top of page

Monday 13 April, 16:00-18:00

CoDI INTERACT: Artist Identity For Composers

Free event (online via Zoom)

Register using link below

In this interactive workshop, Naomi Belshaw explores how composers can build successful careers beyond the music they write, focusing on shaping a clear public identity and using strategic networking, media presence, and team-building to reach wider audiences and secure commissions. 

Naomi Belshaw is an experienced consultant for musicians and composers, specialising in career development. Originally trained as an archaeologist, she transitioned from a passion for music into a career across the UK music sector, working with organisations including PRS for Music, PRS Foundation, and WildKat PR. 

In 2019, Naomi founded her consultancy, offering artists and composers strategic career advice informed by her broad experience in funding, festival curation, publishing, licensing, royalties, PR, and marketing. A recipient of the MMF Accelerator Programme in 2022, supported by YouTube Music, she is currently leading an initiative to expand opportunities for British contemporary classical music in sync across TV, film, advertising, and games. 

Naomi brings industry-leading insight to her workshops, drawing on recent work including chairing a panel on classical music in the digital space at SXSW in Austin, Texas. She is also Chair of the Three Choirs Festival and performs as a violinist with prog-rock band The Wood Demons.

Dydd Llun 13 Ebrill, 16:00-18:00

CoDI RHYNGWEITHIO:
Hunaniaeth Artist ar gyfer Cyfansoddwyr

Digwyddiad am ddim (ar-lein drwy Zoom) 

Dolen isod i archebu lle 

Mae Naomi Belshaw yn archwilio sut y gall cyfansoddwyr feithrin gyrfa lwyddiannus sy'n edrych y tu hwnt i'r gerddoriaeth maen nhw'n ei hysgrifennu, gan ystyried diffinio eu hunaniaeth gyhoeddus a manteisio ar rwydweithio strategol, presenoldeb yn y cyfryngau, ac adeiladu tîm i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a sicrhau comisiynau.

Mae Naomi Belshaw yn ymgynghorydd profiadol i gerddorion a chyfansoddwyr, ac mae’n arbenigo mewn datblygu gyrfaoedd. Hyfforddodd yn wreiddiol i fod yn archaeolegydd, ond esblygodd ei hangerdd at gerddoriaeth i fod yn yrfa ledled sector cerddoriaeth y DU, gan weithio gyda sefydliadau sy’n cynnwys PRS for Music, Sefydliad PRS, a WildKat PR.

 

Yn 2019, sefydlodd Naomi ei chwmni ymgynghori, gan gynnig cyngor strategol ar yrfa i artistiaid a chyfansoddwyr a hynny ar sail ei phrofiad eang mewn cyllido, curadu digwyddiadau, cyhoeddi, trwyddedu, breindaliadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Roedd hi’n un o dderbynyddion Rhaglen Cyflymydd MMF yn 2022, gyda chefnogaeth YouTube Music, ac mae hi ar hyn o bryd yn arwain menter i ehangu cyfleoedd ar gyfer cerddoriaeth glasurol gyfoes Brydeinig mewn cydamseriad ar draws teledu, ffilm, hysbysebu a gêmau. 

Mae Naomi yn dod â dealltwriaeth flaenllaw i’r diwydiant i’w gweithdai, gan dynnu ar ei gwaith diweddar sy’n cynnwys cadeirio panel ar gerddoriaeth glasurol yn y gofod digidol yn SXSW yn Austin, Texas. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Gŵyl y Tri Chôr ac yn perfformio fel feiolinydd gyda’r band roc The Wood Demons. 

bottom of page