top of page

Tŷ Cerdd yn Eisteddfod 2026

57 minutes ago
2 min read

Eisteddfod Y Garreg Las

1-8 Awst 2026



Medal y Cyfansoddwr

Yn ystod seremoni wobrwyo olaf ar noson olaf yr Eisteddfod Genedlaethol, fe enillodd Andrew Cusworth Medal y Cyfansoddwr, gan gloi wythnos Tŷ Cerdd yn yr Eisteddfod. Cyn y gwobrwyo, fe berfformiwyd tri dehongliad o 'Y Ci Coch' ar lwyfan y pafiliwn – tri threfniant gwahanol o farddoniaeth Waldo Williams gan tri chyfansoddwr y rhestr fer, sef,  Claire Victoria Roberts, Gwenno Morgan, ac Andrew Cusworth. Perfformiwyd y dehongliadau gan gôr plant a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Hefyd, fe osododd y cyfansoddwyr eiriau Waldo 'Plentyn y Ddaear' ar gyfer côr SATB heb gyfeiliant, a dyma oedd yn sail i'r feirniadaeth derfynol.



 

Tuag Opera

Y noson gynt fe gyflwynwyd perfformiad proffil uchel arall ym mhabell y Stiwdio, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a ddeilliwyd o un o'n llwybrau eraill. Roedd hwn yn adfywiad o dair golygfa operatig o 'Tuag Opera' y llynedd, ond y tro hwn, cafodd y darnau eu hail-drefnu – gan newid o fersiwn piano, i sain gyfoethocach ensemble cymysg. Cymerodd tri chyfansoddwr ran: Lowri Mair Jones, Nathan James Dearden, a Sarah Lianne Lewis – y tri yn gyn enillwyr gwobr cyfansoddwr yr Eisteddfod.


Arweiniwyd y perfformwyr gan Iwan Teifion Davies, ac Eleri Gwilym, Dafydd Allen a John Ieuan Jones oedd y cantorion.


Hefyd ar y maes, cawsom ddigwyddiadau eraill mewn cydweithrediad â'r Eisteddfod Genedlaethol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru:




AffriCerdd 

Ar gyfer ein cydweithrediad blynyddol gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, fe berfformiodd Seraphyre (yr artist o Abertawe, Sera Boudreaux) set yn Gymraeg, gan gynnwys cân a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, o'r enw 'Y Garreg Las'. Bydd y gân newydd yn cael ei rhyddhau ar label Sionci Tŷ Cerdd yn 2027.




Huw Warren + Kat Rees 

Ymunodd y gantores Kat Rees â'r pianydd Huw Warren ar gyfer perfformiad a oedd yn cyfuno jazz cyfoes â thraddodiadau cerddorol Cymru.




Darganfod Cerddoriaeth Gymreig – Dewch i Ganu

Arweiniodd y soprano Jessica Robinson, gyda'r pianydd Rhiannon Pritchard, weithdy canu cyfranogol gan gynnwys tair cân gan Mansel Thomas.




Darganfod Cerddoriaeth Gymreig – Caneuon a barddoniaethCyflwynodd Emma Evans, Rhys Archer, Celyn Smith a Rhiannon Pritchard gerddoriaeth a barddoniaeth o gyffiniau Sir Benfro.

Comments


bottom of page