Top of the page

Gareth Glyn

Ganed Gareth Glyn ym Machynlleth ym 1951, ond symudodd ym 1978 i Ynys Môn, sydd, drwy ei thirlun, hanes a chwedloniaeth, wedi bod yn ddylanwad allweddol ar ei waith fel cyfansoddwr. 1Gareth crop

Cafodd ei weithiau eu darlledu gan y BBC pan oedd yn dal yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Merton, Prifysgol Rhydychen.

Cafodd ei weithiau eu comisiynu a’u perfformio gan gerddorfeydd, ensembles a bandiau blaenllaw: yn eu plith Cerddorfa Symffoni Llundain (yr LSO), Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Symffoni Gogledd Carolina, Cerddorfa BBC yr Alban, Cerddorfa Ffilharmonig Strasbwrg, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, I Musici de Montréal a Cherddorfa’r Bale Brenhinol, yn ogystal ag unawdwyr megis Bryn Terfel, Catrin Finch a Charlotte Church.

Gareth oedd yn gyfrifol am y trefniant i offerynnwyr ifainc o Nimrod gan Elgar a agorodd Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ac am drefniannau cyffelyb gafodd eu perfformio yn y flwyddyn honno ac yn 2013 mewn cyngherddau awyr-agored gan yr LSO yn Sgwâr Trafalgar gerbron cynulleidfaoedd o filoedd.

Ers rhoi’r gorau i gyflwyno’r rhaglen newyddion ddyddiol Post Prynhawn ar Radio Cymru, ar ôl bron i 35 mlynedd wrth y gwaith, mae Gareth Glyn bellach yn gyfansoddwr llawn-amser, ac yn gweithio ar hyn o bryd ar opera newydd yn yr iaith Gymraeg, yn dilyn dyfarnu grant iddo gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

ERYRI

O’m cartref ar Ynys Môn, mae mynyddoedd Eryri, ‘yr Wyddfa a’i chriw’, i’w gweld yn glir yn eu holl ogoniant - golygfa a’m sbardunodd i gyfansoddi’r darn hwn, yn wreiddiol i gerddorfa ond yma wedi’i drefnu a’i addasu ar gyfer band pres.

Yn yr un ffordd ag y mae’r mynyddoedd yn newid o dymor i dymor, a’r olygfa yn newid wrth i rywun ddringo’r llechweddau, mae yna sawl adran amlwg, wrthgyferbyniol, i’r gwaith. I ddechrau clywn brysurdeb a chynnwrf yr ardal yn yr haf, wrth i ymwelwyr dyrru i droed yr Wyddfa; yna cawn rhyw ymdeimlad o frasgamu hyderus y rhai sy’n cychwyn ar daith gerdded tua’r copa. Ar ôl uchafbwynt, mae’r thema brysur yn ail-ymddangos mewn gwisg newydd, fwy gwerinol, sy’n tyfu’n anthem urddasol yn awgrymu mawredd y mynyddoedd. Yna, mae seiniau mecanyddol y trên bach i’w clywed yn nesáu, ac yn arwain at adran lle mae’r ddwy brif thema (prysurdeb a mawredd) i’w clywed gyda’i gilydd, ac yna at uchafbwynt gorfoleddus. Yna, wedi ennyd o ddistawrwydd, mae’r awyrgylch yn newid yn llwyr. Dyma unigedd cyfriniol, a phrydferthwch bythol, Eryri. Ond mae ffanffer hyderus ar y cyrn yn ein harwain yn ôl i’r naws agoriadol, a’r thema gyntaf unwaith eto. Nid gan hon, serch hynny, mae’r gair olaf – mae’r gwaith yn gorffen yn seiniau’r thema ‘unigedd’, yn awr wedi’i thrawsnewid yn emyn herfeiddiol, sy’n adlewyrchu geiriau Ceiriog: "Aros mae’r mynyddau mawr".

(Nodyn gan y cyfansoddwr)