
Yn Tŷ Cerdd, rydyn ni yma i gefnogi ac ymgysylltu â gwneuthurwyr cerddoriaeth ar draws Cymru. Felly penderfynon ni agor y drysau led y pen a symud o fod yn sefydliad aelodaeth i "Rhwydwaith".
Gall aelodau Tŷ Cerdd derbyn yr un buddion ag y yn y gorffennol ond o Ebrill 2019 ymlaen gallu elwa ar y manteision hynny am ddim, dim ond drwy ymgofrestru â’r Rhwydwaith.
Adnodd a hyb ydyn ni ar gyfer cerddorion ar draws y genedl. Rydyn ni am gynyddu nifer y seflydliadau a chymunedau yr ydym yn ymgysylltu â nhw, felly dyma ni'n gwahodd unigolion a grwpiau fel ei gilydd i gofrestru heddiw i dderbyn ein buddion:
-
Cefnogaeth gyda hyrwyddo’ch digwyddiadau a chyngherddau
-
Gostyngiadau wrth ddefnyddio’r llyfrgell logi
-
Cyngor ac arbenigedd ynglŷn â cherddoriaeth Gymreig
-
Mynediad i’n cyfleusterau ymchwil
-
Gostyngiadau ar nwyddau siop Tŷ Cerdd
Gwasanaethau recordio am brisiau gostyngedig -
Cylchlythyrau bob deufis
-
Cynigion tocynnau
Cofrestrwch am ddim heddiw i fod yn rhan o rwydwaith ymledol cyffrous o wneuthurwyr cerddoriaeth.
Rydyn ni’n parhau i fod yn elusen sy’n ymrwymedig i hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru. Felly gobeithiwn y bydd ein haelodau a chefnogwyr presennol yn dewis gwneud cyfraniad yn lle eu taliad aelodaeth, i’n helpu i weithio gyda chyfansoddwyr, hyrwyddo cerddoriaeth Cymru a chefnogi cerddora yn y gymuned.