Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640

erthygl CyM gan Geraint Lewis
Yn 2018 dathlwyd canmlwyddiant geni Dilys Elwyn-Edwards gydag arddeliad ac yn ganlyniad i’r sylw cyffredinol a gafodd ei gwaith fe gadarnhawyd ei safle fel un gyfansoddwyr lleisiol gorau Cymru. Mae nifer o’i chaneuon bellach yn perthyn i’r repertoire – yn Gymraeg ac yn Saesneg – ac y mae cantorion yn trysori ei gweithiau am eu saerniaeth gelfydd wrth greu llinellau lleisiol cofiadwy gyda’r fath ddealltwriaeth naturiol wrth osod geiriau. I ddechrau ar y daith o werthfawrogi gellid gwrando ar Mae hiraeth yn y môr a The Cloths of Heaven. Dyma ganeuon sy’n nodweddiadol o athrylith Dilys ar ei gorau.
Cafodd Dilys gefndir cerddorol naturiol yn ystod ei phlentyndod yn Nolgellau a bu athrawon arbennig yn ysgol Dr Williams yn ei thywys i fwynhau barddoniaeth ac i ddatblygu diddordeb mewn nifer o gyfansoddwyr blaenllaw’r cyfnod yn Lloegr – gyda Delius, Warlock a Vaughan Williams yn amlwg yn eu plith. Pan aeth ymlaen i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd fe deimlodd, fel Grace Williams o’i blaen, bod agwedd yr Adran at gyfansoddi creadigol yn geidwadol a chul. Cafodd Grace wedyn deimlad o ryddhad wrth fynd i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain gyda Ralph Vaughan Williams – fe glywodd ei waith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri ym 1920. Yn achos Dilys, fe ddarganfyddodd dirlun sain unigryw Herbert Howells wrth ganu ei anthem-garol ‘Here is the little door’ mewn côr yng Nghaerdydd. Er i’w gyrfa gael ei ysgwyd yn rhannol gan yr Ail Ryfel Byd fe ganfodd ei chyfeiriad eto wrth ennill ysgoloriaeth i astudio gyda Howells ei hun yn y Coleg Cerdd Brenhinol, gan ddilyn eto yn llwybr Grace Williams.
Un o gryfderau mawr Howells fel athro oedd y gallu i ddirnad beth oedd yn gynhenid i lais myfyriwr ac yn achos Dilys fe roddodd ei fys ar dinc moddawl yn ei halawon a’u harmoni mewnol – ac fe deimlodd bod hyn yn taro tant Celtaidd, er mai dylanwadau Seisnig oedd amlycaf yn ei gwaith. Ond yr oedd Howells yn driw i’w reddf - bu cryn ddiddordeb yn y ‘machlud Celtaidd’ ymhlith meistri fel Delius a Bax hyd at Moeran a Warlock ac yng ngwaith ffrind a mentor Howells ei hun Vaughan Williams – un a chanddo dras Cymreig wedi’r cyfan. Y gwaith cyntaf yr oedd Dilys yn hapus i’w arddel ac i’w gyhoeddi oedd The Bird of Christ, cân yn gosod geiriau gan Fiona Mcleod, ffugenw’r bardd Albanaidd William Sharp. Mae gan y gân lais personol trawiadol ac yr oedd Dilys yn falch iawn o’r darn ar hyd ei hoes.
Wedi sefydlu yn hapus, felly, ei llais cerddorol ei hun erbyn y 50au cynnar ni theimlodd Dilys reidrwydd i’w newid yn syfrdanol yn dilyn hynny, ac fe barhaodd yn wythien gyfoethog i’w chloddio dros yr hanner canrif nesa’ gyda gofal a chywreinrwydd neilltuol. Ar yr un pryd yr oedd yn hapus, hefyd, i’w gweld fel cyfansoddwr ar raddfa fechan oedd yn deall yn reddfol beth oedd natur ei dawn a’i dehongliad ohono. Ymhlith ei ffefrynnau ei hun oedd y Chwe Chân i Blant (1959) a ddaeth yn glasuron trwy Gymru gyfan ac a edmygwyd yn fawr gan Howells hefyd. Mae’r cylch Caneuon y Tri Aderyn bellach yn chwedlonol ac yn deillio o gomisiwn BBC yn 1962. Er bod yr olaf – Mae hiraeth yn y môr – bellach yn gyfystyr â’i henw, roedd Dilys ei hun yn fwy hoff o’r lleill – Y Gylfinir a Tylluanod.
Gyda’i dawn dihafal i feddwl ei hun yn greadigol ‘o fewn’ geiriau unrhyw gerdd, fe fyddai Dilys wedyn yn crisialu ei modd o’u gwisgo mewn cerddoriaeth unigryw sy’ wedi para trwy dreigl amser ac yn talu’r gwrandawr ar eu canfed.
1. Cedwir Archif Gerddorol Dilys Elwyn-Edwards yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
2. Ceir perfformiad proffesiynol cyntaf y Pedwar Symudiad Byr i Ffliwt a Phiano gan Duo Melus ar 17 Ebrill 2025 ym Mercers’ Hall, Llundain. gwybodaeth
Mae’r cyfansoddwr a’r awdur Geraint Lewis yn ysgutor cerddorol i stad Dilys Elwyn-Edwards





