Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Mae Tŷ Cerdd yn galw ar artistiaid, cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth sydd wedi dysgu eu hunain / heb gael hyfforddiant ac sydd eisiau gweithio gyda pherfformwyr mewn cerddorfa. Dyma’r eildro i ni gynnal Llwybr i’r Gerddorfa, yn dilyn llwyddiant ac effaith y rhaglen yn 2023-24.
-
A oedd hyfforddiant prifysgol neu gonservatoire ffurfiol heb fod yn rhan o’ch llwybr i greu cerddoriaeth?
-
Ydych chi’n gallu darllen cerddoriaeth, hyd yn oed os ydych chi’n newydd i weithio gyda sgôr?
Dyma’r llwybr i chi o bosibl!
Efallai eich bod…
-
yn artist neu’n gyfansoddwr sy’n gweithio ym maes electroneg sydd eisiau dysgu sut i weithio gyda pherfformwyr a throsglwyddo syniadau i offerynnau’r gerddorfa (clarinét, ffidil, soddgrwth a phiano)...
-
…neu eich bod yn ganwr-gyfansoddwr hunanddysgedig sydd eisiau ychwanegu ehangder a lliw at eich sain trwy offerynnau...
-
…neu eich bod yn artist arbrofol sy’n gweithio gyda sain/cerddoriaeth ac sydd wedi dod i gyfansoddi trwy ffurfiau celf eraill, fel y celfyddydau gweledol, perfformiadau byw, ac ymarfer DIY.
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi wynebu rhwystrau yn sectorau’r celfyddydau/cerddoriaeth. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, pobl Dduon, Asiaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang, pobl LGBTQIA+, a phobl â chefndiroedd economaidd-gymdeithasol is neu sydd â rhwystrau economaidd-gymdeithasol parhaus i’w gwaith creadigol.
YNGHYLCH LLWBR I'R GERDDORFFA
Drwy gyfres o sesiynau mentora un-i-un gyda’r gyfansoddwraig Lynne Plowman – ynghyd ag adnoddau a sesiynau atodol gan Tŷ Cerdd a phartneriaid y prosiect Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – bydd pedwar crëwr cerddoriaeth yn cael hyfforddiant a sesiynau pwrpasol i ddatblygu sgiliau cyfansoddi ar gyfer offerynnau cerddorfaol (clarinét, ffidil, soddgrwth a phiano).
Bydd pob cyfansoddwr sy’n cymryd rhan yn cael tâl o £600 (yn ogystal â threuliau teithio o fewn Cymru, a llety lle bo angen).
Yn ogystal â’r sesiynau mentora un-i-un gyda Lynne, bydd y prosiect yn cynnwys ymweliadau grŵp â pherfformiadau BBC NOW a gweithdai gydag ensemble siambr perfformwyr BBC NOW, ynghyd â sesiynau gyda BBC NOW a chefnogaeth arbenigol gan staff Tŷ Cerdd.
DYDDIADAU A LLEOLIAD
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal o ddechrau Hydref 2025 i fis Ebrill 2026 (dyddiadau i'w gadarnhau).
Trefnir dyddiadau’r sesiynau mentora 1-i-1 ar ôl recriwtio’r cyfranogwyr, ond rhaid i bob cyfranogwr fod ar gael i fynychu ar y dyddiadau canlynol:
Gweithdai:
-
10 Hydref 2025 – hanner diwrnod i ddechrau pethau yng Nghaerdydd
-
27 Ionawr 2026
-
22 Ebrill 2026
Cyngherddau BBC Now (gyda’r nos):
-
6 Tachwedd: cyngerdd #1 (Abertawe)
-
20 Tachwedd: cyngerdd #2 (Caerdydd)
-
27 Tachwedd: cyngerdd #3 (Caerdydd)
-
8 Ionawr (Caerdydd)
-
Cyfansoddi: Cymru 11-13 Ionawr a 19 Chwefror (Caerdydd)
Diweddariad: I ddysgu mwy am y cyfle hwn, gallwch gwylio’n sesiwn wybodaeth ar-lein o ddydd Llun 14 Gorffennaf FAN HYN.
PAM NI?
-
Gan mai ni yw Canolfan Gerdd Cymru, mae Tŷ Cerdd wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu cerddoriaeth Gymreig newydd o bob math – wedi’i hatgyfnerthu gan ein mantra, “Os ydych chi’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, mae’n gerddoriaeth Gymreig!”
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yw’r gerddorfa symffoni genedlaethol, ac mae’n buddsoddi yn natblygiad cyfansoddwyr, yn enwedig drwy gynllun Cyfansoddi: Cymru y BBC, sef ei llwyfan datblygu artistiaid. Bydd y fersiwn nesaf o Cyfansoddi: Cymru ar waith yn gynnar yn 2026, ac mae’r galwad agored i artistiaid ar agor ar hyn o bryd.
-
Lynne Plowman – cyfansoddwraig flaenllaw sy’n byw yng Nghymru. Caiff ei gwaith ei berfformio’n aml ar lwyfannau ledled y byd. Mae hi’n diwtor cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gyfansoddwr preswyl ar gyfer cynllun arloesol Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed.
PWY SY'N GYMWYS
-
mewn conservatoire, ac rydych yn awyddus i ddod â gwead cerddorfaol i’ch gwaith.
-
Mae croeso i gyfansoddwyr o unrhyw genre cerddorol, er y byddwch yn gyfarwydd â nodiant cerddorol ac/neu’n ei ddefnyddio’n rheolaidd.
-
Rydych chi’n grëwr cerddoriaeth o Gymru. Os ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol ac wedi bod yn byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn (neu os cawsoch eich geni yng Nghymru ond yn byw yn rhywle arall), rydych chi’n gymwys. Bydd bwrsariaethau treuliau ar gael i artistiaid deithio o fewn Cymru. Sylwer: ni fyddwn yn talu treuliau teithio y tu allan i Gymru.
-
Rhaid i chi fod ar gael i ymrwymo i’r dyddiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y llwybr a rhaid mynychu yn y cnawd.
Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych ambell gwestiwn…
…gallwn gael sgwrs â chi dros y ffôn neu ar Zoom. Anfonwch e-bost neu ffoniwch i drefnu sgwrs.
SUT I YMGEISIO
Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho’r wybodaeth ganlynol ar ein PORTH ar-lein.
Sylwer: Rydym yn eich cynghori i baratoi a chadw’ch atebion mewn dogfen ar wahân o flaen llaw, gan na fyddwch yn gallu cadw’ch cais wrth ei lenwi ar y porth.
1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, ynghyd â chadarnhad eich bod dros 18 oed ac nad ydych wedi astudio cyfansoddi mewn prifysgol na chonservatoire (neu sefydliad arall ar ôl yr ysgol).
2. Dywedwch wrthym am eich gwaith: rhowch wybod beth rydych chi wrth eich bodd yn ei wneud fel artist/crëwr cerddoriaeth, a beth rydych chi wedi bod fwyaf balch ohono yn eich gwaith. (Dim mwy na 200 gair)
3. Pam hoffech chi fod yn rhan o’r llwybr hwn? Dywedwch wrthym beth yr hoffech chi ei ddysgu drwy’r llwybr hwn. Fel rhan o’ch ateb, esboniwch ychydig am eich gwybodaeth/profiad o ddefnyddio nodiant cerddorol. Efallai yr hoffech chi feddwl am y canlynol:
-
Sut ydych chi’n gobeithio y bydd y cyfle hwn o fudd i’ch gwaith yn y tymor byr a’r tymor hir?
-
Pam fod nawr yn amser da ar gyfer y cyfle hwn?
-
Beth sy’n apelio atoch chi am weithio fel rhan o griw?
-
Beth fydd offerynnau’r gerddorfa yn ei ychwanegu at eich ymarfer creadigol?
(dim mwy na 400 gair)
4. Enghreifftiau o’ch gwaith: plîs danfonwch ddolenni i ddau ddarn o'ch cerddoriaeth (sylwer: anfonwch ddolenni ac nid ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch ag ymholiadau@tycerdd.org.)
5. Rhowch wybod os ydych angen unrhyw gymorth mynediad er mwyn eich galluogi i gymryd rhan yn y cyfle hwn. Rydym yn eich gwahodd i rannu a thrafod eich dogfen hygyrchedd a’ch gofynion mynediad gyda ni ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r panel. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch mynediad neu ynghylch rhannu’r wybodaeth hon, anfonwch e-bost at ein Rheolwr Datblygu Artistiaid, Freya Dooley (freya.dooley@tycerdd.org).
Noder: rydym yn croesawu ceisiadau drwy fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 5 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1, 4 a 5 ar y ffurflen i’w lanlwytho.
Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, cysylltwch â Freya Dooley neu ymholiadau@tycerdd.org i gael cymorth.
YR AMSERLEN A'R BROSES
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 canol dydd, dydd Mercher 6 Awst
-
Bydd y panel yn cynnwys Lynne Plowman, Tom Elstob (crëwr cerddoriaeth; cyfranogwr blaenorol Llwybr i’r Gerddorfa) a Deborah Keyser (Tŷ Cerdd)
-
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad erbyn dydd Gwener 22 Awst.
Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych ambell gwestiwn…
…gallwn gael sgwrs â chi dros y ffôn neu ar Zoom. Anfonwch e-bost at Freya Dooley neu ymholiadau@tycerdd.org i ni drefnu galwad ffôn. Rydym am gael gwared ar gymaint o rwystrau ag y gallwn – felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network