top of page

Rhyddhawyd ar label Sionci 10 Rhagfyr

Côr Un Byd Oasis yn rhyddhau EP i nodi Diwrnod Hawliau Dynol

Côr Un Byd Oasis yn rhyddhau​
I’m not free until we’re all free

Ar ddydd Mawrth 10fed Rhagfyr – sef Diwrnod Hawliau Dynol 2024 – bydd Côr Un Byd Oasis o Gaerdydd yn rhyddhau record newydd ar label Sionci, sef label yr artistiaid eu hunain yn Tŷ Cerdd.

Mae Côr Un Byd Oasis yn croesawu pobl sydd wedi cael eu dadleoli o’u mamwlad ac wedi dod i Gymru. Nod y côr yw dysgu oddi wrth y rhai sy’n ymgysylltu â’r grŵp – gan rannu, tyfu a chreu gyda’n gilydd. Mae’r côr yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n wynebu ailddechrau eu bywydau mewn gwlad newydd; yn aml mewn iaith sy’n gwbl newydd iddynt. Mae iaith cerddoriaeth yn mynd y tu hwnt i’r rhwystrau hyn, ac mae’r côr yn galluogi pobl i wneud ffrindiau newydd ac adeiladu cymuned gyda’i gilydd.

Yn ystod taith sydd wedi para bron i 10 mlynedd, mae’r Côr Un Byd wedi gallu creu cerddoriaeth sy’n unigryw ac yn gyffrous ac sydd hefyd yn parchu diwylliant pawb sy’n ychwanegu ati. Rhoddir llais i ffoaduriaid yn eu cymuned newydd, gan hybu mwy o empathi a dealltwriaeth o’r materion y maent yn eu hwynebu – gan ddod yn fodelau rôl i eraill.

Wrth gydweithio â Tŷ Cerdd / Canolfan Cerddoriaeth Cymru i ryddhau’r EP newydd hwn i nodi Diwrnod Hawliau Dynol 2024, caiff y lleisiau hyn eu clywed ymhellach, trwy’r label proffesiynol, Sionci, sef label yr artistiaid eu hunain yn Tŷ Cerdd, a thrwy hynny yn rhannu model pwerus ar gyfer undod mewn cyfnod mor rhanedig. Mae’r pedwar trac ar yr EP yn adleisio thema Hawliau Dynol y Byd 2024, sef: Cydraddoldeb – lleihau anghydraddoldebau a hyrwyddo hawliau dynol. Maent yn llawenhau wrth ystyried a chryfhau’r cysyniad o Gymru fel Cenedl Noddfa.

Dywedodd Christianah Ugbaja, aelod o Gôr Un Byd Oasis: “Mae’n gyfle gwych i ni gydweithio â Tŷ Cerdd. Bydd cael ein caneuon wedi’u recordio a’u lansio ar eu platfform yn rhoi mwy o amlygrwydd a sylw i’n côr ni – cyfle i rannu ein caneuon gyda’r gymuned ehangach.”

Oasis square small.jpg

Track 1: ‘Lifting Up My Mind’ – aelodau’r côr ysgrifennodd hon yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi dod yn anthem i’r Côr: ‘I’m not free until we’re all free’  Hyd: 04:38

 

Trac 2: ‘Ayman’s Song’, gyda’r unawdwyr Ayoub, Ayman, Faisal. Wedi’i chanu yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Arabeg  Hyd: 03:39

 

Trac 3: ‘Be There’ gan Oloye Fineface a Morack ar y cyd â Chôr Un Byd Oasis  Hyd: 04:34

 

Trac 4: ‘Togetherland Song’ gan Ffion Campbell-Davies ar y cyd â Chôr Un Byd Oasis  Hyd: 04:06

Sionci logo copy.png

Sionci yw label Tŷ Cerdd sydd o dan arweiniad artistiaid ac mae’n eistedd ochr yn ochr â’r label presennol Recordiau Tŷ Cerdd. Mae Sionci wedi’i greu i alluogi artistiaid i ddatblygu’n greadigol ac i ddatblygu eu gyrfa, a hynny ar draws pob genre. Gall artistiaid gymryd rheolaeth ar unrhyw ran o’r broses os nad y cyfan – o’r recordio a’r cynhyrchu, i’r gwaith celf a hyrwyddo – a chynigir cyfraniad breindal mwy ffafriol iddynt na label arferol.

bottom of page