Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Rhydian Meilir Pughe 1985
Mae cerddoriaeth Rhydian Meilir yn cael ei chwarae’n gyson ar Radio Cymru ac mewn cyngherddau ac eisteddfodau ledled Cymru gan unigolion a chorau. Bu’n llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau cyfansoddi dros y blynyddoedd, gan gynnwys ennill Tlws Coffa Sbardun yn 2019 a 2022 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ennill Cân i Gymru yn 2022, a dod yn 2il ar dri achlysur arall yn yr un gystadleuaeth. Rhyddhaodd gryno ddisg o’i albwm cyntaf o'i ganeuon yn 2022, sef Caneuon Rhydian Meilir.
Mae gan Rhydian MA mewn Cyfansoddi a Chynhyrchu o Brifysgol De Cymru Caerdydd a diploma tiwnio ac atgyweirio piano. Mae’n chwarae’r drymiau, piano a gitâr a bu’n aelod o sawl band dros y blynyddoedd, gan gyfansoddi yn ogystal â pherfformio i’r bandiau.
Mae Rhydian yn aelod o Gôr Dyffryn Dyfi a bu’n aelod o Gwmni Theatr Maldwyn ar hyd y blynyddoedd. Mae’n rhannu ei amser rhwng ffermio ar y fferm deuluol ac yn recordio a chynhyrchu cerddoriaeth yn ei stiwdio recordio yng Nghemaes ger Machynlleth, sef Stiwdio Bing.
Yn ogystal â hyn, mae yn gwneud llawer o waith cyfansoddi i briffiau a chomisiynau a phrojectau cyfansoddi personol.
Mae Rhydian hefyd yn berchenog ar label Recordiau Bing, sy'n gweithredu o'r stiwdio.
Rhydian Meilir's music is regularly heard on Radio Cymru and in concerts and eisteddfodau throughout Wales. He has been successful in a number of composition competitions, winning the Spardun Memorial Trophy at the National Eisteddfod in 2019 and 2022 , and Cân i Gymru in 2022 - a competition in which he was also runner up on three occasions. He released a CD of his first album of his songs, Caneuon Rhydian Meilir in 2022.
Rhydian holds an MA in Composition and Production from the University of South Wales as well as a diploma in piano tuning and repair. He plays the drums, piano and guitar and has been a member of several bands over the years for which he has also written music.
Rhydian is a member of Côr Dyffryn Dyfi and was a member of Cwmni Theatr Maldwyn for many years. He currently divides his time between working on the family farm and recording and producing music in his recording studio (Stiwdio Bing) in Cemaes, near Machynlleth. In addition to this, he undertakes a lot of composition work for commissions and personal composition projects.