top of page

CoDI Côr
llwybr sgiliau corawl

Yn galw ar grewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i gael cyfle i ddatblygu’n greadigol drwy gyfansoddi ar gyfer côr cymunedol

Mae’r llwybr hwn yn cynnig cyfle i 5 o grewyr cerddoriaeth o Gymru ddatblygu sgiliau wrth gyfansoddi gwaith sy’n newydd ac yn unigryw ar gyfer côr cymunedol, gan wneud hynny gyda’r mentor Nathan James Dearden a Côr ABC.

Mae corau cymunedol yn allweddol i gerddoriaeth yng Nghymru, ac yn hollbwysig i ddull democrataidd ein cenedl o greu cerddoriaeth. Mae’r rhan fwyaf o gorau cymunedol yn cynnwys aelodau o wahanol alluoedd a chefndiroedd.

Bydd y mentor Nathan James Dearden (sy’n gyfansoddwr/addysgwr) a Côr ABC o Aberystwyth yn gweithio gyda’r artistiaid a ddewisir i ddatblygu’r darnau newydd.

Mae Côr ABC yn gweithio’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd o leiaf ddau o’r cyfansoddwyr a ddewisir yn ymrwymo i ysgrifennu gwaith yn y Gymraeg.

Mae croeso i artistiaid sy’n defnyddio dulliau arbrofol/di-nodiant wneud cais, yn ogystal â’r rhai sy’n defnyddio nodiant cerddorol safonol.

Os credwch fod gennych chi rywbeth diddorol i’w gyfrannu at gôr cymunedol – gwnewch gais!

​YNGHYLCH Y LLWBR

Byddwn yn dechrau pethau mewn bŵt-camp deuddydd yn hyfforddi sgiliau corawl [dydd Llun 3ydd a dydd Mawrth 4ydd Tachwedd] yn ein Stiwdio yn Nhŷ Cerdd (yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd). Bydd y rhain yn sesiynau bywiog, llawn gwybodaeth, yn edrych ar wahanol ddulliau o ysgrifennu ar gyfer corau. Byddwn hefyd yn ymweld â Chôr Cenedlaethol Cymru’r BBC wrth iddyn nhw ymarfer gyda’r nos ar y 4ydd Tachwedd, i gael blas o waith grŵp mawr sydd â chlyweliadau i ymuno ag ef.

Yna bydd y crewyr cerddoriaeth yn mynd ati’n annibynnol i ddatblygu eu darnau newydd, gyda chefnogaeth un-i-un gan Nathan James Dearden ac aelodau tîm Tŷ Cerdd.

Ar ddechrau 2026, bydd dau weithdy diwrnod llawn yn Aberystwyth gyda Chôr ABC – byddwn yn darparu llety a threuliau teithio i’r rheiny sydd eu hangen. A byddwn hefyd yn cynnal sesiwn olaf i rannu’r holl waith. Dyma’r dyddiadau:

  • Dydd Sadwrn 28 Chwefror - gweithdy #1

  • Dydd Sadwrn 28 Mawrth - gweithdy #2

  • Dydd Sadwrn 9 Mai - gweithdy olaf / digwyddiad rhannu

Bydd pob cyfansoddwr sy’n cymryd rhan yn cael tâl o £1,000 (yn ogystal â threuliau teithio o fewn Cymru, a llety lle bo angen).

Diweddariad: I ddysgu mwy am y cyfle hwn, gallwch gwylio’n sesiwn wybodaeth ar-lein o ddydd Llun 14 Gorffennaf FAN HYN.
PAM NI?
  • Gan mai ni yw Canolfan Gerdd Cymru, mae Tŷ Cerdd wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu cerddoriaeth Gymreig newydd o bob math – wedi’i hatgyfnerthu gan ein mantra, “Os ydych chi’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, mae’n gerddoriaeth Gymreig!”

  • Nathan James Dearden– cyfansoddwr/addysgwr o Gymru (darlithydd mewn Cyfansoddi, y Royal Holloway) ac mae ganddo gryn brofiad o ysgrifennu ar gyfer corau o wahanol alluoedd a dulliau.

  • Côr ABC – côr cymysg, cymunedol wedi’i leoli yn Aberystwyth ac sy’n gweithio’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, dan yr arweinydd Louise Amery.

PWY SY'N GYMYWS
  • Rydych chi’n grëwr cerddoriaeth o Gymru. Os ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol ac wedi bod yn byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn (neu os cawsoch eich geni yng Nghymru ond yn byw yn rhywle arall), rydych chi’n gymwys. Bydd bwrsariaethau treuliau ar gael i artistiaid deithio o fewn Cymru. Sylwer: ni fyddwn yn talu treuliau teithio y tu allan i Gymru.

  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth nad yw eu gwaith yn cynnwys nodiant cerddoriaeth safonol (e.e. artistiaid sy’n gweithio gyda gweithfan sain ddigidol) yn ogystal â cheisiadau gan artistiaid sy’n defnyddio nodiant.

  • Rhaid i chi fod ar gael i ymrwymo i’r dyddiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y llwybr.

Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych ambell gwestiwn…

…gallwn gael sgwrs â chi dros y ffôn neu ar Zoom. Anfonwch e-bost neu ffoniwch i drefnu sgwrs.

SUT I YMGEISIO

Lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH ar-lein

1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, ynghyd â chadarnhad eich bod dros 18 oed.

2. Dywedwch wrthym am eich gwaith: Rhowch wybod beth rydych chi wrth eich bodd yn ei wneud fel artist/crëwr cerddoriaeth a beth rydych chi wedi bod fwyaf balch ohono. Fel rhan o’ch ateb, dywedwch wrthym a ydych chi’n defnyddio nodiant cerddorol ai peidio, neu sut rydych chi’n creu eich gwaith. (Dim mwy na 200 gair)

3. Pam fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o’r llwybr hwn?

  • Dywedwch wrthym beth hoffech ei ddysgu drwy’r llwybr hwn, a sut yr ydych yn gobeithio y gallai effeithio ar eich gwaith.

  • Beth ydych chi’n teimlo sydd gennych i’w gyfrannu at gôr cymunedol?

  • Fel rhan o’ch ateb, dywedwch wrthym a hoffech gael eich ystyried i osod gwaith yn y Gymraeg fel rhan o’r llwybr, a pham. (dim mwy na 400 gair)

 

4. Enghreifftiau o’ch gwaith: plîs danfonwch ddolenni i ddau ddarn o'ch cerddoriaeth (sylwer: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch ag ymholiadau@tycerdd.org.)

5. A oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad? Dywedwch wrthym os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn y llwybr. Rydym hefyd yn eich gwahodd i rannu a thrafod eich dogfen hygyrchedd a’ch gofynion mynediad gyda ni ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r panel oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd i hynny. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch mynediad neu ynghylch rhannu’r wybodaeth hon, anfonwch e-bost at ein Rheolwr Datblygu Artistiaid, Freya Dooley (freya.dooley@tycerdd.org).

Noder: rydym yn croesawu ceisiadau drwy fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 4 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1, 4 a 5 ar y ffurflen i’w lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, cysylltwch â Freya Dooley neu ymholiadau@tycerdd.org i gael cymorth.

 

AMSERLEN A'R BROSES
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 ganol dydd, dydd Mercher 6 Awst

  • ​Y panel fydd Nathan Dearden, Louise Amery (arweinydd Côr ABC) a Deborah Keyser a Freya Dooley (Tŷ Cerdd).

  • Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi erbyn dydd Gwener 22 Awst.

Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych ambell gwestiwn…

…gallwn gael sgwrs â chi dros y ffôn neu ar Zoom. Anfonwch e-bost at Freya Dooley neu ymholiadau@tycerdd.org er mwyn i ni drefnu galwad ffôn. Rydym am gael gwared ar gymaint o rwystrau ag y gallwn – felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.​​​​​​​

CoDI 2025-26 logo strip_edited.png

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

bottom of page