top of page
Composer of the Month rectangle Grace Williams CYM_edited.jpg

gan Peter Reynolds

 

Ychydig o gyfansoddwyr sydd wedi dal awyrgylch Cymru mor effeithiol â Grace Williams. Wedi’i geni yn y Barri yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, mae ei gwaith yn anadlu awyr y byd yr oedd hi’n ei adnabod fel plentyn. Yn ddiweddarach yn ei bywyd, soniodd am sut y dylanwadodd môr ac arfordir De Cymru ar ei cherddoriaeth, "ei rythmau a llinellau hir a'i lliwiau" a sut y gellid olrhain ei chariad at y trwmped yn ôl i Barri'r Rhyfel Byd Cyntaf, "llawn o wersylloedd hyfforddi a bataliynau yn gorymdeithio drwy'r strydoedd."

Er ddychwelodd Grace Williams i'r Barri ym 1947, treuliodd y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd yn Llundain lle mynychodd y Coleg Cerdd Frenhinol a gweithiodd fel athrawes ysgol. Yn ystod y cyfnod hwn daeth i gysylltiad â datblygiadau diweddaraf y byd cerddoriaeth, enillodd ysgoloriaeth i astudio gydag Egon Wellesz yn Fienna ac roedd yn ffrind i’r Benjamin Britten ifanc. Arweiniodd afiechyd yn y blynyddoedd a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd at ddychwelyd hi i Gymru. Dyma'r adeg y daeth o hyd i'w llais personol y bu'n chwilio amdano ers amser maith, a gan ddechrau gyda Penillion yn 1955, cynhyrchodd gyfres o weithiau hynod bersonol a nodweddiadol gan arwain, ym 1971, at Missa Cambrensis – gwaith sy'n cael ei danamcangyfrif o hyd. Yr oedd ei bywyd yn un llym ac ymroddgar i'w chelfyddyd; dywedodd unwaith wrth Daniel Jones, "I have a bed-sitter mentality." Ond o'r ffordd gynnil hon o fyw y deilliodd cerddoriaeth, yn aml o angerdd mawr ac unigoliaeth ffyrnig, sy'n dal i gadw lle arbennig ym myd cerddoriaeth Cymru.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio ail symffoni Grace Williams yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd ar nos Iau 2 Tachwedd 2023.  Gwybodaeth a thocynnau

▶ Erthygl ail Symffoni Grace Williams

SELECTED WORKS

▶ Sea Sketches (1944) 

Cyfres pum symudiad ar gyfer cerddorfa linynnol yn darlunio gwahanol naws y môr.

▶ Penillion (1955)

Cerdd symffonig a ysgrifennwyd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940)

Gwaith mwyaf poblogaidd Williams.

▶ Sonatina for flute and piano (1931)

Gwaith tri symudiad yn arddangos cwmpawd llawn ac amrediad deinamig yr unawd ffliwt.

▶ Missa Cambrensis (1971) 

Magnum opus Williams sy'n plethu testunau Cymraeg a Lladin.

▶ The Parlour (1961) 

Opera un act yn seiliedig ar stori fer gan Guy de Maupassant.

DARLLEN PELLACH

▶ Proffil Grace Williams Darganfod Cerddoriaeth Cymru

Beryl H. Griffiths, Mamwlad (Gwasg Carreg Gwalch Llanrwst 2016), pp. 182-202

Erica Jeal ▶ Grace Williams: Chamber Works review – don't take this neglected Welsh composer at her word! The Guardian, 7 Mawrth 2019

Mansel Thomas, ▶ Cyfansoddwyr Ieuainc Cyfoes, Tir newydd, rhif 7, Chwefror 1937, pp.3-6

Erthygl Wikipedia: ▶ Grace Williams

Archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru: ▶ Llawysgrifau Grace Williams Music Manuscripts

SIOP

▶ Cerddoriaeth ddalen

Mae cerddoriaeth Grace Williams wedi'i chynnwys ar y disgiau Tŷ Cerdd hyn:

bottom of page