top of page

Tuesday 14 April, 16:00-17:30

CoDI INTERACT: Unpacking Sync

Free event (online via Zoom)

Register using link below

​

Interested in getting your music on TV and film, or composing for library music? Naomi Belshaw offers a candid look at the synchronisation industry, addressing the practical barriers and administrative hurdles artists of all genres face when placing music in media. By setting realistic expectations and breaking down the complexities of the sync process, this session helps music-creators better understand market requirements and prepare their work for real opportunities. 

Naomi Belshaw is an experienced consultant for musicians and composers, specialising in career development. Originally trained as an archaeologist, she transitioned from a passion for music into a career across the UK music sector, working with organisations including PRS for Music, PRS Foundation, and WildKat PR. 

​

In 2019, Naomi founded her consultancy, offering artists and composers strategic career advice informed by her broad experience in funding, festival curation, publishing, licensing, royalties, PR, and marketing. A recipient of the MMF Accelerator Programme in 2022, supported by YouTube Music, she is currently leading an initiative to expand opportunities for British contemporary classical music in sync across TV, film, advertising, and games. 

​

Naomi brings industry-leading insight to her workshops, drawing on recent work including chairing a panel on classical music in the digital space at SXSW in Austin, Texas. She is also Chair of the Three Choirs Festival and performs as a violinist with prog-rock band The Wood Demons.

Dydd Mawrth 14 Ebrill, 16:00-17:30

CoDI RHYNGWEITHIO: Dadbacio Sync

Digwyddiad am ddim (ar-lein drwy Zoom)

Dolen isod i archebu lle 

​

Oes gennych chi ddiddordeb cael eich cerddoriaeth ar y teledu neu mewn ffilm, neu gyfansoddi ar gyfer cerddoriaeth llyfrgell? Mae Naomi Belshaw yn cynnig golwg onest ar y diwydiant cydamseru, gan drafod y rhwystrau ymarferol a’r rhwystrau gweinyddol y mae artistiaid o bob genre yn eu hwynebu wrth osod cerddoriaeth yn y cyfryngau. Drwy roi disgwyliadau realistig a dadansoddi cymhlethdodau’r broses gydamseru, mae’r sesiwn hon am helpu crewyr cerddoriaeth i ddeall gofynion y farchnad yn well a pharatoi eu gwaith at gyfleoedd go iawn. 

Mae Naomi Belshaw yn ymgynghorydd profiadol i gerddorion a chyfansoddwyr, ac mae’n arbenigo mewn datblygu gyrfaoedd. Hyfforddodd yn wreiddiol i fod yn archaeolegydd, ond esblygodd ei hangerdd at gerddoriaeth i fod yn yrfa ledled sector cerddoriaeth y DU, gan weithio gyda sefydliadau sy’n cynnwys PRS for Music, Sefydliad PRS, a WildKat PR. 

​

Yn 2019, sefydlodd Naomi ei chwmni ymgynghori, gan gynnig cyngor strategol ar yrfa i artistiaid a chyfansoddwyr a hynny ar sail ei phrofiad eang mewn cyllido, curadu digwyddiadau, cyhoeddi, trwyddedu, breindaliadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Roedd hi’n un o dderbynyddion Rhaglen Cyflymydd MMF yn 2022, gyda chefnogaeth YouTube Music, ac mae hi ar hyn o bryd yn arwain menter i ehangu cyfleoedd ar gyfer cerddoriaeth glasurol gyfoes Brydeinig mewn cydamseriad ar draws teledu, ffilm, hysbysebu a gêmau. 

​

Mae Naomi yn dod â dealltwriaeth flaenllaw i’r diwydiant i’w gweithdai, gan dynnu ar ei gwaith diweddar sy’n cynnwys cadeirio panel ar gerddoriaeth glasurol yn y gofod digidol yn SXSW yn Austin, Texas. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Gŵyl y Tri Chôr ac yn perfformio fel feiolinydd gyda’r band roc The Wood Demons. â€‹

​

naomibelshaw.com

bottom of page