top of page

Gwydion Rhys dob?

Mae Gwydion Rhys, cerddor o Wynedd, wedi bod yn perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth o oedran ifanc. Mae'n ysgolhaig RCM yn ei bedwaredd flwyddyn, yn astudio cyfansoddi gydag Alison Kay yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain. Mae Gwydion wedi ennill nifer o wobrau am gyfansoddi, gan gynnwys y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2023, lle roedd y beirniaid "yn unfrydol bod darganfod y llais ifanc yma [...] yn hynod o gyffrous ar gyfer [y] dyfodol a chenhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr Cymru." Dewiswyd ei gyfansoddiad Mistico i’w berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym mhrosiect Cyfansoddi: Cymru 2025.

 

Yn 2020 bu'n gweithio ochr yn ochr â Camerata Gogledd Cymru ar recordiad rhithiol o'i Élégie ar gyfer llinynnau, y gwnaeth ei arwain. Eisoes, derbyniodd gomisiynau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chlwb Cerdd y Rhyl. Mae premières byd diweddar yn cynnwys Two Homages, Taith, De profundis a Ffanffer Graddio yn yr RCM, a Pum Pedwarawd yng Ngŵyl Gerdd Bangor. Bydd ei Ddau Ddarn ar gyfer Cerddorfa, a enillodd Gystadleuaeth Cyfansoddi i Ensemble Mawr yr RCM, yn cael eu perfformio ym Mawrth 2025. Nod Gwydion yw cyfansoddi ac arwain yn broffesiynol.

ENG
Gwydion Rhys b&w_edited.jpg

Gwydion Rhys has been performing and composing music from an early age. He is an RCM scholar, studying for a BMus in Composition with Alison Kay at the Royal College of Music, London. He will start a two-year MMus in Composition at the RCM in September 2025. Gwydion has been awarded numerous prizes for composition, including the Composition Medal at the Urdd National Eisteddfod in 2023, where the adjudicators “were unanimous that the discovery of this young voice […] is incredibly exciting for the future and for the next generation of Welsh composers.” Gwydion’s Mistico was selected to be performed by the BBC National Orchestra of Wales for the Composition: Wales 2025 project.

 

In 2020 he worked alongside the North Wales Camerata on a virtual recording of his Élégie for strings, which he also conducted. He has received commissions from the National Library of Wales and Rhyl Music Club. Recent world premières include Two Homages, Taith (Journey), De profundis and Graduation Fanfare at the RCM, and Five Quartets at Bangor Music Festival. His Two Pieces for Orchestra won the RCM’s Large Ensemble Composition Competition, and will be performed in March 2025. Gwydion’s aim is to compose and conduct professionally.

bottom of page