top of page
Standing out from the crowd CYM SQUARE.j

CoDI RHYNGWEITHIO: Sefyll ar wahân i’r dorf – sut i gael sylw i’ch cerddoriaeth gan y bobl sy’n cyfri 

Dydd Mawrth 28 Gorffennaf neu Dydd Iau 30 Gorffennaf, 17:30-18:30 (trwy Zoom)

 

Ydych yn breuddwydio am ennill eich bywoliaeth drwy gyfansoddi cerddoriaeth ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? Oes gynnoch chi bortffolio gwych ac adolygiadau gwerth chweil ond o hyd yn methu cael eich troed yn y drws? Beth bynnag yw lefel eu llwyddiant, byddai’r rhan fwyaf o gyfansoddwyr yn ddiolchgar am help llaw ac mewn marchnad sy’n gynyddol gystadleuol, yn aml gall ennyn sylw comisiynwyr i’w cerddoriaeth fod yn anoddach na’i chyfansoddi yn y lle cyntaf.

 

Yn y weminar 60 munud yma, fe wnaiff Jordan Rees eich arwain drwy’r broses o wneud cais am waith gan esbonio’r technegau mwyaf effeithiol i’ch cyflwyno’ch hun, o lunio bywgraffiadau ac e-byst effeithiol i guradu tapiau arddangos gafaelgar.

 

Defnyddir cerddoriaeth Jordan yn helaeth mewn rhaghysbysebion i’r ffilmiau mwyaf poblogaidd gan stiwdios sy’n cynnwys Universal Pictures, Warner Brothers, 20th Century Fox, Lionsgate a Studio Canal ac fe’i defnyddir gan rai o’r prif ddarlledwyr teledu gan gynnwys BBC, ITV, SKY, HBO, MTV, Sianel 4 a Sianel 5. Mae peth o’i gerddoriaeth gerddorfaol wedi cael ei recordio gan Gerddorfa Symffoni Stiwdio Hwngari, y Gerddorfa Sesiwn Seisnig a Cherddorfa Sesiwn Sofia. Ar ddiwedd 2018, enillodd Jordan y Wobr am y Trac Sain Gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Arswyd Prydain.

WEDI GWERTHU ALLAN

bottom of page