top of page
Tradd CoLab_edited.png

Detholiad Artist CoDI - Tradd CoLab Artist Selection

Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r artistiaid sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn Tradd CoLab gyda Tŷ Cerdd. Dros dri phreswyliad dau ddiwrnod yn stiwdio Tŷ Cerdd, mae nhw wedi yn dod ynghyd i rannu eu traddodiadau cerddorol, archwilio syniadau newydd, a gweld i ba gyfeiriad gall cydweithio eu harwain.

 

We’re delighted to introduce the artists selected to take part in Tradd CoLab at Tŷ Cerdd. Over three two-day residencies at the Tŷ Cerdd studio they came together to share their musical traditions, explore new ideas and see where collaboration might lead. 

Aneirin Jones

O Bontardawe yn wreiddiol, dechreuodd chwarae’r ffidil yn 7 mlwydd oed. Cafodd Aneirin fagwraeth gerddorol ddwys trwy fynychu sesiynau gwerin leol yn ei leoldir. Astudiodd BMus yng Ngherddoriaeth Draddodiadol (‘Traditional Music’) yn y Royal Conservatoire of Scotland yng Nglasgow, cyn dychwelyd yn nol i Gymru. Fel aelod o’r triawd Siambr-Werin Vrï, mae wedi mwynhau gyrfa gyffrous iawn yn barod. Enillodd albymau stiwdio’r band ‘Islais a Genir’ a ‘Tŷ ein Tadau’ (“ALBWM GORAU”), dwywaith yng Ngwobrau Gwerin Cymru (2019 a 2023). Maent wedi perfformio ar nifer o lwyfannau rhyngwladol (o Ganada, Llydaw i India i enwi rhai) a nifer o deithiau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae Aneirin yn diwtor ffidil brofiadol iawn, yn tiwtora ar gyrsiau “Ffidil Fawr” (cwrs preswyl llinynnol dechreuwyd gan y triawd) a Gwerin Gwallgo (cwrs gwerin ieuenctid Trac Cymru yng Nglan-llyn) am nifer o flynyddoedd. Mi roedd Aneirin yn un o’r flynyddoedd cyntaf aeth i Gwerin Gwallgo (tra’n harddegwr nol yn 2015). Mae’n bleser mawr iddo ddychwelyd nol i ddysgu’r genhedlaeth nesaf o gerddorion werin. Yn ogystal, mae Aneirin nawr yn dechrau’r siwrne gyffrous fel artist yn enw ei hun. Mae o hyd yn cael gwefr o ail-ddehongli hen alawon, ac yn cyfansoddi rhai newydd hefyd, wedi’i ysbrydoli gan ei leoldir a phrofiadau fel cerddor.

Hailing from Pontardawe originally, Aneirin started playing the fiddle at aged 7, having a strong musical upbringing attending local Welsh trad. sessions in the Swansea Valley (‘Cwmtawe’) (as well as school orchestra and classical lessons). He studied a BMus in Traditional Music at the Royal Conservatoire of Scotland in Glasgow, then returning to Wales. As a member of the chamber-trad string-trio Vrï, he’s already enjoyed a very exciting career as a traditional musician. The band’s studio releases ‘Islais a Genir’ and ‘Ty Ein Tadau’ both won “Best Album” at the Wales Folk Awards (2019 and 2023). They’ve performed in many parts of the world on international stages (from Canada, Brittany to India to name a few) and many tours across the UK. Aneirin is also a very experienced fiddle tutor, teaching on courses such as “Ffidil Fawr” (a residential string course started by the trio) and Gwerin Gwallgo (TRAC Cymru’s Youth Residential Folk Course in Glanllyn) for many years. Aneirin was the first wave of musicians to attend Gwerin Gwallgo (as a teenager in 2015). It is a huge pleasure for him to return as a tutor, teaching the next generation of traditional musicians. Aneirin is also now embarking on an exciting journey as a solo artist. For Aneirin, there’s a never-ending buzz in giving new life to very old melodies. He also composes his own tunes, inspired from his locality and life-experiences as a musician.

vri studio 2022 _jenniecaldwell87_edited.jpg
awen_25-9639_edited.jpg

Awen Blandford

Mae Awen yn soddgrythor a chantores lawrydd sydd wedi’i lleoli ym Manceinion. Yn raddedig o’r RNCM, mae ei gwaith perfformio wedi mynd â hi i ganolfannau ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gydweithio ar brosiectau sy’n amrywio o fandiau roc i gynyrchiadau dawns. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae ei gwaith presennol yn canolbwyntio ar ailgysylltu yn ddwfn â cherddoriaeth draddodiadol Cymru, sy’n llywio ei hymarfer creadigol a’i haddysgu. Ar hyn o bryd mae Awen yn mwynhau perfformio’n rheolaidd gyda’r artistiaid gwerin uchel eu parch Anna McLuckie, Mikey Kenney a Seamus Óg. Mae Awen hefyd yn gweithio fel therapydd cerdd gyda phobl ifanc, rôl sy’n llywio ei chred mewn cerddoriaeth fel offeryn pwerus ar gyfer cysylltu, mynegiant a lles.

Awen Blandford is a Manchester based freelance cellist and singer. A graduate of the RNCM, her performance work has taken her to venues across the UK and internationally, collaborating on projects ranging from rock bands to dance productions. Originally from North Wales, Awen’s work centres on a deepening reconnection with Welsh traditional music, which shapes her creative practice and teaching. She currently enjoys performing regularly with esteemed folk artists, Anna McLuckie, Mikey Kenney, and Seamus Óg. Awen currently works as a music therapist with young people, a role that informs her belief in music as a powerful tool for connection, expression and wellbeing.

Ayoub Boukhalfa

Mae Ayoub Boukhalfa yn ganwr a pherfformiwr cwiar o Foroco. Mae e’n hwylusydd ar gyfer Côr Wales One World ac yn aelod o Coronation Choir. Mae Ayoub wedi gweithio gyda National Theatre Wales ar eu cynhyrchiad Cost of Living, ac wedi hwyluso gweithdai gyda Theatr y Sherman. Ei arddull canu yw Chaabi Morocaidd. Mae Ayoub yn angerddol dros ddefnyddio ei gerddoriaeth i greu byd mwy cynhwysol a theg. Mae e’n credu bod gan gerddoriaeth y grym i ddod â phobl ynghyd ac i herio ystrydebau. Cafodd Ayoub ei bleidleisio i frig rhestr Binc yr LGBTQ+ fel un o’r bobl hoyw ifanc fwyaf dylanwadol a blaengar yng Nghymru. Mae’n ymrwymedig i ddefnyddio ei lwyfan i godi lleisiau cymunedau sydd ar y cyrion. Mae Ayoub yn ganwr a pherfformiwr dawnus gyda dyfodol disglair o’i flaen, ac mae e’n sicr o barhau i greu argraff fawr yn y diwydiant cerddoriaeth.

Ayoub Boukhalfa is a queer Moroccan singer and performer. He is a facilitator for the Oasis One World Choir and a member of the Coronation Choir. He has worked with National Theatre Wales on their production of Cost of Living and has facilitated workshops with Sherman Theatre. His singing style is Moroccan Chaabi. Ayoub is passionate about using his music to create a more inclusive and equitable world. He believes that music has the power to bring people together and to challenge stereotypes. Aouyb found himself voted to the top of the LGBTQ+ pinc list as one of the most influential up and coming gay people in Wales. He is committed to using his platform to amplify the voices of marginalised communities. Ayoub is a talented singer and performer with a bright future ahead of him. He is sure to continue to make waves in the music industry.

Ayoub_edited.jpg
Elin G_edited.jpg

Elin Gittins

Mae Elin yn gantores, yn gyfansoddwr ac yn gerddor aml-offerynnol sydd a’i gwreiddiau mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Mae ei hymarfer yn benthyg o ymchwil archifol, gan ail-ddychmygu caneuon sydd yng nghlwm i le, hanes a defod. Mae hi hefyd yn ysgrifennu caneuon Cymraeg eu hiaith sydd yn aml wedi’u hysbrydoli gan dirwedd cefn gwald canolbarth Cymru, Trwy diwnio agored a threfniannau aml-haenog drwy ei gwaith gydag Elin & Carys, mae hi’n anrhydeddu traddodiad, tra’n mwynhau’r broses greadigol o ddefnyddio deunydd traddodiadol i danio rhywbeth newydd.

Elin is a singer, songwriter and multi-instrumentalist rooted in Welsh folk music. Her practice draws on archival research, reimagining songs tied to place, history and ritual. She also writes original Welsh-language songs often inspired by the landscape of rural mid Wales. Through open tunings and textured arrangements with her work with Elin & Carys, she honors tradition while enjoying the creative process of using traditional material as a springboard to create something new.

Elin Hâf

Elin Hâf ydw'i, cerddor llawrydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru. Rwyf yn mwynhau cerddoriaeth o bob math, ond y sielo yw fy nghariad cyntaf. Dechreuais gwersi pan roeddwn yn 7, ac mae hyn wedi agor y drws at lawer o brofiadau gwerthfawr ac fy arwain i at y gyrfa amrywiol rwyf nawr yn mwynhau. Fy mwriad fel cerddor yw rhannu cerddoriaeth gyda'g eraill, boed hynny drwy berfformio, recordio i eraill, addysgu neud gynnal gweithdai cerdd o fewn y gymuned.

I'm Elin Hâf, a freelance musician based in North Wales. I enjoy all kinds of music, but the cello is my first love. I started lessons when I was 7, and this has opened the door to many valuable experiences and led me to the varied career I now enjoy. My intention as a musician is to share music with others, whether that be by performing, recording for others, teaching or holding music workshops within the community.'

Elin T_edited.jpg
Elinor_edited.jpg

Elinor Roderick

Mae Elinor Roderick yn ffidlwr o Gaerdydd sy’n gweithio ar draws traddodiadau gwerin a chlasurol. Cafodd ei hyfforddi’n glasurol wrth dyfu i fyny, ond dros y pum mlynedd diwethaf mae ei hymarfer wedi’i wreiddio’n gadarn mewn cerddoriaeth draddodiadol, yn enwedig arddulliau Cymreig, Albanaidd a Gwyddelig, gyda throeon i gerddoriaeth y byd gan gynnwys Klezmer, Lladin ac Old-Time. Graddiodd gyda BMus o Brifysgol Caeredin, lle y bu’n ymgolli’n llwyr mewn sesiynau gwerin, bandiau ceilidh a mordeithiau cerddorol ar longau hwylio gyda Sessions and Sail (yn gyntaf fel enillydd bwrsari, ac erbyn hyn fel aelod o’r criw). Ers dychwelyd i Gymru, mae wedi ymgolli yn y sin werin Gymreig: yn perfformio gyda Mari Mathias, yn sefydlu band newydd (CANNA), yn cyfeilio twmpathau, yn gwirfoddoli gyda Ffidil Fawr ac yn dysgu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig i bobl ifanc drwy Trac Cymru. Yn ogystal â pherfformio, mae’n gerddor cymunedol gyda Cherddorfa Dovetail ac yn rhan o’r rhwydwaith Ethno sy’n adeiladu cymunedau cerddorol ar draws diwylliannau a ffiniau.

Elinor Roderick is a fiddler from Cardiff who works across folk and classical traditions. She was classically trained growing up, but over the past five years her practice has been firmly rooted in traditional music, particularly Welsh, Scottish and Irish styles, with twists to world music including Klezmer, Latin and Old-Time. He graduated with a BMus from Edinburgh University, where he immersed himself completely in folk sessions, ceilidh bands and musical cruises on sailing ships with Sessions and Sail (first as a bursary winner, and now as a crew member). Since returning to Wales, he has immersed himself in the Welsh folk scene: performing with Mari Mathias, founding a new band (CANNA), accompanying humps, volunteering with Ffil Fawr and teaching traditional Welsh music to young people through Trac Cymru. As well as performing, he is a community musician with the Dovetail Orchestra and part of the Ethno network, building musical communities across cultures and borders.

Jo Cooper

Mae Jo yn gerddor aml-offerynnol wedi’i lleoli yn Ynys Môn, sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth Gymreig ond sy’n mwynhau alawon o lawer o draddodiadau. Fe dyfodd hi i fyny’n gwrando ar sŵn y môr, y gwynt yn ysgwyd ffenestri sâr, a’r synau dirgel mewn hen fferm yng ngorllewin gwyllt Cymru, gan fynd allan i chwarae cerddoriaeth Wyddelig a Chymreig mewn sesiynau tafarn lleol ers bod yn ifanc. Fe roddodd yr amser a dreuliodd yn perfformio ledled y DU a’r byd y cyfle iddi wella ei sgiliau tra’n profi pŵer cerddoriaeth draddodiadol i greu cymunedau lleol a rhyngwladol.

Jo is an Anglesey based multi-instrumentalist, focussed on Welsh music but enjoying tunes from many traditions. She grew up listening to the sounds of the sea, the wind rattling sash windows and mysterious creaks in an old farm house in wild west Wales, venturing out to play Irish and Welsh music in local pub sessions from a young age. Time spent playing around the UK and the world allowed her to hone her skills while experiencing the power of traditional music to foster local and international communities.

Jo Cooper_edited.jpg
Yasmine_edited.jpg

Yasmine Latkowski

Mae Yasmine Latkowski yn gyfansoddwr a pherfformiwr uchel ei pharch sy’n adnabyddus am ei chyfansoddiadau swynol. Mae hi’n cyfuno ysbrydoliaeth ddiwylliannol amrywiol yn ei cherddoriaeth, gan greu cysylltiadau ystyrlon ar draws nifer o blatfformau. Wedi ei hysbrydoli gan ei threftadaeth ddeuol ac alawon hudolus cerddoriaeth y dwyrain Canol, mae hi ar antur gerddorol, yn cyfansoddi gwaith ar gyfer Ffilmiau Dogfen Byd-eang A theatr drochol, gan fewnosod cymunedau yng Nghymru. Mae Yasmine yn gweithio ar brosiectau sy’n mynd i'r afael â materion cymdeithasol dwys sy’n galw am newid. Mae hi wedi cydweithio â’r Cenhedloedd Unedig ar brosiect o’r enw 'Change Will Change Her Life', mae hi wedi cymryd rhan mewn prosiect Global Health Film o’r enw 'Forged in Syria', wedi cyfrannu at broeisct Humanitarian Leadership Academy o’r enw 'Gender in Conflict', ac wedi partneru ag elusen o’r enw 'Saving Moses'. Mae cyfraniadau Yasmine I'r diwydiant cerdd wedi rhoi enw da iawn iddi, gan gynnwys eitemau ar blatfformau arobryn megis y Cenhedloedd Unedig, BBC Africa Eye, BBC Panorama, a National Theatre Wales. Mae hi hefyd wedi gweithio ar brosiectau trochol gyda National Theatre Wales a chymuned gemau Cymru Greadigol. Yn ogystal, mae’r gân "Atamanaa," sy’n golygu “dwi’n gobeithio," wedi cael ei defnyddio mewn ysgolion mewn ardaloedd amrywiol o ran ethnigrwydd, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chynefin, i ddysgu safbwyntiau newydd i ddisgyblion. Mae Yasmine yn cydweithio â cherddorion sesiwn arobryn ar gyfer ei chyfansoddiadau, gan gynnwys Joelle Barker, Tim Garside, a’r band Klezmer She’Koyokh, gan ddod ag offeryniaeth ddilys o ranbarthau’r dwyrain canol a Dwyrain Ewrop. Mae Nathan Hilton o West One Music yn disgrifio’i cherddoriaeth hi fel dilys a dyrchafol, cerddoriaeth sy’n adlewyrchu ei hymrwymiad i greu darnau prydferth o gelf. Yn ei phrosiect band nesaf, "Panedeni," mae Yasmine wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru i bontio’r bwlch rhwng dylanwadau cerdd Arabaidd, Saesnig a Chymreig. Mae Yasmine wedi cydweithio â cherddorion a threftadaeth Arabaidd a Chymreig, megis Rickard (Lo Fi Jones) ac Ayoub Boukhalfa (Wales One World Choir, National Theatre Wales). Mae Panedeni’n argoeli’n gyfuniad cyffrous o gerddoriaeth Gymreig ac Arabaidd a straeon hudolus fydd yn sicr o gyfrannu at ei gallu cerddorol arbennig i adrodd straeon ac at ei gwaddol cerddorol o bwys. Bydd ei pherfformiadau yn swyno cynulleidfaoedd mewn digwyddiadau megis Focus Wales, Eisteddfod Ryngwladol a Gŵyl Ymylol Llangollen.

Yasmine Latkowski, a media composer and performer, blends diverse cultural influences into her music, creating meaningful connections. Inspired by her dual heritage and Middle Eastern melodies, she composes for documentaries, theatre, and community projects in Wales. She tackles social issues, collaborating with the UN, Global Health Film, Humanitarian Leadership Academy, and the charity Saving Moses.

Carys Gittins

Mae Carys Gittins yn ffliwtydd o Gymru sy’n gweithio fel cerddor siambr, gwerin a cherddorfaol ledled y DU ac yn rhyngwladol. Fe astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf, cyn ennill ei gradd Meistr gyda rhagoriaeth. Yn ystod ei hastudiaethau, fe enillodd Wobr Ffliwt Ken Smith tair blynedd yn olynol, ac fel enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ddiweddar mae Carys wedi teithio gyda Sinfonia Cymru ochr yn ochr â Catrin Finch, Patrick Rimes a Hannan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â’i gwaith cerddorfaol, mae hi’n brysur yn perfformio fel cerddor siambr hefyd, ac mae hi wedi bod yn aelod o Driawd Aglica am fron i ddegawd, gan berfformio’n eang yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae uchafbwyntiau’n cynnwys taith ddwys o Wlad Belg ac ymddangosiadau yn Fforwm Gerddoriaeth Cenedlaethol yn Wrocław. Mae hi hefyd yn perfformio’n rheolaidd fel deuawd gyda’r delynores Alis Huws, ac fe ymddangosodd yn ddiweddar fel unawdydd yn Concerto Ffliwt a’r Delyn Mozart yng Ngŵyl Conwy, yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau ledled y DU. Ochr yn ochr â’i gyrfa glasurol, mae Carys yn aelod o’r deuawd gwerinol ‘Elin a Carys’ gyda’i chwaer, ac yn perfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol. Drwy’r prosiect hwn, mae hi’n mwynhau chwarae’r acordion, chwiban a ffliwtiau traddodiadol a chanu harmonïau. Maent wedi perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, yr Ŵyl Pan Geltaidd, yn ogystal â chreu cryn argraff ar y sin gerdd yng Nghymru drwy chwarae mewn canolfannau ar draws y wlad. Nhw oedd enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 ac mae amserlen lawn o gigs ganddynt ar y gweill, gan gynnwys ymddangos yn Between the Trees Festival, Eisteddfod Llangollen, Focus Wales a Gŵyl Werin Abergwaun. Nhw yw derbynyddion Cronfa Lansio 2026 Gorwelion y BBC ac maent yn mynd i ryddhau eu EP cyntaf eleni. Mae perfformiadau Carys wedi cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru, BBC Two, BBC Four, BBC Radio 3, S4C a Klara Radio. Mae hi’n gweithio’n aml fel chwaraewr ychwanegol gyda cherddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa’r Royal Opera House, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Birmingham Royal Ballet a Scottish Ballet. Mae hi hefyd wedi ymrwymo’n llwyr at ddefnyddio cerddoriaeth i wella lles, ac yn perfformio’n rheolaidd i bobl sy’n byw gyda dementia a chlefyd Alzheimer, drwy gynllun Cerddoriaeth Mewn Ysbytai a Care and Live Music Now.

Carys Gittins is a Welsh flautist active as an orchestral, folk and chamber musician throughout the UK and internationally. She studied at the Guildhall School of Music and Drama, graduating with a first-class undergraduate degree followed by a Master’s degree with Distinction. During her studies, she was awarded the Ken Smith Flute Prize for three consecutive years and went on to win the prestigious Instrumental Blue Ribband at the National Eisteddfod. Carys has recently toured with Sinfonia Cymru alongside Catrin Finch, Patrick Rimes and Hannan Issa, the National Poet of Wales. Alongside her orchestral work, she maintains a busy chamber music schedule and has been a member of the Aglica Trio for almost ten years, performing widely across the UK and internationally. Highlights include an intensive tour of Belgium and appearances at the National Forum of Music in Wrocław. She also performs regularly in a well-established duo with harpist Alis Huws, recently appearing as soloists in Mozart’s Flute and Harp Concerto at the Conwy Festival, as well as giving recital performances at festivals across the UK. Alongside her classical career, Carys is a member of folk duo ‘Elin a Carys’ with her sister, performing across the UK and internationally. Through this project enjoys playing accordion, whistles and trad flutes and singing in harmonies. They have performed at Green Man Festival, the Pan Celtic Festival, as well as making their mark upon the Welsh music scene playing at venues across the country. They were the winners of the Battle of the Folk Bands at the National Eisteddfod 2025 and have a busy schedule of gigs lined up including Between the Trees Festival, Llangollen Eisteddfod, Focus Wales and Fishguard Folk Festival. They are recipients of the Launchpad Fund 2026 from BBC Horizons and will be releasing their debut EP this year. Carys’s performances have been broadcast on BBC Radio Cymru, BBC Two, BBC Four, BBC Radio 3, S4C and Klara Radio. She works regularly as an extra player with orchestras including the Orchestra of the Royal Opera House, BBC National Orchestra of Wales, Birmingham Royal Ballet and Scottish Ballet. She is also deeply committed to using music to enhance wellbeing, regularly performing for people living with dementia and Alzheimer’s through Music in Hospitals and Care and Live Music Now.

Carys copy.jpg
bottom of page