top of page

2019-20

AFFRICERDD text white.png
AFFRICERDD text.png

Cydweithrediad diwylliannol newydd rhwng TÅ· Cerdd a Sub-Sahara Advisory Panel

Efallai bod gennych ddiddordeb mewn cerddoriaeth Afrobeat, drill, hip hop, drwm a bas neu glasurol; neu efallai eich bod chi’n awdur, animeiddiwr, gwneuthurwr ffilmiau neu ddawnsiwr? Pwrpas Affricerdd ydy adeiladu cysylltiadau ac archwilio amrywiaeth cerddoriaeth a diwylliannau sydd yng Nghymru. Byddwn yn edrych ar genres sy’n dylanwadu ar gymunedau ar draws Cymru, o Afrobeat i Bhangra, a blues Malïaidd i gerddoriaeth werin Gymreig.


Sesiynau wythnosol ar Nosweithiau Mercher 7-9yh, o 15 Ionawr i 18 Mawrth (10 wythnos) ac yn yr haf - 8 wythnos yn dechrau 22 Ebrill, a gorffen 10 Mehefin 2020.
 

Bydd prif artistiaid, y canwr Tumi Williams (Afrocluster) a’r cyfansoddwr/perfformiwr Helen Woods yn cynnal y sesiynau: bydd cerddoriaeth a thrafodaeth – ac amrywiaeth o artistiaid gwadd.

​

Dewch draw ag offeryn, llais, neu dewch â’ch dychymyg. Cymerwch ran, siaradwch, gwrandewch – helpwch ni i adeiladu dyfodol i Affricerdd, a chynllunio prosiect perfformio yn y dyfodol i fod yn rhan ohono.


Cyswllt: ymholiadau@tycerdd.org  /  029 2063 5640

​

SSAP white large.png
TC logo 2018 white.png
ACW_logo_white_portrait.png
Loteri logo white (002).png
wmc logo png white.png
WG white landscape logo.png
bottom of page