments


bottom of page